Cynhaliwyd sialensiau Cystadleuaeth Sgilau Cymru ar gyfer Aromatherapi, Adweitheg ac Uwch Ewinedd yng Ngholeg y Cymoedd Coleg ar gampws Nantgarw a chroesawyd dysgwyr o Goleg Cambria, Coleg Sir Benfro, Coleg Gwent a Choleg Sir Gâr.
Mae gan bob un cystadleuaeth sgiliau ei gofynion mynediad penodol gan gynnwys oed, profiad gwaith neu lefel sgiliau a rhaid i’r cystadleuwyr gwblhau cyfres o dasgau i ddangos y sgiliau y maen nhw wedi’u datblygu yn eu maes, y sgiliau hanfodol hynny sydd eu hangen i lwyddo yn y gweithle.
Roedd dau o ddysgwyr o Goleg y Cymoedd yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth Uwch ym maes Ewinedd lle roedd rhaid iddyn nhw greu deg cynllun ewinedd ar y pryd. Llwyddodd Chloe Day, pedair ar bymtheg oed o Aberpennar, i ennill medal efydd yn y gystadleuaeth, gan greu cynllun creadigol oedd yn arddangos ei gwybodaeth o’r ffasiwn cyfredol a chynllun artistig ar gyfer ewinedd.
Roedd dau ddysgwr o’r coleg hefyd yn cystadlu yn y gystadleuaeth Adweitheg. Eto roedd y gystadleuaeth yn canolbwyntio ar y gofynion hanfodol ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn adweitheg. Dangosodd y dysgwyr eu dealltwriaeth o dechnegau pwysedd lle defnyddir y bodiau a’r bysedd ar fannau atgyrch y dwylo a’r traed.
Ariennir Cystadleuaeth Sgiliau Cymru gan Lywodraeth Cymru a’r nod ydy codi proffil sgiliau yng Nghymru, gan gynnig cyfle i ddysgwyr i herio, meincnodi a chodi eu sgiliau drwy gystadlu mewn cystadlaethau lleol. Yna, anogir cystadleuwyr i symud ymlaen a chystadlu yng nghystadlaethau WorldSkills UK i hybu sgiliau o’r radd flaenaf a’r ysfa i gystadlu’n rhyngwladol.
Dywedodd Tracey Evans, Pennaeth yr Ysgol Gwallt a Harddwch a threfnydd y digwyddiad yng Ngholeg y Cymoedd: “Roedden ni wrth ein bodd i gynnal y gystadleuaeth yn ein coleg, roedd yn dda gweld sgiliau’r dysgwyr. Mae diwydiant harddwch y DU yn cyflogi tua miliwn o weithwyr sy’n golygu ei fod yn un o ddiwydiannau mwyaf enillfawr y wlad. Mae cystadlaethau fel hyn yn rhoi profiad unigryw i’r dysgwyr, profiad fydd yn amhrisiadwy ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol o fewn y diwydiant.
“