Bydd teithwyr sy’n teithio o Flaen-cwm a Blaen-rhondda yn y Rhondda Fawr i Gaerffili yn gallu teithio mewn mwy o foethusrwydd wrth i Stagecoach yn Ne Cymru lansio ei fflyd ddiweddaraf o fysiau ‘aur’ moethus yn swyddogol heddiw.
Mae buddsoddiad o dros £4 miliwn gan Stagecoach yn golygu y bydd teithwyr sy’n defnyddio gwasanaeth Stagecoach 120/130, sy’n mynd trwy’r Rhondda Fawr i Donypandy, Y Porth, Pontypridd a Nantgarw tuag at Gaerffili, yn cael gwasanaeth moethus pum seren wrth iddynt fwynhau seddi e-ledr uchel, mwy o le i’w coesau, WiFi a thrydanu USB am ddim. Cyflwynir cyhoeddiadau stop nesaf clyweledol dwyieithog sy’n rhoi gwybodaeth ychwanegol i deithwyr ar eu taith.
Lansiad diweddaraf Stagecoach Gold yw’r drydedd fflyd o’i math i gael ei chyflwyno yn Ne Cymru. Mae’r Gwasanaeth 120/130 yn ymuno â’r gwasanaeth Gold 132 a lansiwyd yn 2016 sy’n teithio o’r Maerdy i Gaerdydd. Lansiwyd y gwasanaeth Gold cyntaf, Gwasanaeth X24 o Flaenafon i Gasnewydd trwy Bont-y-pŵl a Chwmbrân, yn ôl yn 2015.
Dywedodd Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: Rydym yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol yn ein fflyd i wella profiad y teithwyr. Rydym wedi buddsoddi dros £30m mewn bysiau newydd ers 2007 (10 mlynedd), 263 o fysiau newydd, gyda dros £4 miliwn eleni yn ychwanegu at fuddsoddi cyson yng nghludiant teithwyr yn Ne Cymru. Mae ein bysiau aur wedi’u cynllunio gan ystyried anghenion ein cwsmeriaid. Rydym yn gwybod y bydd ein cwsmeriaid yn gwerthfawrogi defnyddio WiFi a thrydanu USB am ddim ar deithiau fel y gwasanaeth o Flaen-cwm i Gaerffili, er mwyn iddynt gael treulio eu hamser yn cymudo’n gynhyrchiol, ac yn croesawu cael seddi cyfforddus ac injan fwy ecogyfeillgar gyda’r dechnoleg stopio/dechrau Euro 6 ddiweddaraf.
“Fel rhan o’n gwasanaeth Gold, byddwn yn sicrhau bod pob un o’n gyrwyr yn cael eu hyfforddi i ddarparu profiad gwasanaeth cwsmeriaid pum seren. Bydd ein tîm o yrwyr rheolaidd, brwdfrydig yn helpu cwsmeriaid, p’un a ydynt yn teithio ar y bws am y tro cyntaf neu’n teithio’n aml, a bydd ychydig o foethusrwydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn er mwyn rhoi taith fwy pleserus a chynhyrchiol gyda WiFi am ddim a phwyntiau trydanu USB “.
I ddathlu’r lansiad swyddogol heddiw, arddangoswyd bws aur newydd yng Ngholeg y Cymoedd, Campws Nantgarw er mwyn i ddysgwyr gael ei weld cyn iddo ddechrau teithio ddydd Mawrth 12 Rhagfyr. Gwahoddwyd y dysgwyr i roi cynnig ar y bws newydd. Meddai Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Rydym yn croesawu’r buddsoddiad hwn gan Stagecoach. Mae angen cludiant da a dibynadwy ar ein dysgwyr er mwyn cyrraedd campysau’r Coleg. Bydd ein dysgwyr yn cael defnyddio cyfleusterau gwell sy’n caniatáu iddynt astudio wrth iddynt deithio a byddant yn gallu monitro amseroedd bws fel y gallant deithio’n ddiogel a chyrraedd ar amser. “
Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: “Mae’r cerbydau hyn yn fuddsoddiad sylweddol gan Stagecoach; y mwyafrif ohono yng Nghymoedd De Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwyf yn siŵr y bydd teithwyr yr un mor bles â’r bysiau newydd hyn fel yr ydym ni .
Yn uwchgynhadledd flynyddol y diwydiant bysiau yn gynharach eleni, buom yn trafod nid yn unig yr heriau y mae’r diwydiant bysiau’n eu hwynebu yn awr, ond hefyd yr angen i ddechrau mapio dyfodol cynaliadwy tymor hir gwasanaeth cyhoeddus hanfodol.
Mae pob ohonom yn dymuno cael system drafnidiaeth gynaliadwy o safon fyd-eang yng Nghymru. Mae gwasanaethau bws lleol yn gwneud cyfraniad eithriadol o bwysig i gyflawni ein huchelgais ar gyfer cludiant lleol a gwella ansawdd yr aer. “
Mae gan bob un o’r bysiau sengl Stagecoach Gold injan stopio / dechrau Euro 6, sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, a gynlluniwyd i leihau gollyngiadau nwyon cerbydau. Mae’r fflyd hefyd yn rhedeg ar gymysgedd gwyrddach o hyd at 30% o fiodanwydd wedi’i ailgylchu a 70% o ddisel sylffwr isel i leihau gollyngiadau C02.
Bydd ugain o fysiau newydd Stagecoach Gold ar waith ar hyd y llwybr 120/130 a fydd yn gweithredu hyd at bob 10 munud o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a phob awr drwy’r rhan fwyaf o ddydd Sul a chyda’r hwyr.
Mae gan y bysiau Stagecoach Gold fynedfeydd isel sy’n gwneud teithio’n haws i gwsmeriaid â chadeiriau olwyn, cadeiriau gwthio a phroblemau symud. Gall pob cerbyd gario cadair olwyn yn ddiogel ac mae gyrwyr wedi’u hyfforddi ac yn gallu darparu cymorth os oes angen.
“