Dysgwr y Rhondda’n mynd y filltir ychwanegol honno i roi yn ôl i’r Ganolfan Ganser

Mae dysgwr coleg o gymoedd de Cymru wedi helpu i godi £12,000 ar gyfer Canolfan Ganser Felindre ar ôl cymryd rhan mewn taith codi arian ar draws teyrnas hynafol Nepal er budd y sefydliad.

Cymerodd Jake Phillips, 18 oed, o Feisgyn, Rhondda Cynon Taf, ran mewn taith gerdded bum niwrnod ar draws tir mynyddig ac anghysbell yn y rhanbarth i godi arian i’r Ganolfan.

Wrth ymgymryd â’r her gyda’i dad, Simon, roedd Jake am ddiolch i’r Ganolfan am y gefnogaeth a’r driniaeth ragorol a roes i aelod o’i deulu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Gan ymuno â 50 o deithwyr eraill ar gyfer y daith, treuliodd y pâr 6-8 awr yn cerdded trwy amodau serth a garw bob dydd.

Cafodd y dysgwr Peirianneg, sy’n astudio Tystysgrif Lefel 3 mewn Peirianneg yng Ngholeg y Cymoedd, wybod am y daith drwy’r digrifwr Rhod Gilbert, sy’n ffrind i’r teulu ac yn noddwr Canolfan Ganser Felindre.

Wrth siarad am ei gymhelliant i ymuno â’r daith, dywedodd Jake: “Rhoes Felindre gefnogaeth anhygoel i’m teulu drwy gyfnod anodd iawn ac roeddem am roi rhywbeth yn ôl iddynt am yr holl waith caled maent yn ei wneud. Pan ddysgon ni am y daith, roeddem yn teimlo mai dyma’r ffordd berffaith o godi arian i’r Ganolfan a dangos pa mor ddiolchgar ydym ni. ”

I baratoi eu hunain ar gyfer yr her, cwblhaodd Jake a Simon nifer o deithiau cerdded yn y misoedd cyn y daith. Roedd hynny’n cynnwys ymweld â Bannau Brycheiniog, cynnal teithiau cerdded o wahanol hydoedd a serthrwydd, a dringo mynydd uchaf De Cymru, Pen y Fan, sawl gwaith. Ymunodd y ddau â’r gampfa hefyd i weithio ar eu ffitrwydd, gan ganolbwyntio ar wella eu dygnwch.

Wrth drafod elfennau mwyaf heriol y daith, dywedodd Jake: “Roedd trecio eisoes yn hobi i’r ddau ohonom, ond nid oeddem erioed wedi ymgymryd ag unrhyw beth fel hyn. Roedd gwres dwys Nepal yn elfen a oedd yn anodd paratoi ar ei chyfer ac yn bendant fe wnaeth hynny’r daith yn anos, ynghyd â gorfod cario bagiau trwm yn ystod y daith.“

Un o uchafbwyntiau’r daith oedd cyrraedd dyffryn godidog. Ar ddechrau’r daith, rhoddwyd baner weddi liwgar Nepalaidd inni i gyd a phenderfynon ni i gyd eu clymu at ei gilydd a’u hongian ar draws y dyffryn. Roedd yn foment emosiynol iawn ac yn ein hatgoffa pam roeddem ni yno a’r achos teilwng y tu ôl i’r daith. ”

Mae Jake a’i dad wedi codi £12,000 ar gyfer Canolfan Ganser Felindre, a fydd yn mynd tuag at ariannu’r driniaeth hanfodol y mae’n ei darparu i gleifion canser.

Mae Jake bellach yn bwriadu cymryd rhan mewn rhagor o deithiau a drefnir gan y ganolfan ac mae’n gobeithio parhau i godi arian ar gyfer ymchwil canser.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau