Mae Rhaglen Interniaeth Porth i Gyflogaeth Coleg y Cymoedd, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, wedi ennill y wobr ‘Cymorth i Gyflogaeth’ yng Ngwobrau Cenedlaethol AAAA 2025.
Mae hyn yn cydnabod llwyddiant y rhaglen wrth gefnogi pobl ifanc 16 – 24 oed ag anableddau dysgu a neu anhwylderau’r sbectrwm awtistiaeth i drosglwyddo o addysg i gyflogaeth ystyrlon.
Drwy arweinwyr y bartneriaeth o Goleg y Cymoedd, Dorian Davies a Helen Taylor-Hodges yn ogystal ag Emma Brandon o RhCT, mae’r rhaglen wedi darparu 34 lleoliad gwaith, gydag 11 o interniaid yn sicrhau cyflogaeth ers ei lansio yn 2019.
Mae’r rhaglen yn sefyll allan am ei dull wedi’i deilwra, gan baru pob lleoliad â chryfderau a nodau gyrfa hirdymor yr intern, gyda chefnogaeth gan diwtoriaid coleg, hyfforddwyr swyddi, a thîm ymroddedig RhCT.
Mae interniaid yn derbyn cefnogaeth gyson yn y swydd, gan ennill profiad gwaith go iawn ar draws gwahanol adrannau fel Hamdden, Cynhyrchion Gweledol, Gwasanaethau Llyfrgell, a Gwasanaethau Dydd i Oedolion.
Mae staff RhCT wedi’u hyfforddi mewn ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth, gan feithrin amgylchedd diogel a chefnogol lle gall interniaid ffynnu, herio stereoteipiau, a chydnabod galluoedd amrywiol fel cryfderau.
Roedd y dysgwr 20 oed, Connie yn ddigon ffodus i gael ennill lleoliad gwaith ar ddiwedd y rhaglen: “Roeddwn i wrth fy modd â’r rhaglen gan ei bod wedi fy helpu i fagu hyder yn y gwaith a theithio yn annibynnol.”
Ychwanegodd Mam Connie, Kathryn: “Ers i Connie fod ar y rhaglen mae hi wedi magu hyder ac wedi ennill y sgiliau allweddol i’w helpu i symud ymlaen yn annibynnol yn y dyfodol.”
Dywedodd intern arall a dysgwr arall Coleg y Cymoedd, Kaidan, sy’n 18 oed, fod y rhaglen wedi ei helpu i fagu hyder a rhoes ddiolch i’w diwtoriaid a’i hyfforddwyr swyddi am eu help.
Dywedodd Amanda, mam Kaidan: “Mae’n gwrs anhygoel. Mae’r newid yn Kaidan dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anhygoel. Mae ei hyder wedi datblygu’n aruthrol yn ogystal â’i sgiliau cyfathrebu a’i hunan-barch.”
Canmolodd beirniaid Gwobr AAAA, gan gynnwys cynrychiolwyr o Nurture International, The Root of It, a NAHT, gyfraddau llwyddiant cyson y rhaglen, hyd yn oed gyda niferoedd cofrestru amrywiol, gan dynnu sylw at ei hymrwymiad a’i heffaith barhaol.
“Roedd cryfder y bartneriaeth hon wedi creu argraff arbennig arnom, gan gydnabod ei dull unigryw ac effeithiol o gefnogi pobl ifanc i sicrhau cyflogaeth.”
Dywedodd Lisa Purcell, Pennaeth Cynorthwyol Profiad y Dysgwr yng Ngholeg y Cymoedd: “Rydw i mor falch o’n tîm a’n partneriaid yng Ngholeg y Cymoedd a CBS Rhondda Cynon Taf. Mae hon yn rhaglen mor bwysig i’n dysgwyr, gan roi cyfleoedd iddynt a fydd yn gallu newid eu bywydau.”
“Mae pawb sy’n cymryd rhan wedi gweithio mor galed ac maen nhw‘n mynd yr ail filltir i gefnogi ein pobl ifanc yn gyson.“
Llongyfarchiadau, bawb!
Dysgwch ragor am ein cymorth dysgu ychwanegol.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR