Coleg y Cymoedd, darparwr blaenllaw cyrsiau Coginio Proffesiynol ac enillydd Ysgol Goginio’r Flwyddyn Gwobrau Bwyd Cymru ddwywaith, oedd y cyrchfan cyntaf ar daith llywodraeth yr Eidal i hyrwyddo bwyd Eidalaidd.
Mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd ar gampws Nantgarw fis diwethaf, dysgodd cant o ddarpar gogyddion gan arbenigwyr cigoedd deli Eidalaidd mewn dosbarth meistr arbennig a drefnwyd gan Asiantaeth Masnach Eidalaidd ITA London, ASSICA a Sefydliad Hyrwyddo Cigoedd Deli Eidalaidd (IVSI), sy’n teithio o amgylch y DU i arddangos ansawdd ac amrywiaeth cigoedd Eidalaidd wedi’u halltu.
Arweiniwyd y dosbarth meistr gan Domenico ‘Mimmo’ Maggi, arbenigwr enwog ar fwyd Eidalaidd ac aelod o Ffederasiwn Cogyddion Eidalaidd gyda chefnogaeth Darlithydd Lletygarwch ac Arlwyo Coleg y Cymoedd, Massimiliano Vian.
Roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar ddefnyddio gwahanol fathau o gigoedd Eidalaidd wedi’u halltu mewn seigiau creadigol a blasus. Hefyd, eglurodd Maggi hanes, cynhyrchiad ac ardystiad y cynhyrchion hyn, a sut maent yn adlewyrchu diwylliant a thraddodiad yr Eidal.
Clywodd dysgwyr Coleg y Cymoedd am gynaliadwyedd a manteision cigoedd wedi’u halltu o’r Eidal, sy’n cael eu gwneud o gynhwysion naturiol ac sy’n dilyn safonau ansawdd llym. Fe wnaethon nhw ddysgu sut i ddefnyddio’r cynhyrchion hyn mewn diet cytbwys ac amrywiol, a sut i osgoi gwastraff bwyd drwy ddefnyddio pob rhan o’r anifail. Cawsant gyfle hefyd i flasu’r seigiau a baratowyd gan Maggi, ac i ofyn cwestiynau iddo am ei yrfa a’i brofiad.
Roedd y dosbarth meistr yn llwyddiant ysgubol, a mynegodd dysgwyr a staff Coleg y Cymoedd eu gwerthfawrogiad a’u brwdfrydedd am y digwyddiad. Diolchwyd i’r trefnwyr a’r cogydd am rannu eu gwybodaeth a’u hangerdd am gigoedd wedi’u halltu o’r Eidal, ac am roi profiad dysgu unigryw ac ysbrydoledig iddynt.
I ddysgu rhagor am Raglen Gynaliadwyedd ASSICA, ewch i: https://lnkd.in/e-VRFTb
I ddysgu am y cyrsiau arlwyo yng Ngholeg y Cymoedd, ewch i: https://www.cymoedd.ac.uk/courses/arlwyo-a-lletygarwch/?lang=cy
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




