Dathliad i ddysgwyr a thiwtoriaid Caerffili

Gobaith myfyrwraig 20 oed o’r Porth ydy gallu defnyddio’i phrofiad o wirfoddoli gyda SkillsCymru – un o ddigwyddiadau gyrfaoedd a sgiliau mwyaf yng Nghymru a gynhelir yn hwyrach y mis hwn – i fod o gymorth i ehangu’r busnes pobi sydd gan ei theulu yn Nhonyrefail.

Cafodd Rosie Davies, sydd ar hyn o bryd yn astudio Lefel 3 BTEC mewn Busnes yng Ngholeg y Cymoedd ei dewis ar ̫l gwneud cais drwy ei choleg i helpu yn ystod y digwyddiad, lle bydd yn cydlynu a rhedeg sianelau cyfrwng cymdeithasol yn y digwyddiad a gynhelir yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd o Hydref 22 Р23.

Bydd y fyfyrwraig busnes yn gweithio gyda thîm o 40 o wirfoddolwyr eraill a chân nhw i gyd gyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, trefnu a gweithio mewn tîm yn nigwyddiad SkillsCymru yng Nghaerdydd.

Gwnaeth Rosie gais i fod yn wirfoddolwr yn y digwyddiad oherwydd ei bod yn gobeithio y bydd y profiad a gaiff yn un ymarferol ym maes marchnata a rheoli digwyddiad. Ers iddi gychwyn ar ei chwrs busnes, mae Rosie wedi bod yn defnyddio’r sgiliau y mae wedi’u dysgu a’u cymhwyso i helpu i gynhyrchu busnes newydd ar gyfer popty ei mam yn Nhonyrefail yn ogystal â defnyddio’i chraffter busnes i sefydlu ei busnes ei hun.

Bydd Rosie yn canolbwyntio ar geisio marchnadoedd newydd drwy werthu bara, brechdanau a theisennau ffres ei mam i siopau coffi, tai te a chartrefi nyrsio ar draws y sir.

Dywedodd Rosie, “Mae potensial dibendraw i fusnes mam ddatblygu ac ehangu o fewn ein cymuned leol. Mae fy nghwrs wedi dysgu i mi sut i ddatblygu busnesau sydd eisoes yn bodoli drwy chwilio am farchnadoedd newydd ar gyfer y busnes. Fe wnes i ganfod y cyfle ar gyfer busnes fy mam yn gynharach eleni wrth sgwrsio gyda myfyrwyr busnes eraill a phenderfynes i ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth dw i wedi’u dysgu yn ystod fy nghwrs i helpu’r busnes dyfu.

“Ron i wrth fy modd i gael fy newis i gydlynu’r cyfryngau cymdeithasol yn SkillsCymru gan fy mod i am ddeall a dysgu sut i gymhwyso’r cyfryngau cymdeithasol at bwrpas masnachol fel y gallaf helpu fy musnes fy hun a busnes mam i lwyddo a ffynnu. Mae’n amser cyffrous iawn.”

Dywedodd Caroline Challoner o Cazbah, y sefydliad sy’n cynnal y rhaglen wirfoddolwyr: “Yn ogystal â bod yn fodd gwych i ennill profiad gwaith i’w helpu yn eu dewis yrfa, bydd y gwirfoddolwyr yn SkillsCymru ar yr un pryd yn cael cyfle da i ddarganfod y nifer helaeth o opsiynau gyrfaol sydd ar gael iddyn nhw yng Nghymru.

“Mae Rosie yn fenyw ifanc ddisglair a deallus gyda gwir graffter at fusnes a dymuniad i lwyddo. Rydyn ni’n hyderus y bydd yn rhagori yn ei rôl yn SkillsCymru, sy’n argoeli i fod yn ddigwyddiad o’r radd flaenaf ar gyfer y rhai sy’n chwilio am syniadau ar gyfer swyddi, cyfleoedd dysgu a chyfleoedd sgiliau ar draws Cymru.”

Cafodd y gwirfoddolwyr eu recriwtio o ysgolion a darparwyr addysg ledled Cymru i weithredu fel cyflwynwyr ffilmiau, cydlynwyr y cyfryngau cymdeithasol, gwerthuswyr a stiwardiaid.

Eisoes, mae dros 40 o sefydliadau wedi cofrestru i fod yn rhan o SkillsCymru 2014 ac yn eu plith GIG Cymru, Y Llu Awyr, y Llynges a’r Morfilwyr, Gwobr Dug Caeredin Cymru, Llywodraeth Cymru (Bwyd a Diod), Visit Wales, S4C, Ymddiredolaeth y Tywysog – Cymru, a’r Fyddin. Trefnir digwyddiad eleni gan Prospects a Cazbah, gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Gyrfa Cymru a’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau