Dangosodd Ruben Duggan, 21 oed o Fan-moel, dalent plymio eithriadol ar y llwyfan byd-eang, gan sicrhau ail safle yng nghystadleuaeth plymwr ifanc gorau’r byd. Dechreuodd ei lwybr yng Ngholeg y Cymoedd, lle bu’n mireinio ei sgiliau tra’n gweithio ym musnes ei deulu, Powerserv LTD.
Enillodd Ruben fedal arian ar y cyd yn rowndiau terfynol WorldSkills yn Lyon ddydd Sul.
Mae hyn yn dipyn o gamp iddo fe, ei goleg, a’r gymuned ehangach.
Roedd rowndiau terfynol WorldSkills, sydd yn aml yn dwyn y teitl ‘Gemau Olympaidd sgiliau’, yn cynnwys dros 1500 o gystadleuwyr o 69 o wledydd yn cystadlu mewn 62 o sgiliau dros bedwar diwrnod. Yn ystod y digwyddiad, roedd dros 250,000 o aelodau’r gynulleidfa yn dyst i ddoniau’r gweithwyr proffesiynol ifanc.
Rhoddodd Tîm y DU, a hyfforddwyd gan WorldSkills UK, berfformiad heb ei ail gydag aelodau’n ennill cydnabyddiaeth fyd-eang gan arbenigwyr y diwydiant. Mae eu cyfranogiad yn WorldSkills Lyon 2024 yn cyd-fynd â chenhadaeth WorldSkills UK i weithredu safonau hyfforddi o’r radd flaenaf yn y DU, mewn partneriaeth ag addysg, diwydiant a’r llywodraeth.
Mae llwyddiant Ruben yn ysbrydoli prentisiaid a myfyrwyr galwedigaethol, gan arddangos y cyfleoedd sydd i’w cynnig gan gystadlaethau fel WorldSkills UK.
Yn y seremoni gloi, dywedodd y Gweinidog Sgiliau Jacqui Smith: “Mae pawb sy’n cystadlu yn WorldSkills wedi dangos eu potensial fel arweinwyr ac arloeswyr y dyfodol, gan brofi bod y dyfodol mewn dwylo medrus.”
Ar ôl i Dîm y DU sicrhau safle yn y deg uchaf yn nhabl y medalau, dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Mae’n wych gweld bod ein ffocws parhaus ar godi ansawdd a safon y sgiliau yn llwyddo, nid yn unig i Dîm y DU ond i’r DU yn ei chyfanrwydd.
“Mae datblygu sgiliau o ansawdd uchel yn hanfodol i dyfu’r economi, ac mae perfformiad tîm y DU sydd wedi ennill medalau o flaen cynulleidfa fyd-eang yn anfon neges gref bod y DU yn rhywle rhagorol i fuddsoddi, datblygu talent, a chreu swyddi.”
Wrth sôn am ei lwyddiant, meddai Ruben: “Mae’n golygu popeth i mi. Mae fy mywyd cyfan yn troi o gwmpas hyn nawr. Nid dim ond fy mywyd i, ond hefyd fy mam a ’nhad, wrth i mi gynrychioli ein cwmni teuluol. Felly, mae fy nheulu cyfan yn falch iawn, ac mae’n golygu llawer i ni gyd.”
Mae llwyddiant Ruben yn deillio o’i hyfforddiant ymroddedig gyda Lee Perry ac ym mhencadlys GROHE yn yr Almaen. Mae cydbwyso hyfforddiant, gwaith a bywyd personol wedi bod yn heriol, ond mae ei angerdd yn rhoi ffocws iddo. Roedd WorldSkills UK yn ffordd wych o wella ei yrfa, gan wella ei gywirdeb, ei allu i reoli pwysau, a’i sgiliau rheoli amser.
Mynegodd Lee Perry, Darlithydd Plymio yng Ngholeg y Cymoedd a thiwtor Ruben, ei edmygedd, gan ddweud: “Roedd yn foment anhygoel fel tiwtor i weld Ruben Duggan yn casglu’r fedal Arian—cyflawniad gwirioneddol anhygoel ar y lefel yma.
“Mae gweld drosof fy hun yr ymroddiad a’r ymrwymiad fu gan Ruben yn ystod y broses hon yn dyst i’r person y mae. Rwy’n tu hwnt o falch ohono fe. Mae wedi bod yn bleser pur cael bod yn rhan o’r daith hon a diolch i bawb sydd wedi chwarae rhan.”
Mynegodd Jonathan Morgan, Pennaeth Coleg y Cymoedd, ei ddiolch: “Wrth i ni ddathlu llwyddiant Ruben wrth ennill medal arian, rydyn ni’n diolch i WorldSkills UK—partneriaeth gyda llywodraethau’r DU, byd addysg a diwydiant—am eu hymroddiad i gynnal safonau hyfforddi o’r radd flaenaf ledled y wlad. Rydyn ni hefyd yn diolch i Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru am eu hymrwymiad i wella’r gwaith o ymarfer sgiliau ymhlith cystadleuwyr o golegau yng Nghymru.
“Llongyfarchiadau mawr i Ruben ar y cyflawniad eithriadol hwn, a diolch o galon i’r staff am eu hamser a’u hymdrechion sylweddol wrth gefnogi eu dysgwyr, yn enwedig tiwtor Ruben, Lee Perry. Mae Coleg y Cymoedd yn hynod falch o fod wedi cyfrannu at daith Ruben ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at ei lwyddiannau yn y dyfodol.”
Mae nod gyrfa Ruben yn syml ond eto o ddifri: “I fod y plymwr gorau y gallaf fod.” Mae’r coleg yn hyderus, gyda’i dalent a’i benderfyniad, y bydd Ruben yn parhau i sicrhau llwyddiant rhyfeddol ac yn ysbrydoli llawer ar hyd y ffordd.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




