Coleg yn Ne Cymru yn ymuno â phartneriaid rhyngwladol i gefnogi bywyd gwyllt yng Nghymru a Namibia

Mae coleg yn Ne Cymru, Coleg y Cymoedd, wedi cydweithio â gwneuthurwr o Gymru a nifer o sefydliadau rhyngwladol i ymchwilio i sut mae gweithgarwch dynol yn effeithio ar fywyd gwyllt ar draws y byd.

Fel rhan o’r prosiect monitro acwstig byd-eang sy’n astudio bywyd gwyllt gan ddefnyddio seiniau o fyd natur, mae Coleg y Cymoedd yn ymuno â’r gwneuthurwr lled-ddargludyddion, Newport Wafer Fab, y seren teledu a ffilm o Gymru, William Todd-Jones, ynghyd â rhwydwaith o bartneriaid creadigol ac amgylcheddol; Wild Connect, Cyfoeth Naturiol Cymru, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB).

Bydd y prosiect yn asesu ac yn cymharu lefelau bioamrywiaeth – yn yr achos hwn yr amrywiaeth o fywyd gwyllt – yng Nghymru ac Affrica, drwy fonitro synau anifeiliaid ac ecosystemau yn y ddwy wlad, gan ddefnyddio recordwyr sain arbenigol o bell o’r enw ‘bioffonau’.

Gwelodd y cwmni ymgynghori amgylcheddol, Wild Connect, fod angen datblygu dyfais gadarn i fonitro sain – bioffon – y gallai cadwraethwyr proffesiynol ac amatur ei defnyddio i recordio a dadansoddi synau o fyd natur. Y canlyniad yw dyfais sy’n werthfawr i wyddoniaeth ym maes eco-acwsteg ac arf a all helpu i ailgysylltu’r cyhoedd â byd natur.

Yn y gwyllt, mae anifeiliaid yn defnyddio synau am nifer o resymau, o gyfathrebu a llywio i hela ac amddiffyn tiriogaethol. Gall dadansoddi’r synau hyn roi data cyfoethog i ecolegwyr a chadwraethwyr am yr amgylchedd a phoblogaethau anifeiliaid, gan eu helpu i ddeall ble mae rhai rhywogaethau’n byw, faint sydd yno a beth maen nhw’n ei wneud. Gall hyn helpu i ddatgelu newidiadau ymddygiad a phoblogaeth yn ogystal ag amlygu effaith gweithgarwch dynol ar fywyd gwyllt lleol.

Fel rhan o’r prosiect, ymunodd staff a dysgwyr ar draws adrannau Peirianneg a Chreadigol Coleg y Cymoedd â Wild Connect, Newport Wafer Fab, CSA Catapult, a GX-Group i greu 35 bioffon.

Bydd y dyfeisiau’n cael eu gosod o amgylch Cymru a Namibia dros y flwyddyn nesaf, gan ganiatáu monitro a dadansoddi data dros Cymru gyfan, a bydd asiantaethau bywyd gwyllt yn casglu’r data o’r defnydd yn Namibia.

Bydd yr astudiaeth beilot yn profi’r ddyfais mewn amodau eithafol – sef Cymru, gyda’i thirwedd wlyb ac oer a Namibia gyda’i diffeithdiroedd sych crasboeth.

Daeth y berthynas â Namibia o ganlyniad i gysylltiad hirsefydlog partner y prosiect a’r amgylcheddwr William Todd-Jones ag elusennau bywyd gwyllt yn Affrica.

Bydd y ddwy set o gofnodion yn cael eu dadansoddi i ddarparu mewnwelediadau amgylcheddol a thystiolaeth o amrywiaeth ecosystemau rhwng y ddwy wlad. Bydd y canfyddiadau’n helpu i ddatgelu sut mae’r hinsoddau cyferbyniol, lefelau’r boblogaeth ddynol, a graddau datblygiad yng Nghymru a Namibia yn effeithio ar y byd naturiol cyfagos yn y ddwy wlad.

Dywedodd Alistair Aston, Cydlynydd Diwydiannau Creadigol Coleg y Cymoedd ac Arweinydd y Prosiect: “Mae’r prosiect Bioffon yn cynnig cyfle gwych i’n dysgwyr creadigol a pheirianneg i fod yn rhan uniongyrchol o brosiect sydd wedi’i gynllunio i wneud gwahaniaeth. Hefyd, mae’n ffordd wych o ddangos sut y gellir defnyddio celf a gwyddoniaeth gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r prif faterion sy’n effeithio ar ein planed.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael cofnodion o Gymru a Namibia a fydd yn ein helpu i ddarganfod pethau gwirioneddol ryfeddol am ein bywyd gwyllt a sut y gallwn chwarae ein rhan wrth lunio dyfodol ein planed.”

Ychwanegodd Iestyn Llŷr, Uwch Beiriannydd Meddalwedd Mewnblanedig CSA Catapult: “Dyma enghraifft wych o gwmnïau o Gymru yn cydweithio i archwilio sut y gellir datblygu syniad cysyniadol yn fasnachol. Nod CSA Catapult yw pontio’r bwlch rhwng ymchwil a diwydiant ym myd lled-ddargludyddion cyfansawdd. Yn ogystal ag ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr drwy ein Hacademi Sgiliau a’n rhaglen STEM, mae’r prosiect hwn yn arddangos syniadau arloesol darpar beirianwyr a sut maent yn datrys problemau a fydd yn effeithio arnom ni i gyd.”

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi darparu cyngor arbenigol ac wedi helpu i gyflwyno’r profion peilot cychwynnol ar gyfer y bioffonau mewn safleoedd yng Nghymru cyn iddynt gyrraedd Namibia.

Dywedodd Holly Butterworth, Cynghorydd Arbenigol ar gyfer Dyfodol ac Arloesedd Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym yn falch iawn o gefnogi’r astudiaeth Bioffonau. Rydym wedi gweithio gyda’r tîm i ddarparu safleoedd prawf a’u cysylltu ag arbenigwyr yn y maes i archwilio defnydd posibl ar gyfer y ddyfais, yn enwedig o ran bioamrywiaeth.

“Mae’n gyffrous gweld y datblygiadau ac mae’n wych bod yn rhan o brosiect sy’n dod â chymaint o arbenigwyr a phobl ifanc ynghyd i gyflawni technolegau arloesol a fydd yn gweithio i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur”.

Y gobaith ar gyfer y prosiect, a sefydlwyd gan y Coleg, Wild Connect a Newport Wafer Fab i gasglu data ar effaith newid hinsawdd a threfoli ar fywyd gwyllt a phoblogaethau anifeiliaid ledled y byd, yw y bydd canfyddiadau’r prosiect yn helpu i lywio a llunio polisïau amgylcheddol allweddol yn y ddwy wlad.

Ar ôl cwblhau cam cyntaf y prosiect yn 2022, bydd dysgwyr yn gallu cael profiad dysgu ymarferol gan ddefnyddio prototeipiau o’r bioffonau i recordio a dadansoddi seiniau eu hunain. Bydd hyn yn helpu i gyflawni nod y prosiect o hybu cyfranogiad y cyhoedd yn gyffredinol ym myd gwyddoniaeth a chelf o dan y fenter STEAM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg) ehangach gan y coleg a phartneriaid y prosiect.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau