Mae gan ddysgwraig Coleg y Cymoedd, Adele Elliott, ddiddordeb erioed mewn therapïau cyfannol ond rhoddwyd blaenoriaeth i weithio’n llawn amser a magu teulu. Ar ôl 20 mlynedd yn y byd corfforaethol, penderfynodd y fam i ddau o Dreorci ei bod hi’n bryd iddi ddilyn ei diddordeb.
Tra oedd yn gweithio’n llawn amser mewn swyddfa, mynychodd Ddigwyddiad Agored yn y coleg er mwyn gweld a allai ei swydd ddelfrydol fod yn realiti. Trafododd Adele gyda’r tiwtoriaid ei hopsiynau o astudio cyrsiau nos rhan amser a’i llwybr gyrfa ar ôl cwblhau’r cymwysterau.
Ar ôl gweld y cyfleusterau yn y coleg a chlywed am brofiad y staff (gyda llawer ohonynt wedi gweithio yn y sector ac yn berchen ar eu busnes eu hunain), cofrestrodd Adele ar Ddiploma Lefel 3 VTCT mewn Adweitheg.
Roedd hi’n gwybod y byddai dychwelyd i astudio yn 43 oed wrth weithio’n llawn amser a gofalu am deulu yn mynd i fod yn her ond fe wnaeth angerdd Adele ei helpu drwyddi. Roedd y cwrs blwyddyn (dros ddwy noson yr wythnos) o ddiddordeb mawr i Adele, gan ei fod yn cynnwys pob agwedd ar therapïau cyfannol gan gynnwys Adweitheg, Anatomeg, Ffisioleg a Phatholeg.
Enillodd Adele ei Diploma Lefel 3 ym mis Mehefin 2019 ac erbyn hyn hi yw perchennog balch Cariad Holistic Therapies, a leolir yn Nhreorci yng Nghwm Rhondda.
Wrth siarad am ei hastudiaethau dywedodd Adele “Mae Coleg y Cymoedd yn goleg gwych gyda thiwtoriaid anhygoel. Roeddent mor amyneddgar ac yn gallu addasu yn ôl fy anghenion unigol. Rwyf mor ddiolchgar am fy hyfforddiant ac rwyf bellach yn dilyn fy niddordeb sef rhedeg fy musnes fy hun fel Adweithegydd. Nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau rhywbeth newydd”.
Wrth longyfarch Adele ar ei menter newydd, dywedodd Hayley Hunt, ei Thiwtor Cwrs “Nid yw dychwelyd i astudio ar ôl bod i ffwrdd o addysg am rai blynyddoedd byth yn hawdd, yn enwedig pan ydych yn jyglo gweithio’n llawn amser a magu teulu. Ond roedd cymhelliant ac ymrwymiad Adele i gyflawni ei breuddwyd o fod yn berchen ar ei busnes ei hun yn amlwg yn ystod y cwrs. Mae’r coleg yn falch iawn o weld ei busnes newydd, Cariad Holistic Therapies a dymunwn yn dda iddi ar gyfer y dyfodol. Mae hi’n ysbrydoliaeth ac yn brawf y gallwch chi gyflawni’ch nod os ydych chi’n credu ynoch chi’ch hun”.