Grŵp o Goleg y Cymoedd yn ennill am y ffilm ddogfen fer orau
Mae grŵp o ddysgwyr o gymoedd De Cymru yn dathlu ar ôl cipio gwobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni gan ddod y myfyrwyr cyntaf yn hanes Coleg y Cymoedd i wneud hynny.
Cyflwynodd Harley Johnson (17), Adeesha Wickramaratne (17), Liam Alderman (17) a Ffion Traylor (17), sydd i gyd yn astudio am ddiploma Cynhyrchu Creadigol Lefel 3 yn y coleg, eu rhaglen ddogfen ‘TIC TOC: (Mae amser yn tician)’ ar gyfer y categori ffilm fer a chipio’r brif wobr.
Roedd y myfyrwyr, sydd i gyd yn eu harddegau, wedi eu hannog i gystadlu gan eu tiwtoriaid yng Ngholeg y Cymoedd ac fe wnaethon nhw sefydlu eu cwmni cynhyrchu eu hunain, ‘Cynhyrchiadau HALF Productions’, er mwyn creu’r ffilm fer y tu allan i ymrwymiadau eu cwrs.
Mae ‘TIC TOC (Mae amser yn tician)’ yn waith ymchwiliol, sy’n ystyried cwestiynau am yr arferion y mae pobl yn eu datblygu ym myd y cyfryngau cymdeithasol, effeithiau sgrolio drwy ddeunydd negyddol – y weithred o dreulio gormod o amser yn darllen newyddion ar-lein – a’r effaith andwyol y mae hyn i gyd yn ei gael ar bobl ifanc wrth i lefelau cyfathrebu ar lafar ostwng. Edrychodd y rhaglen ddogfen hefyd ar y manteision y mae cyfryngau cymdeithasol wedi’u cyflwyno i gymdeithas ac roedd yn cynnwys cyfweliadau gyda’r artist rap Cymreig, Sage Todz.
Wrth son am gynhyrchu a golygu ffilm gyflawn am y tro cyntaf, dywedodd Adeesha Wickramaratne, sy’n gobeithio dilyn gyrfa mewn sinematograffi: “Cafodd popeth a ddysgais yng Ngholeg y Cymoedd ddylanwad aruthrol ar ein gallu i gynhyrchu’r rhaglen ddogfen hon. Defnyddiais hyn i gyd yn y prosiect a chredaf iddo wneud y ffilm yn un drawiadol. Roedd cael athrawon yn rhoi adborth i ni hefyd wedi ein helpu i leihau unrhyw faterion technegol a heb gymorth y coleg ni fyddem wedi cael y cyfle a’r sgiliau yr oedd eu hangen arnom, felly diolch yn fawr iawn iddyn nhw.”

Dywed Nerys Davies, hwylusydd y Gymraeg yn yr Ysgol Diwydiannau Creadigol ei bod wrth ei bodd gyda llwyddiant ‘TIC TOC (Mae amser yn tician)’ yn yr Eisteddfod. Ychwanegodd: “Dyma’r tro cyntaf i unrhyw un o’r coleg ennill gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae’n mynd i fod yn ysbrydoliaeth i eraill gystadlu a llwyddo yn y dyfodol. Mae’r grŵp wedi ystyried yr holl gynghorion ac addysgu rydyn ni wedi ei gyflwyno iddyn nhw ac maen nhw wedi defnyddio eu menter eu hunain i greu rhywbeth gwych. Rydyn ni i gyd mor falch ohonyn nhw.”
Mae pob aelod o gwmni ‘Cynyrchiadau HALF Productions’ yn ystyried cael gyrfa yn y diwydiannau creadigol ar ôl y llwyddiant hwn. Mae Ffion Traylor wedi treulio cyfnod yn cael ei chyflogi ar ffilm fer Gymraeg fel rhan o ‘It’s My Shout’, cwmni datblygu talent sy’n rhoi gwaith ar gynyrchiadau proffesiynol BBC Cymru ac S4C i ddarpar wneuthurwyr ffilm. Dywedodd Ffion, sydd nawr yn gobeithio bod yn oruchwylydd sgriptiau neu Gyfarwyddwr Cynorthwyol, fod cystadlu wedi ei gwneud hi’n gyffrous ar gyfer ei gyrfa yn y dyfodol. Meddai hi:
“Roedd cofrestru yng Ngholeg y Cymoedd yn teimlo fel y cam cyntaf tuag at fy nyfodol yn y diwydiant ffilm. Ar ôl dechrau’r cwrs roedd y diwydiant yn teimlo’n fwy hygyrch i mi a gwnaeth i mi sylweddoli mai dyma beth rydw i eisiau ei wneud yn y dyfodol. Fyddwn i ddim wedi cael llawer o hyder i roi dim o fy ngwaith i mewn i ŵyl ffilm heb i’r coleg fy annog. Rwy’n tybio bod hyn oherwydd nad oeddwn yn credu bod fy ngwaith yn ddigon da i gael ei ystyried fel gwaith buddugol. Ond fe wnaeth Coleg y Cymoedd fy helpu i gael yr hyder hwnnw i gyflwyno fy ngwaith ac mae pethau wedi gweithio allan yn dda.”
Dim ond un o lwyddiannau’r wythnos yn yr Eisteddfod oedd gwobrwyo’r ffilm fer i Goleg y Cymoedd. Dyfarnwyd ‘Ysgoloriaeth Emyr Feddyg’ i Lois Roberts, Rheolwr Iaith Gymraeg y coleg, sef gwobr hynod werthfawr sy’n cynnig hyfforddiant i awduron newydd gael eu mentora gan awduron profiadol. Cyflwynodd Lois straeon yn seiliedig ar ei phrofiadau ei hun fel menyw yn y Cymoedd tra hefyd yn cael ei hysbrydoli gan ei gwaith o ddydd i ddydd yn y coleg.

Ugain mlynedd yn ôl arferai Lois ysgrifennu’n greadigol yn gyson, ac mae hi nawr wedi penderfynu dychwelyd at hynny ar ôl ei chyfnod yn magu teulu. Gobaith y fam i ddau o blant yw bydd i’r wobr ei symbylu i gael gyrfa’n ysgrifennu nofelau yn ogystal â pharhau â’i swydd yng Ngholeg y Cymoedd.
Cynhaliodd Coleg y Cymoedd ei hun hefyd wythnos o ŵyl ar Faes yr Eisteddfod, gan gynnwys croesawu capten pêl-droed Cymru, Aaron Ramsey, ac arwr Ewro 2016, Joe Ledley, i babell Coleg y Cymoedd. Roedden nhw’n bresennol yn rowndiau terfynol yr e-chwaraeon cyntaf erioed i’w cynnal yn Gymraeg. Y sylwebydd ar y gystadleuaeth oedd un o’n plith sy’n sylwebu ar BBC Radio Wales, sef hyfforddwr Academi Pêl-droed Merched Coleg y Cymoedd, Kath Morgan.
Cynhaliwyd parti bywiog hefyd ar gyfer cymunedau a chynghreiriaid LHDTC+ y Cymoedd gyda gweithgareddau oedd yn cynnwys disgo tawel a pherfformiad drag. Roedd y parti yn un o nifer o ddathliadau o gymunedau a bywyd y Cymoedd a gynhaliwyd gan y coleg.
Yn ôl Rhys Ruggiero, oedd yn arwain gweithgareddau’r Eisteddfod ar ran Coleg y Cymoedd: “Roedd ganddon ni gymaint yn digwydd yma ym mhabell Coleg y Cymoedd drwy gydol wythnos yr Eisteddfod, roedd rhywbeth at ddant pawb. Mae’n gynrychiolaeth wirioneddol o’r arlwy llawn sydd gennym yn y coleg. Yn bwysicach fyth, mae wedi bod yn gyfle gwych i ddathlu’r Cymoedd. Dathlu’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol, yn ei holl ogoniant amrywiol ac rydym yn falch o neilltuo’n lle ynddo.”
Gan weithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’r Cymoedd yn ariannu darlithwyr cyfrwng Cymraeg ac yn cynnig ysgoloriaethau i ddysgwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gan y coleg hefyd Dîm Iaith Gymraeg penodedig sy’n cynnwys dysgwyr sy’n Llysgenhadon y Gymraeg ac sy’n gwirfoddoli i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn eu meysydd astudio.
Mae’r coleg yn cynnig cyrsiau Cymraeg ar wahanol lefelau, yn ogystal â rhai cyrsiau galwedigaethol a addysgir yn Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae’r cyrsiau hyn yn helpu’r dysgwyr a’r staff i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, i weithio mewn amgylchedd dwyieithog, ac i gael mynediad at gymorth llesiant a chymorth dysgu yn Gymraeg. Mae’r coleg yn darparu cefnogaeth yn Gymraeg trwy gydol y gwaith, yr arholiadau a’r dilyniant i addysg uwch ac mae Clwb Cymraeg ar bob campws.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR





