Darparodd dysgwyr Coleg y Cymoedd ‘orffwysfa’ galonogol i dîm o 65 o weithwyr trwyddedu proffesiynol a oedd yn cymryd rhan yn Nhaith Beicio 2018 TheLight Fund. Dechreuodd y beicwyr eu taith pedwar diwrnod – 325 milltir ym Mryste ddydd Mawrth, gan feicio 102 milltir i mewn un diwrnod a stopio yng nghampws Aberdâr cyn parhau i’w cyrchfan yn Llanelli.
Mae eu her, sy’n llwybro drwy gefn gwlad Cymru ac Iwerddon cyn cyrraedd Dulyn ddydd Gwener 15 Mehefin; yn gobeithio torri eu targed o godi £150k ar gyfer achosion da.
Ymarferodd y dysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo ar gampws Aberdâr eu sgiliau gan ddarparu lluniaeth a gwasanaeth blaen tÅ· proffesiynol. Ymunodd Tiwtor Creadigol, Chris Summeril â’r beicwyr ar eu llwybr o gampws Bryste i Aberdâr, gan dynnu llun o’u her ar y ffordd.
Roedd trefnwyr y digwyddiad yn falch iawn o’r lletygarwch a ddarparwyd gan y coleg. Gan ddiolch i’r staff a’r dysgwyr, dywedodd y Rheolwr Prosiect ar gyfer Classic Challenge, Lucy Thomas Diolch yn fawr am eich lletygarwch, roedd yn anhygoel. Roedd y staff a’r dysgwyr yn wych.â€
“