Mae dros 150 o ddysgwyr Coleg y Cymoedd wedi ymuno â’r elusen gadwraeth, Save The Rhino International, i greu’r wisg cadair olwyn rhinoseros bwrpasol gyntaf erioed a fydd yn gwibio drwy Farathon Llundain fis Ebrill elen. Nod y prosiect yw codi ymwybyddiaeth o gadwraeth y rhino ar draws y byd, gwella sgiliau myfyrwyr mewn prosiect ymarferol unigryw, a hyrwyddo hygyrchedd mewn digwyddiadau dygnwch.
Am yr wyth mis diwethaf, mae dysgwyr o’r ysgolion Diwydiannau Creadigol, Peirianneg a Mynediad Galwedigaethol wedi bod yn brysur yn creu gwisg rhino arbennig wedi’i haddasu ar gyfer cadair olwyn. Bydd y wisg yn cael ei gwisgo gan chwaraewr Rygbi’r Gynghrair Cadair Olwyn Cymru, Martin Turner, ar y llwybr 26.2 milltir y mis hwn.
Dyma un o’r prosiectau trawsadrannol mwyaf y mae’r coleg wedi ymgymryd ag ef erioed ac mae’r profiad wedi rhoi cyfle unigryw i ddysgwyr gefnogi achos pwysig wrth roi eu sgiliau ymarferol ar brawf. Hefyd, mae’n gyfle i weithio ochr yn ochr ag un o weithwyr proffesiynol blaenllaw’r diwydiant, y pypedwr enwog a noddwr Save the Rhino International, William Todd-Jones, sy’n rhedeg y marathon am y tro cyntaf yn gwisgo gwisg rhino yr oedd wedi’i dylunio 30 mlynedd yn ôl.
Mae dysgwyr wedi gweithio’n agos gyda Todd, Martin, a chyd-chwaraewyr Rygbi’r Gynghrair Martin yn ystod nifer o weithdai i lunio gwisg newydd a sicrhau ei bod yn cwrdd â heriau’r marathon, wrth flaenoriaethu diogelwch a hygyrchedd.
Yn ogystal, maent wedi adfer naw gwisg arall i’w hen ogoniant, gan gynnwys yr un a wisgodd Todd am y tro cyntaf ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Mae’r gwisgoedd hyn wedi cael eu datgymalu a’u trwsio fel bod rhedwyr eraill yn gallu eu gwisgo mewn marathonau a champau eithafol ledled y byd a pharhau â’r traddodiad.
Un dysgwr sy’n cymryd rhan yn y prosiect yw Ray Munro, sydd ar hyn o bryd yn astudio Lefel Mynediad 3 Celfyddydau Creadigol a’r Cyfryngau yn y coleg.
Dywedon nhw: “Yn ystod yr amser yn gweithio ar y prosiect, fe wnaethon ni ddysgu nid yn unig am lunio gwisgoedd ond hefyd am gadwraeth y rhino a gwaith Save the Rhino International. Roedd yn teimlo’n dda gwybod fy mod yn cyfrannu hyd yn oed mewn rhan fach at eu hymdrechion. Mae’r cyfle i fod yn rhan o’r prosiect hwn yn bendant yn rhywbeth y byddaf yn ei drysori am byth, ac edrychaf ymlaen at weld y rhinos ym marathon Llundain.”
Ychwanegodd Rosa Watts, dysgwr Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio: “Fe wnes i fwynhau gweithio gyda Todd a gweddill y tîm yn fawr i helpu i gwblhau’r rhinos mewn pryd ar gyfer marathon Llundain. Datblygodd y broses fy sgiliau gweithio mewn tîm yn fawr a chefais gipolwg gwerthfawr ar sut mae’r diwydiant yn gweithio.”
Wrth sôn am y cyfle i ddysgwyr Mynediad Galwedigaethol Coleg y Cymoedd fod yn rhan o’r prosiect, galwodd Donna Jones, tiwtor Adeiladwaith, y prosiect yn “gydweithrediad calonogol” lle mae “synergedd rhyfeddol wedi dod i’r amlwg, gan gyfuno cadwraeth ag adeiladu sgiliau mewn modd ysbrydoledig. ”.
Parhaodd: “Fe wnaeth ein dysgwyr hogi amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys datrys problemau a chyfathrebu. Trwy eu cyfranogiad, maent nid yn unig wedi ennill profiad ymarferol ond hefyd ddealltwriaeth ddyfnach o gadwraeth amgylcheddol a phwysigrwydd ymgysylltu â’r gymuned.”
Dywedodd Alistair Aston, arweinydd cwrs a chydlynydd diwydiannau creadigol yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae wedi bod yn anrhydedd ymuno ag Save the Rhino International, gan ddod â bywyd newydd i’w gwisgoedd eiconig ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi chwarae rhan yn y gwaith o ledaenu neges Save the Rhino International, gan ysbrydoli gweithredu dros gadwraeth a chynwysoldeb.
“Mae llawer o’r dysgwyr sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith o lunio’r wisg rhino newydd, ochr yn ochr ag ail-fodelu’r hen wisgodd yn ddysgwyr lefel mynediad, sydd yn hanesyddol wedi cael ychydig iawn o gyfle i gymryd rhan mewn prosiect mor unigryw a gwerth chweil. Mae’r cyfleoedd a gyflwynir gan y prosiect Rhino yn ymestyn ymhell y tu hwnt i gaffael sgiliau; mae wedi bod yn gyfle i fod yn rhan o rywbeth mwy na nhw eu hunain, i gyfrannu’n ystyrlon at warchod bywyd gwyllt. Trwy eu cyfranogiad, maent nid yn unig wedi ennill profiad ymarferol ond hefyd ddealltwriaeth ddyfnach o gadwraeth amgylcheddol a phwysigrwydd ymgysylltu â’r gymuned.”
Sefydlwyd Save the Rhino International yn ffurfiol fel elusen yn y DU ym 1994, gyda’r weledigaeth o sicrhau bod pob un o’r pum rhywogaeth rhino yn ffynnu yn y gwyllt. Bydd yr arian a godir yn ystod y marathon yn mynd tuag at warchod rhinos sydd mewn perygl yn Affrica ac Asia. Mae’r prosiect wedi esblygu mewn cydweithrediad agos ag Orangebox o Gymoedd De Cymru, y cwmni dodrefn clyfar rhyngwladol; yr argraffwyr 3D diwydiannol Mark3D; a Motivation, elusen cynhwysiant anabledd rhyngwladol a menter gymdeithasol a roddodd y gadair olwyn ar gyfer y wisg.
Ychwanegodd Jo Shaw, Prif Swyddog Gweithredol Save the Rhino International: “Ers 1992, mae Marathon Llundain wedi bod yn ddigwyddiad hollbwysig i Save the Rhino, gan godi mwy na £2 filiwn a thynnu sylw at bwysigrwydd cadwraeth y rhino i gynulleidfaoedd newydd ar lwyfan y byd. Trwy ddigwyddiadau fel hyn a gyda chymorth sefydliadau fel Coleg y Cymoedd, gallwn barhau i gyflawni cerrig milltir arwyddocaol ym maes cadwraeth y rhino a dod â mwy o bobl ynghyd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n byd.”
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR