Yn ddiweddar, dathlodd Coleg y Cymoedd gyflawniad ‘Cyfraniad Eithriadol Sefydliadol’ fel rhan o Ddigwyddiadau Dathlu Mentora Cenedlaethol Ymestyn yn Ehangach ar gyfer De Ddwyrain Cymru a De Orllewin Cymru.
Mae’r gwobrau hyn yn dathlu llwyddiannau a chyflawniadau mentoreion, mentoriaid, a phartneriaid sy’n rhan o’r rhaglen.
Hoffem roi sylw arbennig i’n dysgwr Chwaraeon Lefel 3 Ludmila de Sousa a gyrhaeddodd restr fer gwobr Mentorai’r Flwyddyn. Llongyfarchiadau i Ludmila ar ei chynigion gan brifysgolion! Bydd yn cychwyn ar ei thaith nesaf i’r brifysgol yn 2025 i astudio Hyfforddi Chwaraeon.
Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Ludmila “Mae’r prosiect mentora wedi cael effaith fawr arna i oherwydd dysgodd i mi’r hyn y dylwn fod yn chwilio amdano, gan ddechrau gyda’r hyn roeddwn i eisiau ei wneud a’r hyn y gallwn ei astudio”

[Llun] Dysgwyr Chwaraeon Lefel 3 gyda chyn chwaraewr rhyngwladol Undeb Rygbi Cymru Josh Navidi
Da iawn bawb!