Mae angen eich help arnom ni. Rydyn ni’n bwriadu cau Meithrinfa Ystrad Mynach ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon. Mae hwn yn benderfyniad anodd iawn, a gwyddom faint mae’r feithrinfa yn ei olygu i’n staff, dysgwyr, rhieni, a’r gymuned.
Mae’r feithrinfa wedi darparu gofal plant o ansawdd uchel ers 29 mlynedd, yn bennaf ar gyfer dysgwyr a staff, ond hefyd ar gyfer rhai teuluoedd lleol. Mae wedi bod yn wasanaeth gwerthfawr sydd wedi cefnogi llawer o bobl i fanteisio ar gyfleoedd addysg a hyfforddiant yng Ngholeg y Cymoedd. Fodd bynnag, oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys cwymp yn y galw, costau uchel a newidiadau mewn cyllid, rydyn ni wedi gorfod ystyried hyfywedd y feithrinfa.
Rydyn ni eisiau clywed gennych chi cyn i ni wneud penderfyniad terfynol.
Rydyn ni’n eich gwahodd i ymuno â ni am sesiwn ymgynghori ar ein campws yn Ystrad Mynach ddydd Llun 15 Mawrth 2024, lle gallwch rannu eich barn a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Rydyn ni wedi trefnu dau slot amser ar gyfer y sesiwn:
Os na allwch ddod i’r sesiwn, gallwch lenwi ffurflen ar-lein yma
Bydd y ffurflen yn cau am 9am ddydd Iau 8 Ebrill.
Mae eich adborth yn bwysig i ni. Byddwn yn ei ystyried cyn i ni wneud penderfyniad terfynol ynghylch y feithrinfa.
Diolch am eich cefnogaeth a’ch dealltwriaeth.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




