Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Lefel 1 mewn Therapi Harddwch

Lluniwyd y cymhwyster Therapi Harddwch yn benodol i ddatblygu’ch sgiliau ymarferol drwy’r unedau canlynol: gwella golwg y dwylo a’r traed drwy eu trin, glanhau, tonio a lleitho croen a rhoi cyngor ar sut i ofalu am y croen a rhoi colur sylfaenol o ddydd i ddydd. I wella’ch sgiliau ymhellach, byddwch yn astudio elfennau artistig a chreadigol ar eich cwrs megis celf ewinedd, paentio wyneb ar thema a choluro ar gyfer ffotograffau.


I fod yn sail i’r cymhwyster hwn, byddwch yn datblygu gwybodaeth gadarn o iechyd a diogelwch a byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o’r sgiliau sydd eu hangen i’ch cynorthwyo yn y diwydiant therapi harddwch megis dyletswyddau derbynfa salon, a chydweithio ag eraill.

Pwrpas y cymhwyster hwn ydy datblygu’ch sgiliau mewn therapi harddwch a darparu sail i’ch dysgu pellach. Bydd hefyd yn eich galluogi i berfformio’ch gwasanaethau sylfaenol eich hun ac i gynorthwyo eraill yn y salon. Byddwch hefyd yn astudio Bagloriaeth Cymru, Sgiliau Hanfodol Cymru a Dyfarniad mewn Cymhwyster Profiad Gwaith.


Beth fydda i'n ei ddysgu?

Byddwch yn astudio; Unedau sy’n adlewyrchu anghenion y proffesiwn Therapi Harddwch tra’n eich paratoi’n ymhellach ar gyfer fgyrfa yn y sector hwn.
Agweddau sylfaenol Therapi Harddwch i’ch galluogi i helpu’r Therapydd, Safonau Cyflogaeth, Iechyd a Diogelwch, Gwasanaethau Cwsmeriaid. Byddwch hefyd yn astudio Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif a Thechnoleg Gwybodaeth.


Mae’r cwrs yn cynnwys gwersi Therapi Harddwch theori ac ymarferol gyda llawer o gyfleoedd i weithio mewn amgylchedd masnachol.
Bagloriaeth Cymru - byddwch yn ystyried ystod eang o feysydd gan gynnwys sut mae Cymru’n ‘ffitio i mewn’ gydag Ewrop a gweddill y byd a iechyd y genedl a sut i fod yn fentrus.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd angen 3 TGAU graddau A*- E yn cynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg a Mathemateg /Rhifedd neu gymhwyster cwrs sylfaen yn cynnwys Sgiliau Hanfodol Lefel 3 Mynediad yn ogystal â geirda gan diwtor blaenorol. Efallai gofynnir i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol.


Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Harddwch. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Bydd angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y cwrs hwn; darperir rhestr lawn. Bydd gofyn i chi gael eich asesu o ran llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi.

Asesiad

Defnyddir ystod o ddulliau i asesu’ch gwaith, sy’n cynnwys asesu parhaus drwy arsylwi’ch gwaith ymarferol ar gleientiaid sy'n talu, cwblhau portffolio, tystiolaeth ddamcaniaethol a gwaith aseiniad. Mae arholiadau allanol ar-lein a phortffolios Sgiliau Hanfodol.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn gallu symud ymlaen i raglen Therapi Harddwch Lefel 2. Er mwyn i chi gyflawni’ch llawn botensial ar gyfer gofynion proffesiynol y diwydiant, argymhellir yn gryf eich bod yn gwneud Lefel 2/3.

Nodiadau Pellach

TEST ADDITIONAL FEES

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Level 1
Modd:Full Time
Dyddiad:04/09/2023
Lleoliad:Ystrad Mynach
Cod y Cwrs:7BF103YA
Ffioedd
FT Registration Fee: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Rheolwyr a pherchnogion siopau trin gwallt a salonau harddwch:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Harddwyr a galwedigaethau cysylltiedig:
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location
Choose Location
Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau