Dysgwyr yn cyfrannu i helpu cyn-filwyr

Mae dysgwyr a staff Coleg y Cymoedd wedi trefnu nifer o weithgareddau i godi arian i elusen sy’n helpu cyn-filwyr.

Trefnodd 19 o fyfyrwyr cwrs Lefel 2 Cymorth Systemau TG campws Ystrad Mynach ddigwyddiadau a gweithgaredd i gasglu cyfraniadau ar gyfer elusen Soldiers Off The Street”.

Cododd y grŵp £323.43 i’w anfon i’r elusen drwy ymdrechion fel raffl, stondin fwydydd a gofyn i’r Pennaeth gasglu arian mewn cyfarfodydd a chymell eu tiwtor i dyfu ei wallt a’i farf am fisoedd, cyn cael ei eillio i godi arian.

Bu’r holl ddosbarth yn cymryd rhan mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys hysbysebu, ymchwil a rheoli rota’r digwyddiadau. Mae’r gweithgaredd hefyd yn cyfrif fel rhan o’u cymhwyster Bagloriaeth Cymru gan eu bod yn canolbwyntio ar Gyfranogiad Cymunedol a Menter.

Cafodd y rhai fu’n codi’r arian Siec enfawr i nodi hynny a’u llongyfarch gan Bennaeth y coleg, Judith Evans, a Chris Robinson, cynrychiolydd ‘Soldiers off The Street’.

Dywedodd Geraint Cox, 25 oed o’r Bargod: “Wnes i wir fwynhau bod yn rhan o’r gweithgaredd codi arian a rydw i’n hynod falch fod y cyfan wedi mynd cystal. Fe ddewison ni ‘Soldiers Off The Street’ gan ein bod am gasglu i elusen fach ac oherwydd bod gan rai ohonon ni aelodau’r teulu yn y lluoedd arfog. Ar ôl peth ymchwil i wahanol elusennau, fe ddewison ni’r elusen hon, sydd wedi ei lleoli yn Y Rhyl.”

Yn ôl Matthew Hewer, 17 oed, hefyd o’r Bargod: “Rydw i’n credu bod codi arian wedi bod o help i fy hyder a rydw i’n teimlo mod i wedi bod yn rhan o’r holl weithgareddau.”

Dywedodd eu tiwtor TG, Ayub Shan: “Rydyn ni’n hynod falch o’r dysgwyr am iddyn nhw fod mor frwdfrydig wrth gymryd rhan a chodi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer achos mor deilwng. Rydw i’n bersonol wedi fy syfrdanu gan haelioni’r dysgwyr a’r staff.”

Dywedodd Chris Robinson, cynrychiolydd ‘Soldiers Off The Street’: “Rydyn ni, o elusen ‘Soldiers off the Street’ yn hynod falch o gael ein dewis fel elusen gan y myfyrwyr hyn yng Ngholeg y Cymoedd ac yn dymuno diolch i bawb ohonoch chi am y gwaith caled rydych chi wedi ei gyflawni yn y digwyddiadau hyn. Ac fe hoffem ddiolch ar ran y rhai na all ddiolch i chi eu hunain, hynny ydy, y cyn aelodau o’r lluoedd arfog rydyn ni’n eu cynorthwyo.”

I ganfod mwy am elusen ‘Soldiers Off the Street’, gyda’i harwyddair ‘Yr unig adeg dylech chi edrych lawr ar rywun ydy pan fyddwch chi’n helpu i’w codi ar eu traed’, ewch ar y wefan hon: http://www.soldiersoffthestreet.org/

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau