Mae Coleg y Cymoedd wedi lansio ei gwrs galwedigaethol cyntaf a ddarperir yn gyfan gwbl yn y Gymraeg, gan greu llwybr newydd i ddysgwyr wrth helpu i fynd i’r afael â’r galw cynyddol am staff gofal plant dwyieithog ledled y rhanbarth.
Bydd y cwrs Gofal Plant Lefel 2, sy’n dechrau ym mis Medi ar Gampws Nantgarw y coleg, yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau a magu’r hyder sydd eu hangen i weithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r cwrs yn ymateb i’r galw cynyddol gan gyflogwyr am staff dwyieithog, wrth gefnogi uchelgais Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Dan arweiniad y tiwtor o Gaerffili, Lois Moremon, mae’r cwrs yn canolbwyntio’n gryf ar fagu hyder proffesiynol. Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau ymarferol ar gyfer gweithio mewn meithrinfeydd ac amgylcheddau blynyddoedd cynnar, wrth ddysgu sut i gyfathrebu’n naturiol ac yn effeithiol â phlant a theuluoedd sy’n siarad Cymraeg.
Dywedodd Lois: “Yn y sector gofal plant, mae gallu siarad Cymraeg wir yn fantais. Mae llawer o’n dysgwyr yn mynd ymlaen i weithio mewn rolau cymunedol, lle mae ymgysylltu â theuluoedd yn eu hiaith gyntaf mor bwysig.
Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr feithrin eu sgiliau proffesiynol wrth barhau i ddefnyddio a datblygu eu Cymraeg, gan agor drysau i gyfleoedd gyrfa gwerth chweil yma yng Nghymru.”
Daw datblygiad y cwrs yn sgil galwadau ehangach am ragor o gyfleoedd galwedigaethol ôl-16 drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ochr yn ochr â’r cwrs newydd hwn, mae Coleg y Cymoedd yn parhau i fuddsoddi mewn amrywiaeth o fentrau Cymraeg i gefnogi dysgwyr a staff i ddefnyddio’r Gymraeg ym mywyd bob dydd y coleg. Mae’r rhain yn cynnwys mannau cymdeithasol ‘Cwtsh Cymraeg’ ar bob campws, rhwydwaith o lysgenhadon myfyrwyr, a datblygu teclyn newydd wedi’i bweru gan ddeallusrwydd artiffisial i gefnogi Cymraeg llafar ac ynganu geiriau Cymraeg.
Ychwanegodd Jonathan Morgan, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Rydyn ni’n falch o lansio ein cwrs galwedigaethol cyfrwng Cymraeg cyntaf. Drwy gyflwyno’r llwybr hwn ar Lefel 2, rydyn ni’n cryfhau cyfleoedd dilyniant i siaradwyr Cymraeg wrth arfogi dysgwyr â’r sgiliau dwyieithog y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Mae cefnogi dysgwyr yn y modd hwn yn chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu gweithlu hyderus, dwyieithog ar draws sectorau allweddol yng Nghymru.”
Bydd y cwrs yn dechrau ym mis Medi 2026 ar gampws Nantgarw. Mae ceisiadau bellach ar agor i ddysgwyr sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd mewn addysg blynyddoedd cynnar, gofal plant a’r sector gofal ehangach.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR





