Dysgwyr Coleg y Cymoedd yn codi arian ar gyfer elusen leol

Bob blwyddyn, mae staff a dysgwyr Mynediad Galwedigaethol o bob campws a’r prosiect ‘Learning Curve’ yn dod ynghyd i ymarfer a pherfformio pantomeim; sydd bob amser yn uchafbwynt y flwyddyn i bawb sydd ynghlwm ag ef.

Nid oedd y flwyddyn hon yn eithriad. Penderfynodd dysgwyr y Celfyddydau Creadigol a’r Cyfryngau E3 gynhyrchu Eira Wen gan ysgrifennu eu sgript eu hunain; a oedd yn greadigol ac yn ddoniol.

Dechreuodd yr ymarferion ar ôl Hanner Tymor yr Hydref, gan roi pedair wythnos yn unig i’r dysgwyr roi’r sioe at ei gilydd ond oherwydd gwaith tîm gwych roedd y cynhyrchiad yn barod ar gyfer tri pherfformiad yn gynharach y mis hwn.

Roedd dros 100 o ddysgwyr o nifer o gyrsiau Mynediad Galwedigaethol yn ymwneud â’r pantomeim, gan fwynhau ystod o gyfrifoldebau gan gynnwys actio, dawnsio, canu, gwneud propiau a golygfeydd, gwerthu tocynnau, chwarae offerynnau cerddorol, gweithio cefn llwyfan ac ym mlaen tÅ· a chyfarch y cynulleidfaoedd. Roedd y dysgwyr yn ddiolchgar i’r dysgwyr Celfyddydau Cynhyrchu – colur L3, a sicrhaodd fod y cast yn edrych fel perfformwyr proffesiynol.

Mwynhaodd y cynulleidfaoedd ganu ac actio rhagorol a chodwyd dros £600 ar gyfer Llamau a ThÅ· Hafan ac un elusen arall sydd eto i’w phennu gan y dysgwyr.Cerys Coleman, o Lwynypia sydd ar hyn o bryd yn astudio ar y cwrs Cyfryngau Creadigol E3 oedd yn chwarae rhan Eira Wen. Ar ôl y perfformiad, meddai Cawsom amser gwych ac rydym yn teimlo’n drist iawn fod y cyfan ar ben”.

Wrth ddiolch i’r gynulleidfa, dywedodd y tiwtor, Angela Martin, “Rydym wedi cael cymaint o hwyl yn ymarfer gan gynhyrchu tri pherfformiad gwych. Mae staff a dysgwyr wedi gweithio’n eithriadol o galed ac rydym i gyd mor falch o lwyddiant ein dysgwyr anhygoel “.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau