Dysgwr yn cael ei anrhydeddu gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru

Llongyfarchiadau i Finn Keegan sydd wedi cael ei anrhydeddu gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru ac wedi ennill Gwobr Gwella Hyfedredd Ariannol i gydnabod ei gynnydd eleni.

Ochr yn ochr â’i gwrs Sylfaen mewn Gwaith Saer ac Asiedydd, mae Finn yn mynychu sesiynau Mathemateg a Rhifedd wythnosol a chafodd ei enwebu gan ei diwtoriaid ar gyfer y wobr hon ar ôl creu argraff arnynt gyda’i agwedd anhygoel tuag at waith.

Dywedodd Rachel Edmonds-Naish, Pennaeth Cynorthwyol, “Cyrhaeddodd Finn y coleg gyda gradd E mewn TGAU Mathemateg a fawr ddim hyder yn ei allu. Serch hynny, gweithiodd yn ddygn (yn ogystal ag astudio ar gyfer ei brif raglen) ac yn haf 2023 enillodd radd D. Roedd ei ganlyniad yn agos iawn at ffin gradd C felly dychwelodd a rhoi cynnig arall arni!

Creodd ei agwedd at waith gryn argraff ar y tîm Mathemateg. Ail-safodd ei TGAU, astudiodd ar ei brif raglen yn ogystal â chymhwyster rhifedd ychwanegol hefyd. Enillodd ei radd C (ac roedd yn agos at radd B!) yn haf 2024 a dychwelodd i’r coleg ym mis Medi 2024 gan symud ymlaen i’r cymhwyster Adeiladwaith yr oedd wedi dyheu amdano’n wreiddiol. Mae bellach yn astudio ar gyfer y cymhwyster a fydd yn rhoi mynediad iddo at lwybr prentisiaeth. Mae Finn yn falch o’i gyflawniad ac felly ninnau hefyd.”

Yn cyflwyno’r wobr gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, dywedodd Dr Kathy Seddon, “rydym yn llongyfarch Finn ar ei gynnydd a’i lwyddiant. Un o brif amcanion Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yw hybu addysg yng Nghymru, a dyna’n union pam y gwobrwywyd Finn”.

Da iawn Finn, rydyn i gyd yng Ngholeg y Cymoedd yn falch ohonot ti.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd