Ysbryd cymunedol yn disgleirio wrth i ddysgwyr Coleg y Cymoedd gymryd rhan mewn taith gerdded elusennol i gefnogi mamau a babanod mewn angen

Fe wnaeth dros 40 o ddysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd, sydd i gyd yn astudio cyrsiau Sgiliau Dysgu Annibynnol (ILS), osod her iddyn nhw eu hunain er mwyn dangos eu cefnogaeth i’r elusen Cwtch Baby Bank a leolir yn y Rhondda.

Gyda nifer o staff yn ymuno â nhw, buon nhw’n cymryd rhan mewn taith gerdded elusennol dair milltir o hyd o gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd i ganolfan ddosbarthu’r elusen yn Ffynnon Taf. Fe wisgon nhw ddillad babanod, a gwthio trolïau llawn o roddion hanfodol gan gynnwys pethau ymolchi ar gyfer mamau a babanod.

Mae dysgwyr y cwrs ILS Coleg y Cymoedd, sy’n ymroddedig i helpu dysgwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau corfforol i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol a dechrau cyflogaeth, wedi bod yn casglu eitemau o ddillad a chynhyrchion misglwyf ar gyfer mamau a babanod newydd dros yr ychydig wythnosau diwethaf fel rhan o fodiwl dysgu sy’n canolbwyntio ar waith cymunedol.

Lansiwyd yr elusen Cwtch Baby Bank yn 2016, ac mae’r elusen cyntaf o’i bath yn canolbwyntio ar ailddosbarthu eitemau babanod ail-law i deuluoedd bregus yn yr ardal leol. Mae’r elusen yn darparu offer, dillad a thaclau ymolchi hanfodol ar gyfer babanod newydd-anedig i 24 mis oed trwy atgyfeiriadau gan ofal cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol a chymorth perthnasol arall, gan sicrhau bod rhoddion yn mynd yn uniongyrchol i’r rhai sydd â’r angen mwyaf.

Teimlai Allison Thomas, darlithydd Mynediad Galwedigaethol yng Ngholeg y Cymoedd, fod yn rhaid iddi ganolbwyntio modiwl cymunedol ei chwrs ar yr elusen ar ôl clywed amdani gan un o’i dysgwyr, Amy Johnson. Sefydlodd ei mam Hillary yr elusen yn wreiddiol ar ôl sylweddoli nad oedd unrhyw elusennau yng Nghymru ar y pryd yn cymryd rhoddion babanod.

Dywedodd Allison: “Mae ein dysgwyr wedi bod wrth eu bodd yn cymryd rhan mewn achos mor werth chweil ac wedi dwlu ar bob eiliad.

“I lawer o ddysgwyr ar gyrsiau ILS, gall yr anawsterau personol y maent yn eu hwynebu ei gwneud yn anodd iddyn nhw fyw o ddydd i ddydd neu fynd i gyflogaeth ar ôl addysg, ond mae llawer yn mynd ymlaen i wirfoddoli i elusennau, a dyna pam mae ein modiwl cymunedol mor bwysig iddyn nhw. Mae’n rhywbeth sy’n eu hysbrydoli ac yn eu helpu i ddysgu sgiliau hanfodol fel gwaith tîm a chyfathrebu.

“Gyda’r heriau corfforol a chymdeithasol y mae llawer o’r dysgwyr hyn yn eu hwynebu, mae cwblhau taith gerdded tair milltir yn gyflawniad enfawr iddyn nhw ac maen nhw i gyd mor falch eu bod nhw wedi gallu cefnogi elusen bwysig wrth gyrraedd carreg filltir bersonol.”

Dywedodd Hillary Johnston, Sylfaenydd Cwtch Baby Bank: “Cefais fy nghyffwrdd yn fawr pan glywais fod staff a dysgwyr eisiau cefnogi Cwtch Baby Bank. Roedden nhw wedi clywed am yr elusen drwy fy merch, Amy, sy’n un o’r dysgwyr ar y cwrs ILS. Roeddwn i hefyd wedi ymweld â’r campws o’r blaen i siarad am y gwaith rydyn ni’n ei wneud, ac rydw i’n gwybod bod y dysgwyr wedi cael eu hysbrydoli.

“Roedden nhw’n teimlo mwy o gysylltiad â’n helusen o ganlyniad ac roedden nhw’n wirioneddol frwdfrydig am godi arian, sydd mor hyfryd.

“Rydyn ni’n gweithio ar sail atgyfeirio, gydag atgyfeiriadau’n dod gan weithwyr iechyd proffesiynol sy’n delio â theuluoedd mewn angen, ac rydyn ni’n dibynnu ar roddion i’n cadw i fynd fel y gallwn barhau i helpu cymaint o bobl â phosibl. Mae pob rhodd unigol a gawn yn gwneud gwahaniaeth mawr ac rydyn ni mor ddiolchgar i bawb yng Ngholeg y Cymoedd sydd wedi rhoi o’u hamser i’n helpu.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau