Dillad wedi’u huwchgylchu’n chwaethus yn barod am y sioe ffasiwn

Mae dillad a fethodd â chael lle mewn siop elusen yng Nghaerdydd ar fin cael eu harddangos mewn sioe ddillad ar ôl cael eu hadnewyddu’n llwyr gan ddysgwyr talentog cwrs y diwydiannau creadigol.

Yn ddifwlch ers pum mlynedd, mae egin gynllunwyr o Goleg y Cymoedd wedi defnyddio’u sgiliau newydd i droi dillad o Oxfam Boutique Caerdydd yn gyfuniadau gwreiddiol o wisgoedd ar y thema ‘Y Dwyrain yn cwrdd â’r Gorllewin’.

Yn dilyn llwyddiant yr achlysur y llynedd, bydd gwisgoedd deniadol y dysgwyr yn cael eu harddangos yn ystod sioe ffasiwn i godi arian a bydd y sioe ffasiwn yn cael ei chynnal ar gampws Nantgarw, Coleg y Cymoedd Ddydd Mawrth, Rhagfyr 15.

Cyd-fenter fydd y digwyddiad rhwng dysgwyr ledled y coleg. Bydd gwirfoddolwyr o adrannau trin gwallt a’r celfyddydau cynhyrchu yn paratoi’r modelau, bydd dysgwyr o adran technoleg cerddoriaeth yn darparu trac sain a bydd dysgwyr y cyfryngau digidol yn ffilmio’r holl beth.

Lluniwyd y dillad a’r casgliad o ategolion yn gyfangwbl o ddeunyddiau a ddaeth o Oxfam Boutique a deunyddiau eraill wedi’u hailgylchu y mae’r dysgwyr wedi’u huwchgylchu’n ddarnau chwaethus.

Nod y prosiect parhaus hwn ydy annog dysgwyr i ystyried materion moesegol ynghlwm wrth y diwydiant ffasiwn. Ar ben hynny, mae’r arddangosfa’n rhoi profiad o’r ‘byd go wir’ i’r dysgwyr talentog sut i hyrwyddo, trefnu a rheoli digwyddiad mawr.

Dywedodd Jessica Edwards, 18 oed o Lanbradach, dysgwr ar y cwrs celf a dylunio yng Ngholeg y Cymoedd: “Dw i wir wedi mwynhau bod yn rhan o’r prosiect pwysig hwn. Bu’n brofiad gwych i weithio ar wisgoedd ar gyfer brîff go wir, ac mae’n gyffrous iawn meddwl y bydd ein dillad yn cael eu harddangos gan fodelau ar y llwyfan ffasiwn ac ar werth i’r cyhoedd.

“Bu thema Y Dwyrain yn cwrdd â’r Gorllewin yn un ddiddorol i weithio arni ac yn destun rhyfeddod i ddysgu am ystyriaethau moesegol y diwydiannau rydyn ni am weithio ynddyn nhw.”

Ar ôl y sioe ffasiwn, bydd y creadigaethau yn dychwelyd i Oxfam Boutique ar Heol y Santes Fair yng Nghaerdydd i’w gwerthu yno a’r holl elw yn mynd at Oxfam.

Dywedodd Claire Samuel, rheolwraig Oxfam Boutique Caerdydd, “Mae hwn yn gydweithrediad gwych ac yn gyfle gwych i’r genhedlaeth iau ddod i wybod am y gwaith pwysig y mae Oxfam yn ei wneud yn genedlaethol ac yn fyd–eang. Mae’r gwaith y mae’r dysgwyr wedi’i greu yn ardderchog.

“Roedd y dillad yn wledd i’r llygad yn siop Oxfam Boutique ac yn fodd o hysbysu’r cyhoedd am genhadaeth Oxfam i godi pobl o dlodi. Diolch i holl adrannau Coleg y Cymoedd a wnaeth hyn yn bosibl.”

Dywedodd Alistair Aston, tiwtor yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae gweithio gydag Oxfam Boutique bob amser yn brofiad gwych i’n dysgwyr gan ei fod yn eu galluogi i ddod i ddeall y materion hanfodol y mae Oxfam yn eu cynorthwyo yn ogystal â’r paratoi sydd ei angen ar gyfer digwyddiad mawr a gwerthiant masnachol.

“Maen nhw wedi gweithio gydag egni a brwdfrydedd, gan greu gwisgoedd, graffeg a gemwaith ar y thema “Y Dwyrain yn cwrdd â’r Gorllewin” ac fe gaiff y rhain eu harddangos ar y llwyfan ffasiwn yn ystod y sioe ac yna byddan nhw’n cael eu gwerthu yn Oxfam Boutique Caerdydd. Mae gweithio ar draws disgyblaethau ac adrannau ar frîff byw wedi dangos y talent sy’n cael ei ddatblygu yng Ngholeg y Cymoedd.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau