Coleg y Cymoedd yn cyhoeddi mai Jonathan Morgan fydd eu Pennaeth newydd

Mae Coleg y Cymoedd, un o’r colegau addysg bellach mwyaf a gydag un o’r perfformiadau gorau yng Nghymru, wedi penodi Jonathan Morgan fel eu Pennaeth a Phrif Weithredwr nesaf.

Bydd Mr Morgan, sydd wedi bod yn Is-Bennaeth a Phrif Swyddog Gweithredu Coleg y Cymoedd am y tair blynedd diwethaf, yn olynu’r Pennaeth presennol, Karen Phillips, pan fydd hi’n ymddeol ym mis Medi 2022.

Mae gan Mr Morgan dros 25 mlynedd o brofiad ym myd addysg, gan gynnwys 20 yng Ngholeg y Cymoedd (Coleg Ystrad Mynach gynt), ac mae wedi treulio’r pum mlynedd diwethaf yn gweithio o fewn rolau arweinyddiaeth strategol yn y coleg, lle bu’n goruchwylio ystod o feysydd y cwricwlwm, ynghyd â chyllid, pobl a diwylliant, a phrosiectau trawsnewid digidol.

Roedd cyfnod Mr Morgan fel Is-Bennaeth a Phrif Swyddog Gweithredu hefyd yn cynnwys goruchwylio nifer o brosiectau seilwaith mawr, gan gynnwys y gwaith adnewyddu gwerth £3.9 miliwn ar gampws y Rhondda yn 2021 a’r gwaith adnewyddu pellach, gwerth £8.3 miliwn, ar gampws Ystrad Mynach a ddigwyddodd eleni.

Fel Is-Bennaeth a Phrif Swyddog Gweithredu, i Jonathan mae’r cael clod am y rôl arweiniol chwaraeodd e wrth arwain ymateb y coleg drwy’r pandemig COVID-19. Yn ystod yr amser digynsail hwnnw, bu’n rheoli’r holl gyfathrebu â phartneriaid allanol, cydweithwyr, ac undebau llafur, yn ogystal â’i waith yn datblygu’r cwricwlwm i ddiogelu mynediad at addysg yn ystod y pandemig.

Cyn ymuno â’r sector addysg, cafodd Mr Morgan yrfa lwyddiannus fel pêl-droediwr proffesiynol i Glwb Dinas Caerdydd, gan chwarae dros 70 o weithiau i’r tîm cyntaf yn adran dau yn y Gynghrair, Cwpan yr FA, Cwpan y Gynghrair, Cwpan Cymru, a Chwpan Enillwyr Cwpan Ewrop. Daeth tro ar fyd ym 1996, a bu colled y byd pêl-droed yng Nghymru o fantais i fyd addysg, gan i anafiadau roi terfyn ar ei yrfa fel pêl-droediwr a’i orfodi i ymddeol yn gynnar o’r gamp, ac yntau ond yn 26 mlwydd oed.

Diolch byth, roedd Jonathan wedi paratoi ar gyfer y newid hwnnw. Oddi ar iddo fod yn 22 mlwydd oed, chwaraeodd bêl-droed lled-broffesiynol tra’n ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Rheolaeth Hamdden ac Adloniant, yna gradd meistr mewn Astudiaethau Chwaraeon a Hamdden ac ychwanegu cymhwyster cwrs TAR.

I ddechrau’r yrfa honno, bu Mr Morgan, sy’n wreiddiol o Gaerdydd, mewn nifer o swyddi addysgu chwaraeon mewn gwahanol golegau o amgylch Llundain, cyn i’r awydd anochel i ddychwelyd i’w wlad enedigol ysgogi’r symudiad yn ôl i Gymru yn 2002, gan ymuno â Choleg Ystrad Mynach fel Dirprwy Bennaeth Cyfadran.

Wrth sôn am ei benodiad a’i gynlluniau ar gyfer dyfodol y coleg, dywedodd Jonathan Morgan: “Rwy’n ei hystyried yn wir fraint ac rydw i’n gyffrous iawn i fod yn bennaeth nesaf Coleg y Cymoedd. Mae fy nau ddegawd diwethaf eisoes wedi fy ngalluogi i chwarae rhan allweddol wrth helpu’r coleg i fynd o nerth i nerth. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu addysg o ansawdd uchel yn ystod y pandemig – cyfnod anodd iawn ar draws y sector addysg – ac y mae ein canlyniadau cryf ymhlith y ddysgwyr wedi bod yn dystiolaeth o hynny.”

Bydd gweledigaeth Mr Morgan ar gyfer dyfodol Coleg y Cymoedd yn cynnwys canolbwyntio ar ddod â mwy o addysgu wyneb yn wyneb yn ôl ar gyfer dysgwyr, yn dilyn adborth gan staff, dysgwyr a chyflogwyr, tra’n cadw’r gallu i addysgu’n ddigidol, gyda’r coleg yn bwriadu rhoi benthyg dros 2,000 o liniaduron i ddysgwyr, i’w cefnogi yn eu hastudiaethau.

Mae Mr Morgan hefyd wedi ymrwymo i wella cynaliadwyedd y coleg a gweithredu strategaeth ddigidol i warantu bod dysgwyr yn gadael gyda’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw.

Ychwanegodd: “Mae byd gwaith yn newid yn gyflym o ganlyniad i newidiadau technolegol, gan gynnwys awtomeiddio, peiriannau sy’n dysgu, a deallusrwydd artiffisial. Mae’n bwysig i mi fod ein haddysgu’n helpu dysgwyr i gael gwaith gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r priodoleddau sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo yn eu dewis o lwybr gyrfa.

“Fe gefais i gychwyn anghonfensiynol i fy ngyrfa, gan adael yr ysgol yn 15 oed i ddechrau prentisiaeth pêl-droed gyda chlwb Dinas Caerdydd. Roeddwn i mor ffodus i gael y cyfle i ddilyn fy mreuddwydion a chwarae pêl-droed proffesiynol i glwb fy nhref enedigol cyn troi at addysg, felly rwy’n deall fel gall pob dysgwr gychwyn ar eu taith academaidd yn wahanol i’w gilydd. Dyna pam mod i’n credu ei bod yn hanfodol rhoi cyfle i ddysgwyr yng Nghymru ddod o hyd i’r llwybrau addysg a hyfforddiant sy’n gweddu orau i’w hanghenion nhw, gan gynnwys prentisiaethau a llwybrau galwedigaethol.

“I’r rhai sy’n dymuno dilyn llwybrau academaidd, rydyn ni am gefnogi dysgwyr i fynd ymlaen i brifysgolion o’r radd flaenaf ac rwy’n angerddol iawn dros fynd i’r afael â symudedd cymdeithasol, gan sicrhau bod dysgwyr o ardaloedd mwy difreintiedig yn cael yr un cyfleoedd.”

Wrth groesawu Mr Morgan i’r rôl, dywedodd Ms Karen Phillips, Pennaeth presennol Coleg y Cymoedd: “Mae Jonathan eisoes wedi chwarae rhan fawr yng nghyfeiriad strategol y coleg a does gen i ddim amheuaeth na fydd hyn yn parhau wrth iddo gamu i’w rôl fel Pennaeth. Tra fy mod yn drist i adael, rwy’n gwneud hynny gan wybod yn sicr y bydd ein coleg yn parhau i ffynnu o dan ei arweinyddiaeth.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau