Mae Coleg y Cymoedd wedi ennill statws Academi Achredig Categori 3 Rygbi Tri-ar-Ddeg gan Gynghrair Rygbi Cymru.
Caiff darpar sêr Rygbi’r Gynghrair gyfle i sicrhau eu lle ar y rhaglen sy’n cyfuno hyfforddiant ag addysg amser llawn.
Mae statws academi yn caniatáu i Rygbi Tri-ar-ddeg gael ei addysgu amser llawn ar gampws Ystrad Mynach y coleg. Fel rhan o’r rhaglen, caiff dysgwyr astudio am gymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon.
Bydd yr Academi hefyd yn llwybr gwerthfawr o dîm Cymru dan 16 hyd at dîm Scorpions De Cymru, sydd wedi eu lleoli yn Aberpennar.
O ganlyniad, mae Mark Jones, sydd wedi gweithio fel Rheolwr Datblygu Cenedlaethol Rygbi Cyngrhair Cymru, wedi symud i Goleg y Cymoedd.
Bydd Jones yn cael cymorth yn ei rôl gan chwaraewyr Scorpions De Cymru, fydd yn helpu gyda’r hyfforddi, ac y mae’r hyfforddwr cynorthwyol, Paul Emanuelli, wedi cynnal sesiynau eisoes.
Yn ôl Jones: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Coleg y Cymoedd bellach yn Academi Achredig Categori 3 Rygbi’r Gynghrair. Mae hyn yn dilyn blwyddyn galed o waith gan nifer o bobl er mwyn gwireddu hyn
“Bydd yr Academi’n ddolen gyswllt werthfawr i rai sydd am barhau i chwarae Rygbi’r Gynghrair naill ai’n llawn amser neu’n rhan amser, gyda Scorpions De Cymru, neu ein clybiau cymunedol, a’n gobaith ydy y caiff y rhai sy’n disgleirio eu dewis i chwarae i glybiau’r uwch-Gynghrair ac i Gymru.
“Rydyn ni’n dal i recriwtio am eleni ar gyfer y Lefel 3 BTEC Rygbi’r Gynghrair ac yn chwilio am unrhyw chwaraewyr rhwng 16 a 19 mlwydd oed.â€
Dyfernir y statws academi yn barhaus o flwyddyn i flwyddyn yn dilyn arolwg boddhaol ddwyaith yn y flwyddyn.
Chwaraeodd yr Academi am y tro cyntaf ddydd Mercher Medi 30ain mewn twrnameint Naw-bob-ochr y De Orllewin, ac ennill Ffeinal y Plât, gan drechu timau profiadol, megis Abertawe a Chaerfaddon, yn y fargen.
Ychwanegodd Mark Jones: “Roedd y bechgyn yn wych yn erbyn chwaraewyr hÅ·n ac yn chwarae’n grefftus iawn. Roedd hwn yn gychwyn ardderchog i’r tymor. Tîm Metropolitan Caerdydd fydd nesaf, bnawn Mercher nesaf am 2.00 y pnawn yng Nghyncoed.â€
Ar y rhestr sgorwyr yn eu gêm gyntaf roedd Liam Silver â saith cais, a Dewi Billingham, Jordan Gilbert a Lewys Willacott gyda dau gais yr un. Sgoriwyd ceisiau ‘power play’ gan Lewis Jones, Liam Silver a Jordan Gilbert.
Gall darpar chwaraewyr wneud cais ar-lein i ymuno â’r academi ar: /courses/subject-areas/sport.aspx