Coleg y Cymoedd yw’r coleg Addysg Bellach cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio Cynorthwyydd Recriwtio SMART AI.
Wedi’i lansio ym mis Tachwedd 2023, mae’r Cynorthwyydd AI yn eistedd ar wefan y coleg ac yn defnyddio technoleg deallusrwydd artiffisial (AI) i rymuso darpar ddysgwyr a rhieni trwy roi gwybodaeth gynhwysfawr iddynt am opsiynau cyrsiau a manylion y campws.

Gyda chynnydd ym maes AI a’r galw am gael gafael ar wybodaeth â chlic botwm, pa bynnag adeg o’r dydd, roedd Coleg y Cymoedd yn ymchwilio i gyflwyno cynorthwyydd recriwtio AI i integreiddio’n ddi-dor i wefan y coleg er mwyn gwella profiad y defnyddiwr.
Cwmni datblygu AI, ICS. AI oedd y dewis amlwg fel partner yn sgil eu llwyddiant fel crewyr cyntaf AI sy’n perfformio cystal â chynorthwywyr o gig a gwaed, gan gynyddu boddhad sefydliadau fel Prifysgol Durham, Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron EM a Chyngor Dinas Southampton fel defnyddwyr, y tu hwnt i’w canolfannau galwadau neu ddesgiau cymorth.
Mae Cynorthwywyr AI ICS. AI wedi bod yn helpu prifysgolion i gynyddu’r ymgysylltiad â dysgwyr a hwyluso dysgu o bell trwy ddarparu platfform rhyngweithiol sy’n cael ei yrru gan AI ar gyfer dysgwyr a staff am dros bum mlynedd.
Yn lle’r ‘sgwrsfot’ traddodiadol, lle rhoddir atebion syml i nifer dethol o gwestiynau cyffredinol, mae platfform y Cynorthwyydd Recriwtio Dysgwyr AI yn gartref i fodel iaith sefydliadol addysg bellach a adeiladwyd ymlaen llaw sy’n cynnwys dros 400 o bynciau a chwestiynau perthnasol. Fe’i cynlluniwyd i gynnig profiad defnyddiwr ymdrochol, sgwrsiol.
Mae hyn yn cynnwys casglu ymholiadau gan ddarpar ddysgwyr, cofrestru mynychwyr ar ddiwrnodau agored rhithwir, a chysylltu dysgwyr â’r adnoddau diweddaraf mewn amser real.
Beth bynnag yw ymholiad y defnyddiwr, mae Cynorthwywyr AI yn arwain defnyddwyr, mewn ffordd ddeallus, at yr ateb gorau. Mae’r swyddogaeth ar gael 24 awr y dydd, bob dydd, mewn sawl iaith a gyda lefel gywirdeb dros 90%. Yr hyn sydd fwyaf trawiadol, yw y bydd y Cynorthwyydd AI yn parhau i wella a chasglu gwybodaeth wrth ryngweithio â Chynorthwywyr AI eraill yn y sector addysg.
Hefyd, er mwyn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg, roedd yn hanfodol i Goleg y Cymoedd fod adnabod iaith a chyfieithu yn cael eu curadu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae platfform AI ICS.AI SMART yn cefnogi dros 100 o ieithoedd i alluogi adnabod a chyfieithu trwy seiliau gwybodaeth wedi’u curadu.
Dywedodd Rory Meredith, Cyfarwyddwr Strategaeth Ddigidol ac Arloesi’r Coleg, “Pwrpas y cynorthwyydd yw gwella’r daith recriwtio dysgwyr ar gyfer Coleg y Cymoedd. Fe wnaethon ni ddewis ICS. AI yn seiliedig ar eu profiad dibynadwy yn y sector addysg a’r arloesedd a gynigir trwy brofiad AI sgyrsiol, gan ddefnyddio eu llwyfan SMART:AI a model iaith sefydliadol addysg bellach a adeiladwyd ymlaen llaw”.
Yn dilyn cystadleuaeth fewnol a gynhaliwyd ymhlith staff a dysgwyr, penderfynodd Coleg y Cymoedd enwi ei gynorthwyydd AI yn A.R.N.Y. Mae A.R.N.Y. sef yr enw mwyaf poblogaidd a awgrymwyd gan fwy nag un person, yn acronym ar gyfer pedwar campws Coleg y Cymoedd: Aberdâr, Rhondda, Nantgarw, Ystrad Mynach.
Ers ymddangosiad cyntaf A.R.N.Y., ddiwedd y llynedd, mae gwefan y coleg wedi gallu datrys dros 90% o ymholiadau ei ddefnyddwyr, ac, am y tro cyntaf, gyda chyfran anhygoel o 40% o’r cwestiynau yn cael eu hateb y tu allan i oriau agor y coleg. Mae hygyrchedd y Cynorthwyydd AI yn golygu y gall y coleg ymwneud â darpar ddysgwyr a darparu ateb yn gynt nag erioed o’r blaen.
Meddai ICS.AI am y bartneriaeth, “Wrth i’r dirwedd addysgol esblygu’n gyflym gyda dyfodiad AI cynhyrchiol, mae sefydliadau’n wynebu penderfyniad hanfodol; pryd a sut i integreiddio AI i’w prosesau addysgu a dysgu. Mae Coleg y Cymoedd wedi bod yn bartner perffaith ac mae ganddyn nhw frwdfrydedd aruthrol i gydweithio ac arloesi.”
“Fel rhan o drawsnewidiad AI ehangach Coleg y Cymoedd, rydym hefyd yn cydweithio ar brosiect gwerthuso peilot sy’n defnyddio AI cynhyrchiol i wella’r profiad addysgu a dysgu, sydd wedi bod yn llwyddiannus i ddenu cyllid drwy Lywodraeth Cymru.”
Gallwch chi sgwrsio gydag A.R.N.Y., drosoch eich hun, yma: www.cymoedd.ac.uk
Gallwch ddarganfod mwy am brosiect gwerthuso peilot ICS.AI, yma
Gallwch hefyd lawrlwytho gweminar gan Rory Meredith, Cyfarwyddwr Strategaeth Ddigidol ac Arloesi yng Ngholeg y Cymoedd sy’n rhoi cipolwg ar broses werthuso’r coleg, yma
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




