Sgiliau wrth y tiliau i staff archfarcnhad – diolch i Goleg y Cymoedd

Mae myfyrwyr coleg yn cael yr awydd i droi i fyd y ffilmiau wrth glywed hanes fod eu darlithydd yn ymuno â chast un o ffilmiau newydd Ridley Scott ar gyfer y sgrin fawr, lle bydd ei ddisgyblion am y mis nesaf yn cynnwys actorion enwog fel Christian Bale a Joel Edgerton.

Fel athro y mae Alistair Aston, darlithydd mewn dylunio 3D yng Nghjoleg y Cymoedd, yn ystyried ei hunan yn gyntaf ac yn bennaf. Fodd bynnag, ers pum mlynedd mae galw mawr am ei wasanaeth fel ymgynghorydd saethyddiaeth, gwneuthurwr props a hyfforddwr i ddiwydiant ffilmiau Hollywood.

Yn ei dasg ddiweddaraf, mae sgiliau Alistair yn ei yrru ar leoliad i Sbaen, lle bydd yn rhoi hyfforddiant i’r actor Christian Bale, sy’n enedigol o Gymru, ar set y ffilm ‘Exodus’, epic Beiblaidd nesaf Ridley Scott.

Dechreuodd cyfraniad Alistair ym myd ffilm ar un o draethau Gorllewin Cymru, pan wnaeth gais yn 2010i fod yn artist cynorthwyol yn ‘Robin Hood’, un o ffilmiau blaenorol of Ridley Scott. Roedd yr addysgwr bywiog ers blynyddoedd lawer wedi bod yn cystadlu mewn gornestau cenedlaethol bwa hir a bu’n dal record y byd yn 2007. Fe wnaeth un o’r criw hyfforddi saethyddiaeth ar y ffilm ei adnabod a’i wahodd i hyfforddi’r rhodwyr ar y set.

Gan anghofio am funud am y cyfle i gymysgu â mawrion Hollywood, dywed Alistair ei fod yn credu mai’r elfen fwyaf gwerthfawr sy’n dod o weithio ar ffilm ydy y gall wedyn ddangos i’w fyfyrwyr fod cyfleoedd yn bodoli yn y diwydiannau creadigol a dylunio.

Meddai: “Allai ddim a gwadu nad ydy bod yn rhan o brosiectau mawr Hollywood yn gyffrous, ond y wobr fwyaf ydy gallu dangos i’r myfyrwyr y cyfleodd real sydd ganddyn nhw i ddefnyddio’r sgiliau maen nhw’n eu dysgu o fewn y diwydiannau creadigol ac y gallan nhw ennnill bywoliaeth drwy gyfrwng y sgiliau hynny.

“Mae llawer o’r myfyrwyr yn meddwl fod cael gwaith yn y diwydiant teledu a ffilm allan o’u cyrraedd, ond nid felly mae hi. Ydy, mae fy myfyrwyr yn awyddus i glywed sut un ydy Batman fel person – ac mae e’n un hynod o broffesiynol – ond fy neges i iddyn nhw ydy fod angen yr ysfa i lwyddo arnyn nhw a bod eisiau angerdd dros eu haddysg a’u diddordebau allanol.

“Mae cyfloedd real ar gael i’r myfyrwyr hyn, er enghraifft, dim ond un o ddartlithwyr y coleg ydw i, sy’n gweithio yn y diwydiant yn ogystal ag addysgu. Mae rhai o fy nghydweithwyr yn gweithio i’r BBC, Y Cwmni Opera Cenedlaethol a sefydliadau eraill o safon byd eang ac yn dod â’r profiad gwaith real hwnnw i’r stafell ddosbarth. Mae’r cysylltiadau hynny hefyd yn ein galluogi i gael profiad gwaith go iawn i’r myfyrwyr gyda’r darlledwyr a chwmniau cynhyrchu cenedlaethol ac mae hyn yn aml wedi arwain i rai gael cynnig swyddi neu olygu fod myfyrwy yn cael cynnig lle mewn prifysgolion uchel eu parch.”

Yn ddiweddar, cafodd dwy fyfyrwraig o Goleg y Cymoedd gynnig prentisiaeth â thâl gan BBC Cymru. Mae Lucy Robertson, 19, o’r Gelli, ar hyn o bryd yn gweithio ar nifer o brosiectau gydag adran gelf y gorfforaeth ddarlledu. Mae Lucia Strinati, 19, o Gaerffili wedi cael gwaith gydag adran creu gwisgoedd BBC Cymru, sy’n golygu y caiff hi wneud defnydd o sgiliau’r prosiect dylunio 3D ddysgodd hi yn y coleg.

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae sgiliau ac ysbryd anturus Alistair i fod yn rhan o’r diwydiant ffilm yn dangos y safon eithriadol o dda sydd ymhlith staff addysgu’r coleg. Mae ei waith e ar y ffilmiau, a rhai o’i gydweithwyr, yn caniatáu i’r myfyrwyr weld fel y gallan nhw hefyd roi eu sgiliau ar waith, symud ymlaen i astudiaethau pellach neu i swyddi ac yn eu hysbrydoli i ddilyn eu huchelgais a’u dewis o yrfa.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau