Chwilio Am Gwrs
Maes Pwnc
Any
Lefelau A
Mynediad i Addysg Uwch
Modurol
Busnes
Astudiaethau Gofal a Phlentyndod
Arlwyo a Lletygarwch
Cyfrifiadura a TG
Adeiladu
Celfyddydau Creadigol
Addysg a hyfforddiant
Peirianneg ac Electroneg
Dysgu Sylfaenol
Trin Gwallt a Harddwch
Sgiliau Byw'n Annibynnol
Ieithoedd a Sgiliau
Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwyddoniaeth
Chwaraeon
Teithio
Chwilio am yrfa

ESOL

Cwrs Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill

Dosbarthiadau ESOL yn dechrau Medi 2025

Os ydych yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol (ESOL) ac am wella’r sgiliau Saesneg, yna dyma’r cwrs i chi.

Gallwch wella’ch gwybodaeth a’ch sgiliau:

• Siarad a Gwrando
• Darllen
• Ysgrifennu
• Gramadeg
• Geirfa

Ein Cyrsiau

Lefel 2

Siarad a Gwrando

Mae’r cwrs hwn ar gyfer y rhai a all siarad Saesneg arferol yn bur dda ond sydd am wella eu sgiliau ymhellach. Byddwch yn gweithio ar ehangu’ch geirfa, gwella’ch gramadeg ac ymestyn eich gwybodaeth am Saesneg sgyrsiol a ffurfiol.  Byddwn yn gwrando ar fideos a chlipiau sain a thrafod amrywiaeth o bynciau, er enghraifft y cyfryngau cymdeithasol, yr amgylchedd a byw yn y DU. Cewch gyfle hefyd i baratoi a rhoi cyflwyniad ar gyfer grwp bach ar bwnc o’ch dewis chi.

Mae’r cwrs hwn yn ddefnyddiol ar gyfer y rhai sydd am deimlo’n hyderus wrth siarad mewn sefyllfaoedd mwy ffurfiol, er enghraifft mewn cyfweliad am swydd, mewn cyfarfodydd rhieni ac  athrawon neu mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd gwaith. Bydd mynychu’r dosbarth hwn ynghyd â Lefel 2 Ysgrifennu yn eich helpu i baratoi ar gyfer cwrs TGAU Saesneg.    

Darllen  

Mae’r cwrs hwn ar gyfer dysgwyr sydd eisoes yn gallu darllen a deall darnau o destun pob dydd ond am wella eu sgiliau ymhellach. Byddwch yn darllen a thrafod amrywiaeth eang o destunau ffurfiol ac anffurfiol gan gynnwys ffuglen, hysbysebion, adroddiadau, llythyron, erthyglau a chyfarwyddiadau. Byddwch hefyd yn gweithio ar ehangu’ch geirfa a’ch gwybodaeth o Saesneg sgyrsiol.  Bydd y cwrs hwn yn ddefnyddiol i rieni sy’n dymuno helpu eu plant gyda’u gwaith cartref neu ar gyfer dysgwyr sydd am symud ymlaen yn eu gyrfaoedd neu am astudio cwrs coleg llawn amser. Bydd mynychu’r dosbarth hwn ynghyd â Lefel 2 Ysgrifennu yn eich helpu i baratoi ar gyfer cwrs TGAU Saesneg.

Ysgrifennu

Mae’r cwrs hwn ar gyfer dysgwyr a all ysgrifennu’n hyderus at ddibenion pob dydd ond yn dymuno gwella eu sgiliau.  Byddwch yn ymarfer ysgrifennu mewn amrywiaeth o arddulliau, er enghraifft, adroddiadau, llythyron ffurfiol, CVs, erthyglau a naratifau. Byddwch hefyd yn gweithio ar wella’ch gramadeg a’ch geirfa. Mae’r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd am wella eu gobeithion am swydd, helpu eu plant gyda’u gwaith cartref neu wneud cais am gwrs coleg llawn amser. Mae hefyd yn ddosbarth defnyddiol iawn i baratoi ar gyfer cwrs TGAU Saesneg .


Lefel 1

Siarad a Gwrando

Mae’r cwrs hwn ar gyfer y rhai all siarad Saesneg pob dydd ond am wella eu sgiliau ymhellach. Byddwch yn gweithio ar eich geirfa a’ch gramadeg ac yn ymarfer siarad Saesneg mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol. Byddwn yn gwrando ar fideo a chlipiau sain a thrafod amrywiaeth eang o bynciau, er enghraifft y cyfryngau cymdeithasol, hobïau a diddordebau ac yn byw yn y DU.

Mae’r cwrs hwn yn ddefnyddiol ar gyfer y rhai sydd am deimlo’n hyderus wrth siarad mewn sefyllfaoedd mwy ffurfiol, er enghraifft ar gyfer cyfweliad am swydd, cyfarfodydd rhieni ac athrawon neu siarad â chwsmeriaid. Mae’r mwyafrif o gyrsiau coleg yn gofyn i chi fod ar o leiaf Safon Lefel 1 yn Saesneg, felly mae’n ddosbarth defnyddiol i’w fynychu ynghyd â Lefel 1 Ysgrifennu, os ydych am wneud cais am gwrs coleg llawn amser y flwyddyn nesaf.

Darllen

Mae’r cwrs hwn ar gyfer dysgwyr sydd eisoes yn gallu darllen a deall y mwyafrif o ddarnau o destunau pob dydd ond yn dymuno gwella eu sgiliau ymhellach.  Byddwch yn darllen a thrafod amrywiaeth eang o destunau, gan gynnwys ffuglen, hysbysebion, adroddiadau, llythyron, erthyglau a chyfarwyddiadau. Byddwch hefyd yn gweithio ar ymestyn eich geirfa.     

Bydd y cwrs hwn yn ddefnyddiol i rieni sy’n dymuno helpu eu plant gyda’u gwaith cartref neu ar gyfer dysgwyr sydd am symud ymlaen yn eu gyrfaoedd neu am astudio cwrs coleg llawn amser. Mae mwyafrif o gyrsiau coleg yn gofyn i chi fod o leiaf ar safon Lefel 1 Saesneg, felly mae’n ddosbarth defnyddiol iawn i’w fynychu ynghyd â Lefel 1 Ysgrifennu, os ydych am wneud cais am gwrs galwedigaethol llawn amser y flwyddyn nesaf.

Ysgrifennu

Mae’r cwrs hwn ar gyfer dysgwyr a all ysgrifennu at ddibenion pob dydd ond sydd am wella eu sgiliau. Byddwch yn ymarfer ysgrifennu mewn amrywiaeth o arddulliau e.e. llythyron ffurfiol, blogiau, erthyglau a naratifau. Byddwch hefyd yn gweithio ar wella eich gramadeg a’ch geirfa.

Bydd y cwrs hwn yn ddefnyddiol i rieni sy’n dymuno helpu eu plant gyda’u gwaith cartref neu ar gyfer dysgwyr sydd am symud ymlaen yn eu gyrfaoedd neu am astudio cwrs coleg llawn amser. Mae mwyafrif o gyrsiau coleg yn gofyn i chi fod o leiaf ar safon Lefel 1 Saesneg, felly mae’n ddosbarth defnyddiol iawn i’w fynychu os ydych am wneud cais am gwrs galwedigaethol llawn amser y flwyddyn nesaf.


Mynediad 1 / 2 / 3

Siarad a Gwrando

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i deimlo’n fwy hyderus i siarad Saesneg pob dydd. Byddwch yn siarad mewn grwpiau bach, dysgu rhagor o eirfa ac ymarfer gramadeg defnyddiol. Byddwn hefyd yn ymarfer sgyrsiau pob dydd er enghraifft, sgwrsio gyda chymydog, gwneud apwyntiad, prynu tocyn trên neu ofyn am gyfarwyddiadau. Bydd y cwrs hefyd yn gwella’ch sgiliau gwrando drwy wylio fideos a gwrando am wybodaeth. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd am wella eu Saesneg ac am deimlo’n fwy hyderus yn eu bywyd pob dydd.

Bydd gennym dri dosbarth siarad a gwrando: Mynediad 1, Mynediad 2 a Mynediad 3. Byddwn yn eich asesu er mwyn penderfynu pa ddosbarth fyddai orau i chi.

Darllen ac Ysgrifennu

Mae’r cwrs hwn ar gyfer dysgwyr sydd am deimlo’n fwy hyderus i ddarllen ac ysgrifennu Saesneg. Byddwch yn ymarfer darllen gwahanol destunau, er enghraifft, bwydlenni, hysbysebion, arwyddion ac erthyglau. Byddwch hefyd yn ymarferysgrifennu nodiadau a llenwi ffurflenni. Byddwch yn gwella’ch gramadeg a dysgu geirfa newydd. Bydd gennym dri dosbarth darllen ac ysgrifennu: Mynediad 1, Mynediad 2, Mynediad 3.  Byddwn yn eich asesu i benderfynu pa ddosbarth fyddai orau i chi.


Saesneg – Cyn Mynediad

Mae’r cwrs hwn ar gyfer dechreuwyr pur heb fod yn gyfarwydd â sgript Saesneg , er enghraifft siaradwyr Arabeg, Thai, Fietnameg neu Rwsieg.

Byddwn yn ymarfer llawysgrifen, darllen ac ynganu.

Siarad a Gwrando: Byddwn yn ymarfer cyfarch, gofyn  am bethau a darparu gwybodaeth sylfaenol.

Darllen ac Ysgrifennu: Byddwn yn ymarfer llawysgrifen, ysgrifennu ac adrodd y wyddor, darllen ac ysgrifennu geiriau syml, brawddegau, enw a chyfeiriad.

Sut i ymuno

Dim ond i chi gwblhau’r ffurflen isod a bydd aelod o’n tîm ESOL yn cysylltu â chi.

Ymholiad ESOL

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Dolenni ac adnoddau’r Coleg Newyddion a Blogiau Newyddion ALN Ap Coleg y Cymoedd