Mae Coleg y Cymoedd wedi gwneud penodiad allweddol er mwyn ymgysylltu mwy â chyflogwyr, ac mae’n bwriadu adeiladu ar bortffolio o gleientiaid sydd eisoes yn fwy na 800 o fusnesau.
Mae’r Coleg, sydd â champysau yn Aberdâr, Nantgarw, y Rhondda ac Ystrad Mynach, wedi penodi Matthew Tucker, fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Busnes. Bydd y rôl newydd hon yn goruchwylio adran sydd wedi meithrin partneriaethau hirdymor gyda chwmnïau rhyngwladol a rhai o fusnesaf BBaCH blaenaf Cymru.Â
Bydd Mr Tucker yn canolbwyntio ar ymgysylltu â sefydliadau a busnesau allanol a pharhau gyda datblygiad cyfloed am bartneriaethau, sy’n cynnig gwasanaethau masnachol, hyfforddiant a phrentisiaethau wedi’u teilwra i gyflogwyr.
Gan siarad am ei benodiad a’i gynlluniau ar gyfer y rôl, dywedodd Matthew Tucker: “Mae gennym ddarpariaeth fasnachol ardderchog yng Ngholeg y Cymoedd, gyda thiwtoriaid, hyfforddwyr a chyfleusterau rhagorol. Yn fy rôl newydd byddaf yn ceisio ymgysylltu â rhagor o gyflogwyr lleol gan geisio cefnogi eu hanghenion busnes ac ychwanegu gwerth o ran asesiadau o anghenion hyfforddiant, uwchsgilio eu gweithle a darparu gweithwyr sy’n barod i weithio.
“Er mwyn llwyddo mae angen i fusnesau heddiw feddu ar staff sydd wedi’u hyfforddi, sy’n gymwysedig ac sy’n gallu gwneud sawl tasg ar yr un pryd er mwyn cwrdd â gofynion sy’n newid o hyd. Rwy’n gweld ein rôl fel partneriaeth weithgar rhwng busnesau a’u gweithwyr a’u gweithwyr posibl er mwyn sicrhau bod ganddynt y wybodaeth a’r sgiliau i wneud y gwaith.â€
Daw arbenigedd a dealltwriaeth fanwl o anghenion hyfforddiant busnesau yn sgil ei swyddi yn y sector addysg a’r sector preifat. Yn 2001, bu’n gyfrifol am ddarparu llwybrau prentisiaeth fel Cydlynydd Sector yng Ngholeg Ystrad Mynach cyn symud i rôl yn y sector preifat lle treuliodd pedair blynedd yn datblygu ei sgiliau masnachol.
Ers iddo ddychwelyd i’r Coleg yn 2009 fel Pennaeth Dysgu’n Seiliedig ar Waith, yn ogystal â dod ag ethos a chyflymder y sector preifat yn ôl i’r coleg, mae Matthew wedi ehangu ar y cytundeb sy’n cefnogi prentisiaethau yn y gweithle o £1m i £3m.
Mae Mr Tucker yn parhau: “Rydym ni wedi datblygu perthynas waith wych gydag ystod o fusnesau er mwyn datblygu rhaglenni hyfforddiant wedi’u teilwra sy’n fforddiadwy. Gall hyn gynnwys rhaglenni a ariennir yn rhannol neu’n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.â€
Soniodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd, am rôl newydd Matthew: “Mae sgiliau ac arbenigedd Matthew yn golygu ei fod yn berffaith ar gyfer y swydd hon, gyda blynyddoedd o brofiad yn sector cyhoeddus a phreifat. Mae hyn yn ei alluogi i feithrin yr arfer gorau o’r ddau sector er mwyn sicrhau bod y Coleg yn diwallu anghenion cyflogwyr lleol drwy ein rhaglenni wedi’u teilwra. Rydym yn edrych ymlaen at barhau ein perthynas â’r byd busnes yn y dyfodol dan arweinyddiaeth Matt.â€
Mae Adran Gwasanaethau Busnes Coleg y Cymoedd wrthi’n gweithio gyda McGinley Support er mwyn cynnig rhaglen brentisiaeth ar gyfer y rheilffordd, yn ogystal â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i ddatblygu rhaglen brentisiaeth gan ymgysylltu â mwy na 20 o fudiadau BbaCh.