Cymerodd dysgwyr blwyddyn gyntaf, cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd, ran yn nigwyddiad cyntaf erioed y coleg, sef ‘Diwrnod Gofal ar Waith’.
Roedd tîm o diwtoriaid Iechyd a Gofal Cymdeithasol eisiau hybu ymgysylltiad dysgwyr a gwella addysgeg draddodiadol drwy hyfforddiant ymarferol dan arweiniad y sector.
Gan gyfuno eu hangerdd am addysgu â’u gwybodaeth a’u harbenigedd yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, creodd y darlithwyr ‘Diwrnod Gofal ar Waith’. Roedd hyn wedi galluogi dysgwyr o Aberdâr a Nantgarw i archwilio realiti gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol mewn ffordd ddifyr a rhyngweithiol.
Roedd hyn wedi galluogi dysgwyr o Aberdâr a Nantgarw i archwilio realiti gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol mewn ffordd ddifyr a rhyngweithiol.
Cafodd ystafelloedd dosbarth ar gampws Nantgarw eu trawsnewid yn lleoliadau gofal iechyd lle cymerodd dysgwyr ran mewn gweithdai nyrsio. Gyda gorsaf brysbennu, hyfforddiant ar ddefnyddio offer, senarios diagnostig cleifion realistig, a gweithgareddau’n canolbwyntio ar fydwreigiaeth, cafodd dysgwyr brofiad o sut beth yw rhoi theori ar waith.
Yn ddiweddarach yn y prynhawn, cymerodd dysgwyr ran mewn gweithgareddau a gynlluniwyd i wella’u gwybodaeth am yr anatomi dynol a sut mae hyn yn ymwneud â rolau ym maes gofal iechyd a bydwreigiaeth, yn ogystal ag adfywio brys ar gyfer gweithwyr gofal iechyd.
Y flwyddyn nesaf, yn eu hail flwyddyn o astudio yng Ngholeg y Cymoedd, bydd grwpiau Aberdâr a Nantgarw yn cael eu cyfuno, felly mae ‘Diwrnod Gofal ar Waith’ hefyd wedi bod yn gyfle gwych i ddysgwyr gydweithio a dod i adnabod ei gilydd ymlaen llaw.
Cynlluniwyd a pharatowyd y diwrnod ar y cyd gan Bennaeth Cynorthwyol yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Caitlin Broom-Janaway, a’r darlithydd Ashleigh Searle. Roedd eu brwdfrydedd a’u cyffro dros gyflwyno gwybodaeth hanfodol am y cwrs mewn ffordd fwy realistig a diddorol yn gwneud ‘Diwrnod Gofal ar Waith’ yn brofiad bythgofiadwy.


Esboniodd Ashleigh: “Cafodd ein ‘Diwrnod Gofal ar Waith’ ei gynllunio gyda chynyddu ymgysylltiad myfyrwyr wrth galon y cyfan, gan roi cyfle i ddysgwyr gael cipolwg go iawn ar fywyd fel gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.”
Ychwanegodd Caitlin: “Mae gweithgareddau fel y rhain yn helpu dysgwyr i gysylltu’r theori maen nhw’n ei astudio yn yr ystafell ddosbarth â’r byd go iawn, gan ddod â’u dysgu yn fyw mewn ffordd ystyrlon a chofiadwy. Mae wedi bod yn hynod werth chweil gweld dysgwyr yn magu hyder, datblygu sgiliau ymarferol a pharatoi ar gyfer gyrfaoedd yn y sector yn y dyfodol.”
Dywedodd y dysgwyr bod diwrnod o’r fath wedi rhoi hwb i’w hyder, gan eu bod wedi gallu ymgymryd â rolau gwahanol o fewn tîm amlddisgyblaethol i ddatrys problemau, gwneud diagnosis a chreu cynlluniau triniaeth ar gyfer claf efelychiadol.
Dechreuodd Laci Tovey, 17 oed o Dreharris, y cwrs ym mis Medi 2025 a dywedodd: “Mae heddiw wedi fy helpu i sylweddoli pam rydw i’n dilyn yr hyn rwy’n angerddol drosto, sef bod yn fydwraig. Roeddwn i’n gallu camu i wahanol rolau ym maes gofal iechyd, a dyna’n union beth rydw i eisiau ei wneud ar ôl coleg.”
Darganfyddwch fwy am gyrsiau sy’n gysylltiedig ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg y Cymoedd.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR





