Mae Coleg y Cymoedd yn falch iawn o gyhoeddi partneriaeth newydd gyda Pêl-rwyd Cymru. Bydd y coleg yn bartner swyddogol ar gyfer y gemau rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-rwyd, lle bydd chwe thîm yn cystadlu am le yn y tri uchaf ar gyfer Cwpan Ieuenctid y Byd y flwyddyn nesaf yn Gibraltar.
Mae’r bartneriaeth hon yn dangos ymrwymiad y ddau bartner i ddatblygiad ieuenctid a hyrwyddo pêl-rwyd ar lwyfan rhyngwladol.
Mae gan Goleg y Cymoedd record nodedig yn y gamp, gyda’u timau Crysau Duon (y tîm cyntaf) a Chrysau Gwyrddion (yr ail dîm) yn 1af ac 2il yng nghynghrair Pêl-rwyd Chwaraeon Cymru 2023/2024.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r coleg wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau rhyngwladol dair gwaith, gan gynnwys taith i Gibraltar, taith lwyddiannus i Malta, a gêm gartref yn erbyn tîm mawreddog Trinity House Randpark Ridge De Affrica. Mae’r tîm yn uchel ei barch fel y tîm pêl-rwyd gorau yn eu cynghrair.
Mae Academi Merched y coleg, a weithredir mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, yn darparu addysgu a hyfforddiant ymarferol sy’n seiliedig ar theori i ddysgwyr 16 i 18 oed gan arbenigwyr cryfder a chyflyru blaenllaw, yn ogystal â hyfforddwyr profiadol. Mae’r rhain yn cynnwys y cyn-chwaraewyr rhyngwladol pêl-rwyd Cymru Rachel Hughes, Nicola Lancaster, a Lowri Norkett-Morgan.
Fel partner swyddogol, bydd Coleg y Cymoedd yn darparu adnoddau a chymorth hanfodol i sicrhau bod y gystadleuaeth yn mynd rhagddi’n llyfn. Mae’r cydweithrediad hwn yn tynnu sylw at ymroddiad Pêl-rwyd Cymru a Choleg y Cymoedd i feithrin talent ar lawr gwlad a hyrwyddo’r gamp yn y gymuned.
Mynegodd Vicki Sutton, Prif Swyddog Gweithredol Pêl-rwyd Cymru, ei brwdfrydedd dros y bartneriaeth: “Rydyn ni’n falch iawn o gael partneriaeth mor flaengar â Choleg y Cymoedd. Mae’r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad cyffredin i ddatblygu talent ifanc a thwf pêl-rwyd ledled Cymru. Drwy uno, gallwn greu mwy o gyfleoedd i athletwyr ragori, ar y cwrt ac oddi ar y cwrt, a sicrhau dyfodol disglair i bêl-rwyd ar bob lefel.”
Yn ddiweddar, rhoes cyn-hyfforddwr pêl-rwyd Cymru, Mel Tuckwell, ganmoliaeth uchel i’r Academi, gan ddweud: “Mae hi wedi bod yn wych gweld dyfodol pêl-rwyd Cymru heddiw yng Ngholeg y Cymoedd. Mae’n amlwg bod arlwy a chyfleusterau’r Academi yn talu ar ei ganfed. Mae’r dyfodol yn edrych yn addawol iawn ar gyfer pêl-rwyd yng Ngholeg y Cymoedd.”
Lleolir Academi Merched Coleg y Cymoedd yng Nghanolfan Rhagoriaeth Chwaraeon newydd y coleg yn Nantgarw. Mae’r cyfleuster hyfforddi ac addysgu chwaraeon gwerth miliynau o bunnoedd, a agorodd y llynedd, wedi’i gynllunio i wella gallu dysgwyr mewn gwahanol gampau. Mae’r ganolfan yn darparu cyfleusterau hyfforddi perfformiad ac addysgu academaidd o’r radd flaenaf i gyd ar un safle.
Mae’r Ganolfan yn gwasanaethu dysgwyr Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yn bennaf, ynghyd ag academïau chwaraeon perfformiad uchel y coleg. Mae dysgwyr sy’n dilyn cymwysterau hyfforddwr ffitrwydd a hyfforddiant personol hefyd yn elwa o’r cyfleusterau.
Anogir cefnogwyr i beidio â cholli’r cyfle i weld tîm Cymru dan 21 oed yn cystadlu wythnos nesaf yng Ngemau Rhagbrofol Cwpan Ieuenctid y Byd, a gynhelir yn Nhŷ Chwaraeon Dinas Caerdydd rhwng 24 a 29 Medi.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




