Ym mis Ebrill 2023, Coleg y Cymoedd oedd y coleg AB cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu Ecosia, porwr ecogyfeillgar sy’n plannu coeden bob tro y bydd rhywun yn ei ddefnyddio i chwilio ar-lein.
Daeth hyn yn sgil penodi Rachel Edmonds-Naish, y Pennaeth Cynorthwyol Dyfodol Cynaliadwy cyntaf yng Nghymru.
Ar y pryd, dywedodd Rachel: “Gyda dros 9,000 o staff a dysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd, mae gan newidiadau bach y potensial i wneud gwahaniaeth enfawr wrth inni fynd i’r afael â newid hinsawdd.
“Mae gosod Ecosia fel y peiriant chwilio rhagosodedig ar gyfrifiaduron y coleg yn newid syml – un nad yw’n costio dim ond un a fydd yn cael effaith wirioneddol ar yr amgylchedd. Mae’n weithred hawdd, bob dydd a all annog dysgwyr i feddwl.”
O 1 Chwefror 2024, adroddodd Ecosia fod staff a myfyrwyr Coleg y Cymoedd wedi defnyddio eu porwr i chwilio’r we dros 1.2 miliwn o weithiau, gan ariannu plannu bron i 26,000 o goed. Byddai’r nifer hwn o goed yn amsugno bron i 650,000kg o garbon o’r atmosffer bob blwyddyn (EcoTree). Mae ystadegyn o’r fath yn profi’r effaith wirioneddol y gall gweithred mor fach ei chael, i ddiogelu’r blaned at y dyfodol, ac i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd drwy dynnu Co2 o’r awyr.



I roi hyn mewn persbectif, mae Coleg y Cymoedd wedi plannu digon o goed i lenwi 32.5 erw,* ardal sy’n cyfateb i:
• Chwe gwaith maint adeiladau Campws Nantgarw gyda’i gilydd;
• 16 cae pêl-droed neu 500 cwrt tennis;
• Parc Gwledig Cwm Clydach yng Nghwm Rhondda, a;
• Hyd yn oed yn fwy na Chastell Caerffili a’i ystâd gyfan.
Llongyfarchiadau, staff a myfyrwyr Coleg y Cymoedd am wneud newid mor bwysig!
Coleg y Cymoedd yw’r unig goleg AB yng Nghymru sydd wedi newid i Ecosia ac mae’n galw ar ddarparwyr addysg eraill i wneud yr un peth. I fabwysiadu Ecosia yn eich sefydliad, ewch i: https://www.ecosia.org/?c=en
*Yn ôl Woodland Trust , y dwysedd plannu safonol ar gyfer coed yw 800 yr erw.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR





