O brentis i Brif Swyddog Gweithredol: Stori Pennaeth Coleg y Cymoedd, Jonathan Morgan

Mae Jonathan Morgan, Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol yng Ngholeg y Cymoedd, yn trafod sut y trawsnewidiwyd ei lwybr addysgol fel prentis yn ei arddegau a oedd yn sylfaen yn y pen draw ar gyfer ei yrfa broffesiynol fel addysgwr. Ond nid cyn treulio rhai blynyddoedd yn gwireddu breuddwyd ei blentyndod fel chwaraewr pêl-droed proffesiynol yn chwarae i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

“Fel llawer o bobl ifanc, wnes i ddim ffynnu yn yr ysgol. Wrth eistedd mewn ystafell ddosbarth bob dydd, yn dysgu am bynciau nad oedd o ddiddordeb i mi, yn syllu allan drwy’r ffenest yn breuddwydio am fod yn bêl-droediwr proffesiynol. Roeddwn i’n teimlo fy mod yn gwastraffu fy amser. Afraid dweud, mae’n rhaid fod hynny’n rhwystredig iawn i fy rhieni ac athrawon.

“Roeddwn i’n chwarae pêl-droed bob munud sbâr oedd gen i, heb unrhyw ddiddordeb mewn astudio. Yn naturiol, fe wnes i neidio ar y cyfle i adael yr ysgol ychydig cyn fy mhen-blwydd yn un ar bymtheg i chwarae i Gaerdydd, y tîm roeddwn i wedi’i gefnogi erioed.

“Allwn i ddim credu fy lwc. Roeddwn i allan o’r ystafell ddosbarth o’r diwedd a nawr yn rhan o raglen brentisiaeth dwy flynedd a oedd yn golygu mynd i’r coleg i astudio un diwrnod yr wythnos, a gweddill yr amser roeddwn i’n gallu chwarae pêl-droed. Roedd yn teimlo fel bargen deg. Ac ychydig a wyddwn i ar y pryd, ond byddai’r brentisiaeth hon yn mynd â mi ymhellach o lawer na’r yrfa bêl-droed yr oeddwn wedi breuddwydio amdani erioed ac yn meithrin ynof angerdd am addysg a dealltwriaeth ddofn i’r rhai ar lwybrau dysgu anhraddodiadol. Ac mae hynny wedi bod yn sail i’m gyrfa gyfan.

“Astudiais am ddwy flynedd gyda Choleg Glan Hafren (Caerdydd a’r Fro bellach) am ddiwrnod yr wythnos gyda fy nghytundeb Dinas Caerdydd, ochr yn ochr â chwaraewyr Dinas Abertawe a Sir Casnewydd. Roedd yn opsiwn poblogaidd i bêl-droedwyr uchelgeisiol, gydag enwau nodedig fel Jason Perry a Chris Coleman wedi cwblhau’r un cwrs.

“Rhoes y brentisiaeth gymhwyster Lefel 2 mewn astudiaethau Chwaraeon a Hamdden i mi, arf pwysig yn fy ngyrfa gynnar. Fodd bynnag, y sgiliau bywyd a ddysgais yn ystod fy siwrnai brentisiaeth oedd yr hyn a’m rhoes ar ben ffordd.

“Rhoes fy mhrentisiaeth yn gyfle i mi hyfforddi ac astudio fel oedolyn, gyda’r cyfrifoldebau’r byd gwaith, wrth amgylchynu fy hun gyda gweithwyr proffesiynol a ddaeth yn fentoriaid, cydweithwyr a ffrindiau i mi.

“Roedd yn rhaid i mi dyfu i fyny yn llawer cyflymach na fy nghyd-fyfyrwyr ysgol pan adewais i ddechrau fy mhrentisiaeth. Es i’n syth i mewn i amgylchedd proffesiynol lle roeddwn yn llwyr gyfrifol am fy llwyddiant fy hun. Wrth hyfforddi o ddydd i ddydd, roedd disgwyl i mi fod yn brydlon ac yn broffesiynol, ac roedd hyd yn oed yn rhaid i mi hyfforddi ar Ddydd Nadolig. Ond roedd yn werth chweil. Daeth fy nhîm yn ail deulu i mi, a chefais fy nhrin fel oedolyn gan fy hyfforddwyr a thiwtoriaid coleg, a wnaeth i mi fod eisiau bod y fersiwn orau ohonof fi fy hun ac ymdrechu i lwyddo, rhywbeth a gafodd ei ategu gan y ffaith fy mod yn cael fy nhalu. Mae rhyddid ariannol yn eich ysgogi a’ch galluogi i fyw eich bywyd, yn enwedig fel oedolyn ifanc.

“Arweiniodd fy mhrentisiaeth at yrfa 5 mlynedd fel chwaraewr pêl-droed proffesiynol, cyfnod bendigedig yn fy mywyd, ond un a gafodd ei dorri’n fyr yn anffodus oherwydd anaf i fy mhigwrn. Ond oherwydd y cymwysterau, y sgiliau a’r hyder yn sgil fy mhrentisiaeth cefais le ar y BA mewn Rheolaeth Hamdden ym Mhrifysgol Cymru fel myfyriwr aeddfed, gyda llond llaw o lefelau O a dim cymwysterau Safon Uwch.

“Agorodd ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf y drysau yr oedd fy mhrentisiaeth wedi’u datgloi’n flaenorol, gan fy arwain at fy ngyrfa mewn addysg. Dysgais fel darlithydd, a pharhau i ddatblygu fy addysg gyda gradd Meistr mewn Chwaraeon a Hamdden a chwrs TAR. Gweithiais mewn nifer o adrannau chwaraeon a hamdden mewn colegau ledled Cymru a Lloegr, a thri degawd yn ddiweddarach, cefais swydd Pennaeth yng Ngholeg y Cymoedd.

“Un o’r pethau rydw i fwyaf balch ohono yng Ngholeg y Cymoedd yw’r ddarpariaeth o gymaint o wahanol lwybrau i helpu dysgwyr o Gymru i ddod o hyd i’r llwybrau addysg a hyfforddiant sydd fwyaf addas iddyn nhw. Fel rhywun sydd wedi wynebu’r anawsterau o fod yn beg sgwâr mewn twll crwn, gallaf gydymdeimlo â’r dysgwyr sy’n dod drwy ein drysau sydd â phryderon tebyg. Fel coleg gallwn eu helpu i archwilio eu holl opsiynau, a’u grymuso i ddilyn eu diddordebau, ni waeth pa mor anhraddodiadol y gall y llwybr ymddangos, yn union fel y gwnes i.

“Diolch byth mae busnes a diwydiant yn ymwneud yn fwy gyda phrentisiaethau nag erioed o’r blaen, gyda phrentisiaethau’n cael eu gwerthfawrogi fwyfwy gan gyflogwyr, wrth i brofiad ymarferol a gwybodaeth o’r byd go iawn ddod yn asedau personol a phroffesiynol gwerthfawr iawn.

“Yn y pen draw, y dewis yw’r fuddugoliaeth wirioneddol i bob addysgwr a dysgwr. Mae’r moethusrwydd o gael opsiynau sy’n cyfateb i nodau gyrfa yn rhywbeth i’w werthfawrogi. Mae eich dewis i ddilyn prentisiaeth, neu opsiynau academaidd mwy traddodiadol fel Safon Uwch, yn dibynnu ar nifer o ffactorau fel nodau gyrfa, y diwydiant y mae gennych ddiddordeb ynddo a’ch hoff ddulliau dysgu.

“Fodd bynnag, fel rhywun a gafodd ei siapio yn eu blynyddoedd mwyaf ffurfiannol gan brentisiaeth, byddaf bob amser yn un o’u eiriolwyr mwyaf. Rwy’n falch o ddweud bod bron pob un o’n dysgwyr prentisiaeth yn sicrhau cyflogaeth amser llawn ar ôl iddynt raddio, gydag ystod enfawr o gyflogwyr fel Trafnidiaeth Cymru, GE Aviation a British Airways. Ac mae eu llwyddiant yn rhywbeth na fydd byth yn pylu yn fy llygaid i.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Dolenni ac adnoddau’r Coleg Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd