Coleg y Cymoedd yn bencampwyr Rygbi Cyngrair Elit Colegau Cymru

Mae dysgwyr a staff Coleg y Cymoedd yn dathlu bod Tîm Rygbi’r coleg wedi ennill Cynghrair Elit Colegau Cymru.

Enillodd tim rygbi o dan 18 oed Coleg y Cymoedd yn gyfforddus yn erbyn timoedd colegau eraill gydag un gêm wrth gefn.

Mae Coleg y Cymoedd, ar ôl iddyn nhw drechu Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Gŵyr a Choleg Castell Nedd Porth Talbot yn y grwpiau cychwynnol cynnar, nawr yn symud ymlaen i’r cam nesa sef chwarae ben-ben â Choleg Sir Gâr, Ysgol Gyfun Y Bontfaen, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr a Choleg Cross Keys.

Mae tua 50 o ddysgwyr yn cymryd rhan yn rhaglen rygbi’r coleg, yn cyfuno hyfforddiant gydag astudiaeth academaidd, gyda’r dysgwyr yn dod o ystod o feysydd yn amrywio o gyrsiau chwaraeon i bynciau Lefel A a chymwysterau adeiladu.

Yn Academi Rygbi’r Coleg mae’r dysgwyr yn derbyn hyfforddiant rygbi arbenigol, dadansoddi rygbi a’u cryfhau a’u cyflyru i fanteisio i’r eithaf ar eu potensial. Fodd bynnag, mae Academi’r Coleg hefyd yn sicrhau bod dysgwyr rygbi yn cael eu paratoi’n academaidd petai gyrfa ym myd rygbi ddim yn digwydd.

Sylw un o’r tiwtoriaid, Lee Davies, ar berfformiad nodedig y sgwad hyd yma oedd: “Rydyn ni fel grŵp wrth ein boddau gyda pherfformiadau’r timoedd yn rhan gyntaf y tymor.

“Rydyn ni wedi gweithio’n hynod o galed cyn i’r tymor gychwyn i fod yn barod gan ein bod yn ymwybodol bod strwythur y gynghrair wedi newid ac y byddai rhaglen y gynghrair wedi gorffen erbyn Nadolig a’r rowndiau chwarae ben-ben a’r rowndiau terfynol yn digwydd yn ddiweddarach yn ystod y tymor.”

“Mae’r bechgyn wedi dangos penderfyniad a chymeriad i oresgyn pwysau gemau mawr wythnos ar ôl wythnos ac ar y cyfan wedi perfformio’n wych.”

Mae hyn yn dilyn tymor mwyaf llwyddiannus Coleg y Cymoedd er iddo gael ei ffurfio yn 2015. Yn ogystal ag ennill pencampwriaeth URC ar gyfer Rygbi Colegau, enillodd y tîm Ffeinal Cynghrair Uchaf Colegau Prydain sef y tîm cyntaf o Gymru i wneud hyn.

Mae pob gêm ym mhencampwriaeth Cynghrair Elit Colegau Cymru yn cael eu dangos ar S4C ar y rhaglen Rygbi Pawb ar y nos Fercher ar ôl pob gêm. Gellir gweld tabl y gynghrair ar: http://www.wru.co.uk/eng/development/leagues/league_table_wednesday_under_18_league.php

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau