Coleg y Cymoedd yn cyrraedd rhestr 100 Cyflogwr Gorau Stonewall

Mae coleg yng nghymoedd De Cymru wedi’i enwi’n un o’r cyflogwyr mwyaf cynhwysol ym Mhrydain gan yr elusen LHDT + Stonewall, gan gyrraedd y 100 uchaf am y tro cyntaf.

Mae Coleg y Cymoedd wedi cyrraedd y 79fed safle y rhestr 100 Cyflogwr Gorau, a gyhoeddwyd yn ystod Mis Hanes LHDT + (Chwefror), a dyma’r unig goleg addysg bellach yn y DU i gael ei gynnwys.

Cystadlodd y coleg yn erbyn dros 500 o sefydliadau o bob rhan o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i sicrhau ei le ar y rhestr. Mae Coleg y Cymoedd wedi cael ei gydnabod am y gwaith y mae wedi’i wneud i gefnogi staff a dysgwyr LHDT + a brwydro yn erbyn gwahaniaethu, megis hyrwyddo ymgyrchoedd a digwyddiadau ymwybyddiaeth, gan gynnwys Mis Hanes LHDT + ac Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb.

Dywed Stonewall fod mwy na thraean o staff LHDT + wedi cuddio rhannau o’u hunaniaeth yn y gwaith ac mae bron i 1 o bob 5 o weithwyr LHDT + wedi bod yn darged sylwadau negyddol gan gydweithwyr oherwydd eu hunaniaeth, gan bwysleisio pwysigrwydd cefnogaeth cyflogwyr.

Dywedodd Andrew Heron o’r Coed Duon, sy’n astudio Gofal Plant Lefel 2 ar gampws Ystrad Mynach y coleg: “Rwy’n falch iawn fod y coleg wedi cael ei gynnwys gan Stonewall am ei waith i gefnogi staff a dysgwyr LHDT fel fi. Mae mor bwysig i bawb yn y coleg deimlo’n gyffyrddus a gallu bod yn agored am fod yn rhan o’r gymuned LHDT +.

“Rydw i wedi cael fy ysbrydoli i sefydlu fy ngrŵp LHDT + fy hun yn y coleg i barhau i annog dysgwyr eraill i siarad am eu rhywioldeb a theimlo’n gyffyrddus â’u hunaniaeth eu hunain.”

Llunir y rhestr 100 Cyflogwr Gorau o Fynegai Cydraddoldeb Gweithle Stonewall, offeryn meincnod blynyddol ar gyfer cynwysoldeb staff LHDT +, a ystyrir yn rhestr ddiffiniol o’i math yn y DU.

Dywedodd Karen Phillips, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Fel cyflogwyr ac addysgwyr, mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein campysau yn amgylcheddau croesawgar a chefnogol i’r holl staff a dysgwyr. Rydym yn ddiolchgar i Stonewall am gydnabod y gymuned gynhwysol rydyn ni wedi’i chreu ar draws ein holl gampysau. Yn bennaf oll, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi ein hymrwymiad parhaus i gydraddoldeb LHDT +.

Er mwyn parhau â’i waith yn hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant LHDT +, cynhaliodd y coleg ei stondin ei hun yn ddiweddar mewn digwyddiad Project Unity a bydd yn dathlu Mis Hanes LHDT + yn ystod ei ddigwyddiad ei hun ar gampws Nantgarw y coleg.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau