Gwobrau Pobl 2026: cydnabod y bobl tu ôl i’r gwaith

Gwobrau Pobl 2026: cydnabod y bobl tu ôl i’r gwaith

Daeth cydweithwyr o bob rhan o Goleg y Cymoedd ynghyd ar gampws Aberdâr y mis hwn ar gyfer y Gwobrau Pobl blynyddol.

Mae’r digwyddiad yn cydnabod cyfraniad unigolion a thimau sy’n gwneud gwahaniaeth ar draws y coleg – gan gefnogi dysgwyr, cryfhau timau a gwella’r drefn o weithio o ddydd i ddydd.

Er bod y gwobrau’n adlewyrchu gwerthoedd ASPIRE y coleg, yr hanesion tu ôl i’r enwebiadau oedd yn denu’r sylw. Roedden nhw’n ymestyn o fod yn cefnogi cydweithwyr trwy gyfnodau anodd hyd at wella systemau’n ddi-ffwdan a chreu cyfleoedd newydd i ddysgwyr, ac roedd eu dylanwad yn glir ar draws pob categori.

Cyflwynwyd dwy wobr ar bymtheg ar y noson, gan gydnabod cyfraniadau ar draws y cwricwlwm a’r gweithrediadau.

Credadwy

  • Lesley Hughes (Cwricwlwm)
    Wedi’i chydnabod am ei gwytnwch a’r ffordd y mae hi’n parhau i gefnogi ac ysbrydoli cydweithwyr trwy amgylchiadau heriol.
  • Alun Davies (Gweithrediadau)
    Alun Davies (Gweithrediadau) Am ei gefnogaeth gyson i ddysgwyr sydd â gyrfa ddeuol, gan eu helpu i gadw cydbwysedd rhwng astudiaethau academaidd a chwaraeon ar lefel uchel.

Cefnogol

  • Caitlin Broom-Janaway (Cwricwlwm)
    Am ei harweinyddiaeth a’i chefnogaeth o ddydd-i-ddydd i gydweithwyr, gan greu amgylchedd gwaith positif a hynod drefnus.
  • Rachel Hughes (Cwricwlwm)
    Am ei chefnogaeth barhaus ar draws y campysau, yn arbennig wrth helpu cydweithwyr trwy gyfnodau o newid.

Canolbwyntio ar Bobl

  • Helen Wigley (Cwricwlwm)
    Am ei gwaith yn canolbwyntio ar lesiant y tîm a chreu diwylliant cydweithredol a chefnogol.
  • Julia Thomas (Gweithrediadau)
    Am ei harweinyddiaeth hawdd mynd ato a’r modd y mae’n cefnogi cydweithwyr i ddatblygu a thyfu.

Cynhwysol

  • Kevin Hall (Cwricwlwm)
    Am greu cyfleoedd i ddysgwyr o bob gallu i gymryd rhan a llwyddo.
  • Helena Vickery (Gweithrediadau)
    Am ei gwaith yn cefnogi dysgwyr a chydweithwyr drwy waith llesiant a diogelu.

Cyfrifold

  • Kathryn Bishop (Cwricwlwm)
    Am ei gofal a chefnogaeth i gydweithwyr, yn arbennig yn ystod cyfnodau anodd.
  • Alex Carnie (Gweithrediadau)
    Am wella diogelwch a chydymffurfiaeth drwy’r holl amgylchedd gweithdai.

Cydnerth

  • Rob Dempsey (Gweithrediadau)
    Am ei rôl yn gwella’r seilwaith digidol ar draws y campysau.
  • Rebecca Bennett (Gweithrediadau)
    Am arwain a datblygu timau yn y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Cyflawniad Tîm

  • Tîm Pêl-rwyd yr Academi (Cwricwlwm)
    Am feithrin rhaglen perfformiad uchel a chefnogi dilyniant i ddysgwyr.
  • Y Tîm Cyllid (Gweithrediadau)
    Am eu gwaith yn cwblhau newid pwysig yn y system tra’n parhau i gynnal gweithgaredd o ddydd-i-ddydd.

Cyflogai Nodedig

  • Simon Evans (Cwricwlwm)
    Am ei waith parhaus yn gwella systemau a phrosesau ar draws y coleg.
  • Clair Mapp (Gweithrediadau)
    Am ei chefnogaeth i’r uwch arweinyddiaeth a’r sefydliad i gyd.

Gwobr y Pennaeth

  • Sean Thomas
    Yn cael ei gydnabod am ei gyfraniad i’r Systemau Rheoli Gwybodaeth, gan gefnogi timau ar draws y coleg i ddarparu data ac adroddiadau cywir.

Mae Coleg y Cymoedd yn llongyfarch yr holl enillwyr, yn ogystal â’r rhai enwebwyd ac yn diolch i gydweithwyr drwy’r holl sefydliad am eu cyfraniad parhaus.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd