Y Cymoedd yn bencampwyr rygbi yn erbyn eu hen elynion

Mae dysgwyr a staff Coleg y Cymoedd yn dathlu buddugoliaeth sgwad rygbi dan 18 y coleg am yr ail flwyddyn yn olynol dros eu hen elynion Coleg Sir Gâr wrth ennill ym mhencampwriaeth 2016 y Colegau dan Undeb Rygbi Cymru.

Daeth y fuddugoliaeth ysgubol rhwng sgwadiau’r ddau goleg ar Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd – a dyma’r pedwerydd tro i’r ddau dîm wynebu’i gilydd.

Mewn gem dynn, gadwodd y cefnogwyr ar ymyl eu seddau nes i Goleg y Cymoedd ymestyn y bwlch rhwng y ddau dîm i fod yn 20 pwynt, y sgôr terfynol oedd 44-24. Hon oedd yr ail fuddugoliaeth olynol i’r Cymoedd dros Goleg Sir Gâr.

Mae’r canlyniad yn goron ar y tymor mwyaf llwyddiannus i Goleg y Cymoedd ers ffurfio’r tîm yn 2013, pan unodd Coleg Morgannwg a Choleg Ystrad Mynach. Yn ogystal â chyrraedd y rownd derfynol yn Stadiwm y Principality, llwyddodd ail dîm y coleg i gyrraedd rowndiau cyn-derfynol Cwpan Colegau Prydain.

Yn ei ymateb i’r fuddugoliaeth a pherfformiad gwych y sgwad hyd yma, dywedodd Clive Jones, cyfarwyddwr rygbi Coleg y Cymoedd:

“Bu 2015-16 yn flwyddyn lwyddiannus arall i’r rhaglen rygbi a rydyn ni’n hynod falch o fod wedi cadw’r pencampwriaeth dan 18 oed.”

“Mae ymroddiad a gwaith paratoi’r bechgyn wedi bod yn eithriadol. Adlewyrchwyd yr ymroddiad gan i rai gael eu dewis yn y timau rhanbarth a chenedlaethol gyda 7 chwaraewr yn ennill capiau dros Gymru. 

Yn Academi Rygbi’r Coleg mae’r bechgyn yn cael hyfforddiant rygbi arbenigol, dysgu sut i ddadansoddi’r gêm ac am gryfhau a chyflyru i fod ar eu gorau. Fodd bynnag, mae Academi’r Coleg yn sicrhau bod y dysgwyr rygbi yn cael eu paratoi’n academaidd rhag ofn na fydd gyrfa yn eu haros ym myd rygbi.

Ychwanegodd Clive Jones: Er mod felys ydy cyrraedd tair ffeinal, mae’n fwy pleserus gweld y chwaraewyr yn llwyddo hefyd yn eu dysg. Mae’n dangos fod y rhaglen yn llwyddo ar y maes ac oddi arno. Rydyn ni’n pwysleisio fod angen i’r bechgyn hyn ddatblygu’r doniau a’r gwerthoedd fydd yn gefn iddyn nhw yn y dyfodol, boed hynny ym myd addysg, gwaith neu rygbi proffesiynol.”

Gwersi gwyddoniaeth tu hwnt i’r byd hwn wedi i ddarlithydd fynd i archwilio canolfan wyddonol fyd-enwog

Gall myfyrwyr Mynediad i Addysg Uwch a Ffiseg BTEC yn y Cymoedd gael gwedd fwy newydd ar wyddoniaeth wedi i’w darlithydd ddychwelyd o’r Swisdir, lle bu’n ymweld â chanolfan nodedig sy’n chwilio am atebion i’r bydysawd a’i gychwyniad.

Bu Anthony Mitchell, darlithydd mewn Ffiseg yng Ngholeg y Cymoedd, ar ymweliad â chanolfan CERN, cartref y Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr – yr offer gwerth biliynau sy’n ceisio ail-adrodd moment ‘Y Glec Fawr’.

Dewiswyd Anthony, o Gasnewydd, fel un o 24 o athrawon o wahanol fannau yng Nghymru i ymweld â CERN i weld ymchwil pellach ar Ffiseg Ronynnol. Tra bu Anthony yno, bu’n mynychu darlithoedd gan wyddonwyr a pheirianwyr am yr adnoddau yn CERN, yn ogystal â chael sgyrsiau am gymhwysiad technoleg ffiseg gronynnol.

Bydd profiadau CERN Anthony, sy’n gweithio ar gampws Nantgarw, yn cyfoethogi ei wersi ar gyfer dysgwyr Mynediad i Addysg Uwch a Ffiseg BTEC y safle. Mae eisoes wedi adolygu ei gynllun addysgu am y flwyddyn i gynnwys gwybodaeth ddaeth o CERN, ac y mae Anthony hefyd yn bwriadu rhoi sgwrs i staff a dysgwyr am ei daith, gyda’r gobaith o’u hysbrydoli i ymddiddori ymhellach mewn gwyddoniaeth.

Hefyd, mae’r 24 athro fu ar y daith yn bwriadu sefydlu ‘rhwydwaith gwybodaeth’ fydd yn rhannu a datblygu adnoddau ag athrawon gwyddoniaeth eraill yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.

Meddai Anthony, wrth drafod y daith: “Roedd cael ymweld â CERN a gweld y gwaith sydd ar flaen y gad ym maes ffiseg gronynnol yn brofiad unwaith mewn oes. Roedd yn fraint cael cynrychioli Coleg y Cymoedd ar y daith.

“Mae’r dechnoleg sy’n dod o ganlyniad i waith CERN yn enfawr. Dyma ble cafodd y rhyngrwyd ei chreu, ble darganfuwyd yr Higgs Boson ynghyd â thriniaethau meddygol newydd sy’n defnyddio pelydrau proton. Mae’n sefydliad cwbl unigryw a gobeithio galla i rannu’r cyfan ddysgis i yno gyda dysgwyr Coleg y Cymoedd.”

Mae’r ymweliad yn cefnogi ymgyrch Ffocws ar Wyddoniaeth Llywodraeth Cymru, sydd wedi ei anelu i gymell mwy o bobl ifanc i ymddiddori mewn dewis gyrfa ym maes gwyddoniaeth. 

Bwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladu yn sefydlu Canolfan Arloesedd Adeiladu Cymru flaengar gwerth £6.5 miliwn gyda PCYDDS

Dydd Mawrth (Ebrill 12), llofnodir cytundeb arloesol Cymru gyfan gwerth £6.5 miliwn a fydd yn creu hyfforddiant ym maes adeiladu ar gyfer 1,100 i bobl bobl blwyddyn.

Bydd Bwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladu (CITB) a chonsortiwm dan arweinad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn sefydlu Canolfan Arloesedd Adeiladu Cymru (CWIC) i gynnig hyfforddiant a chyfleusterau heb eu hail i unigolion a chwmnïau adeiladu.

Gyda’i darpar bencadlys yn Ardal Arloesedd Glan y Dŵr Prifysgol Abertawe, bydd safleoedd gan CWIC hefyd ar gampysau colegau ledled Cymru, gan gynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, sy’n rhan o Grŵp PCYDDS a Choleg Cambria yng Ngogledd Cymru a Choleg y Cymoedd yn Ne Ddwyrain Cymru.

Mae’r gwaith adeiladu i fod i gychwyn tua diwedd 2016 gyda’r bwriad o agor y Ganolfan fis Medi 2018.

Dywedodd Mark Bodger, Cyfarwyddwr Partneriaeth Strategol CITB Cymru:

“Bydd y bartneriaeth flaengar hon yn sicrhau bod gennym y sgiliau priodol i ddiwallu darpar anghenion ac anghenion cyfredol ein diwydiant. Bydd y ganolfan gyffrous newydd hon yn gam mawr ymlaen i’r diwydiant adeiladu yng Nghymru ac yn ei helpu i fod yn arweinydd ym maes adeiladu digidol a chyfoes ac ym maes trwsio adeiladau traddodiadol a safleoedd treftadaeth.”

Dywedodd Gerald Naylor, Cyfarwyddwr Prosiect PCYDDS: “Rydyn ni’n edrych ymlaen i gydweithio gyda’r CITB i ddatblygu model newydd ar gyfer cyflenwi sgiliau ar gyfer y sector aeiladau yng Nghymru a thu hwnt. Wrth  gydweithio gyda’n partneriaid Colegau AB ar draws Cymru, byddwn yn datblygu fframwaith ‘Hub and Spoke/Canol a Changen’ a fydd yn galluogi cwmnïau i sicrhau hyfforddant drwy fan canolog.”

Lleolir yr “Canol” yn Ardal Arloesedd Glan y Dŵr Prifysgol Abertawe a bydd y “Canghennau” yn y colegau a restrir uchod

Bydd y cydweithrediad hwn rhwng y CITB ac UWTSD/PCYDDS yn cynnig y cyfleusterau a’r arbenigedd i gwmnïau brofi cysyniadau newydd yn yr hyfforddiant. Hon fydd:

  • Y ganolfan gyntaf o’i math ym Mhrydain i ddarparu ymchwil cymhwysol, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth drwy un bartneriaeth  
  • Yn darparu cyfleusterau heb eu hail fel y gall myfyrwyr a busnesau ddysgu’r arferion gorau o ran technegau.
  • Bydd yn cynnig “parth adeiladu buan” i gychwyn systemau arloesol ar gyfer profion pwrpasol megis perfformiad adeileddol.

Dywedodd Donna Griffiths, Rheolwraig Partneriaethau CITB: “Bydd y CWIC, am y tro cyntaf, yn darparu llwybr gyrfaol integredig rhwng crefftau, masnach a swyddi proffesiynol ym maes adeiladu ar draws Cymru gyfan.

“Bydd y CWIC yn ymateb i’r her sgiiliau y mae Cymru yn ei hwynebu a bydd yn help i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr yn y diwydiant adeiladu.”

Ychwanegodd Yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor PCYDDS: “Gweledigaeth Canolfan Ardal Arloesedd Glan y Dŵr Abertawe ydy creu cymdogaeth lle gall y Brifysgol a’i phartneriaid gydweithio gyda’r diwydiant i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a fydd o fudd nid yn unig i’r ardal ond hefyd i weddill Cymru. Mae’r datblygiad hwn yn allweddol i ni wireddu’r weledigaeth honno”. 

Watch Principal Judith Evans commenting on this exciting initiative at: https://youtu.be/sArz-BCkCeE 

Coleg y Cymoedd yn mynd ag arbenigedd addysgu i Fietnam

Yn ddiweddar, ymwelodd Coleg y Cymoedd â Fietnam i drosglwyddo arbenigedd Addysgu ac Ansawdd i golegau galwedigaethol yn Hanoi.

Mewn partneriaeth â ‘Phrosiect Sylfaen Fietnam’ Y Cyngor Prydeinig, aeth cynrychiolwyr o Goleg y Cymoedd yno i Arddangos arferion da mewn Addysgu a Sicrhau Ansawdd i golegau yn Fietnam.

Mae Coleg y Cymoedd mewn partneriaeth â thri choleg yn Fietnam – Coleg Mecanwaith a Thrydanwaith Hanoi, Coleg Diwydiannol Hanoi a Choleg Coreaidd Fietnam gyda’r Cyngor Prydeinig ac Adran Gyffredinol Hyfforddiant Galwedigaethol (GDVT) gyda’r nod o gyfoethogi profiadau dysgu yn Fietnam a Chymru fel ei gilydd.

Bwriad yr ymweliad 13 diwrnod yn ystod mis Mawrth oedd rhannu Systemau’r DU ar Reoli Ansawdd a Phroses Hunanwerthuso Colegau, rhannu strategaethau ac adnoddau addysgu gyda ffocws arbennig ar ddatblygu ac integreiddio sgiliau cyflogadwyedd a strategaethau asesu ‘Share UK’.

Yn ystod yr ymweliad, cafodd staff Coleg y Cymoedd y dasg o feincnodi arferion cyfredol Sicrhau Ansawdd ac arferion Addysgu a Dysgu cyfredol a chynnal dadansoddiad o anghenion hyfforddi yn y meysydd hyn. Cyflwynodd y coleg ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’ iddyn nhw fel bod colegau Fietnam yn gallu rhoi arferion newydd a hyfforddiant ar waith o fewn y sefydliadau.

Ymgymerodd staff Coleg y DU â chynllunio camau gweithredu er mwyn sicrhau y byddai colegau Fietnam yn ymrwymo i sicrhau gwelliannau a chymryd rhan mewn seminar gwerthuso i benderfynu ar effaith yr hyfforddiant a’u datblygiad. Cafodd pob coleg oedd yn cymryd rhan hefyd gyfle i drafod y potensial ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol a chynaliadwyedd y bartneriaeth.

Dywedodd Elaine Rees, Pennaeth Busnes a Gwasanaethau Rhyngwladol Coleg y Cymoedd: “Mae hwn yn brosiect ardderchog ac mae’n wych i weld camau cyntaf y newid diwylliannol ac ethos yn dilyn yr ymweliad hwn. Yn y tymor hir, bydd y colegau sy’n rhan o’r prosiect yn gwella offer a dulliau addysgu, asesu sgiliau myfyrwyr yn fwy cywir, gwella symbyliad myfyrwyr a staff ac, yn anochel, yn gwella sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr.

Rydyn ni’n hynod falch o fod yn rhan o’r ymweliad hwn sy’n bwydo i mewn i gynlluniau rhyngwladol ehangach ar gyfer Coleg y Cymoedd ac, ynghyd ag ymweliadau diwyliannol cyfnewid blaenorol, mae’n helpu i greu perthynas gadarnach gyda cholegau dramor.” 

Llwyddiant i fyfyrwraig gwasanaethau ewinedd o Donyrefail mewn Gornest Sgiliau

Mae myfyrwraig o Donyrefail newydd ennill y wobr aur yn ffeinal y sgiliau cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Ewinedd.

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru (Skills Competition Wales) dan nawdd Llywodraeth Cymru yn gyfres o ddigwyddiadau a luniwyd i ddathlu sgiliau galwedigaethol a chreu gweithlu medrus iawn yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.

Gydag athletwyr Olympaidd yn hyfforddi’n galed ar gyfer y gemau yn Rio, mae Holly Bailey ymhlith y 78 o bobl ifanc Cymru sydd wedi bod yn perffeithio’u sgiliau hithau i ennill medal. Gall yr egin bencampwyr hyn ar draws ystod o alwedigaethau o ddylunio graffeg i goginio teisennau, yn union fel yr athletwyr Olympaidd, fynd ynmlaen i gystadlu yn erbyn cystadleuwyr o wledydd eraill.

Bu Holly, o Goleg y Cymoedd, yn cystadlu yn erbyn pedwar myfyriwr arall o Gymru. Roedd rhaid iddyn nhw gwblhau cyfres o sialensiau gwasanaethau ewinedd o fewn cyfnod o ddwy awr a hanner i drin ewinedd a’u haddurno.

Dywedodd Holly sy’n astudio Diploma Lefel 3 mewn Technoleg Ewinedd ei bod wrth ei bodd i ennill y gystadeuaeth: 

“Roedd ennill y gystadleuaeth yn sioc llwyr. Roeddwn i’n hynod nerfus ar y diwrnod, ond hefyd yn gyffrous mod i’n cael arddangos fy sgiliau. Fe wnes i sesiwn ymarfer gyda fy nhiwtoriaid yr wythnos flaenorol a mynd drwy fy holl dechnegau nes mod i’n teimlo’n hyderus ac yn barod ar gyfer y diwrnod mawr. Rydw i wedi ymddiddori mewn celf ewinedd ers peth amser, rydw i’n berson artistig ac felly’n mwynhau chwarae tipyn gyda gwahanol batrymau pan fydda i wrth fy ngwaith yn y salon harddwch. Fe fyddwn i’n dwli rhedeg fy musnes fy hunan rhyw ddydd ac y mae ennill y gystadleuaeth hon yn gwneud i mi deimlo mod i un cam yn nes at wireddu hynny.” 

Yn ôl Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae Cystadleuaeth Sgiliau Byd yn gyfle gwych i fyfyrwyr gymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’n bwysig i ni annog cymaint o ddysgwyr â phosibl i gystadlu, maen nhw’n meddu ar sgiliau nodedig eu lefel. Mae’r hyn y mae Holly wedi’i gyflawni’n wych a dymunwn bob lwc iddi ar gam nesaf y gystadleuaeth.” 

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn rhan o Raglen Llywodraeth Cymru ar Dwf a Swyddi Cynaliadwy, gyda’r bwriad i hyrwyddo pwysigrwydd sgiliau galwedigaethol ac i roi hwb i alluoedd cyffredinol a ffyniant Cymru.

Gyda chymorth y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru a rhwydwaith o golegau a darparwyr addysg yn y gweithle yn trefnu’r cyfan, bydd 33 o Gystadlaethau Sgiliau lleol yn cael eu cynnal rhwng Chwefror ac Ebrill mewn amrediad o sectorau yn ymestyn o wyddorau fforensig a mecaneg ceir i gynllunio gwefan a chelf ewinedd.

Gallai Holly fynd ymlaen i gynrychioli Coleg y Cymoedd yn rownd y DU o Sgiliau Byd Gwasanaethau Ewinedd, gyda’r darpar nod o gynrychioli Tîm Cymru yn Sioe Sgiliau eleni yn Birmingham ym mis Tachwedd. Yna, efallai bydd yn gymwys i gystadlu am le yn y sgwad a fydd yn cynrychioli’r DU yng Nghystadleuaeth Sgiliau Byd yn Abu Dhabi yn 2017.

Dywedodd Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: 

“Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae’r talent a welir yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gwella. Mae’r digwyddiadau hyn yn annog cystadleuaeth iach ac yn fodd rhagorol o gydnabod y talent gwych sydd gennym yn ein gwlad.

“Eisoes mae dwsinau o golegau, Cynghorau Sgiliau Sector a darparwyr addysg yn y gweithle ledled Cymru yn cymryd rhan ym menter Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ac wedi gweithio’n galed i drefnu’r rowndiau cyn-derfynol a’r rowndiau terfynol ond rydyn ni’n awyddus i weld rhagor o fusnesau Cymru yn cefnogi eu cyflogai ifanc talentog a’u hannog i gystadlu.”

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog: “Mae’n golygu llawer o waith caled i gyrraedd y rownd derfynol ond mae ennill medal aur yn gyflawniad gwych. Mae’n amlwg bod yr holl gystadleuwyr yn frwd iawn ac yn benderfynol o fod y gorau yng Nghymru.

“Dymunwn bob lwc i Holly ac i bob un arall sy’n cystadlu nid yn unig yn rownd nesaf y gystadleuaeth ond hefyd yn eu darpar yrfaoedd.”

Prentisiaid Awyrofod yn hedfan i Tseina

Cafodd un deg pedwar o brentisiaid o Gymoedd De Cymru gyfle i deithio’r byd a phrofi bywyd myfyrwyr yn Tsieina.

Prentisiaid gyda British Airways ydy aelodau’r grŵp i gyd ac yn cael eu hyfforddi yng Ngholeg y Cymoedd lle maen nhw ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer eu Huwch Brentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg Awyrofod yn ogystal â’r hyfforddiant y maen nhw’n ei dderbyn yn y gweithle gyda British Airways.

Teithiodd y prentisiaid i Goleg Polytechnig Diwydiant Chongqing, taith a drefnwyd gan Goleg y Cymoedd fel rhan o raglen gyfnewid barhaus gyda’r coleg yn Tsieina.

Nod y daith wyth diwrnod oedd caniatáu i’r prentisiaid ymdoddi i fywyd coleg yn Tsieina. Yn ystod eu cyfnod yno, roedd y myfyrwyr yn byw mewn llety rhyngwladol i fyfyrwyr ar dir y coleg, gan gymryd rhan mewn dosbarthiadau, digwyddiadau diwylliannol ac ymweliadau gan gyflogwyr.

Dywedodd Max Baker, 19 oed o Gaerdydd a phrentis British Airways: “Cawson ni amser gwych! Rydyn ni mor ddiolchgar i’r rhai a drefnodd y daith ac am y profiad rydyn ni wedi’i gael. Dw i’n sicr na fyddwn ni byth yn anghofio’r wythnos hon a gobeithio gall dysgwyr eraill; gael yr un profiad yn y dyfodol.”

Ffurfiwyd y bartneriaeth rhwng y ddau goleg drwy Gonsortiwm Chongqing (Cymru) sy’n cynnwys saith coleg o Gymru gan gynnwys Coleg y Cymoedd.

Bwriad y Consortiwm ydy hyrwyddo Cymru fel lle i ddysgu. Mae’r Consortiwm AB yn cyflogi cynrhychiolydd yn Chongqing i hwyluso partneriaethau addysg rhwng Cymru a Tsieina. O ganlyniad, mae Coleg y Cymoedd wedi cael cyfle i groesawu grwpiau o fyfyrwyr o Goleg Polythechnig Diwydiant Chongqing ac wedi hyfforddi dros 170 o staff yn Tsieina.

Yn ôl Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd:“Rydyn ni’n hynod o falch i allu rhoi cyfle i’n myfyrwyr deithio a phrofi diwylliannau newydd fel rhan o’u hyfforddiant gyda Choleg y Cymoedd. Mae’n hanfodol bod colegau modern heddiw yn adeiladu partneriaeth rhyngwladol er budd dysgwyr a datblygu cyfleoedd addysgol newydd.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau mai’r cyfleoedd hyfforddiant a’r cyrsiau yr ydyn ni’n eu darparu ydy’r gorau yng Nghymru. Mae ein tiwtoriaid yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr ymrwymiad hwn yn cael ei gyflawni ac mae’n rhoi pleser i wybod bod colegau o gwmpas y byd yn awyddus i efelychu’n cyflawniadau.”

Mae Coleg y Cymoedd hefyd yn helpu colegau yn Tsieina i atgynhyrchu’r safonau hyfforddi addysgol maen nhw’n ei gynnig i’w dysgwyr yng Nghymru. Yn ddiweddar, bu’r coleg yn croesawu staff o Goleg Rheolaeth Dinas Chongqing oedd ar raglen cysgodi gwaith dros gyfnod o bedwar mis. Mae tiwtoriaid o Goleg y Cymoedd wedi teithio i Tsieina i rannu eu harbenigedd ar amrediad o bynciau gan gynnwys datblygu cwricwlwm, ac arweinyddiaeth a rheolaeth yn ogystal ag addysgu a dysgu.

Yn ol y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: “Mae rhaglenni cyfnewid ar gyfer prentisiaid yn dod â phobl ifanc ynghyd o bob cwr o’r byd i rannu syniadau a dysgu am arferion a dulliau eraill o feddwl. Mae’r prentisiaid hyn yn cael cyfle gwych i gael profiad o’r byd a magu’r hyder sydd ei angen arnyn nhw wrth baratoi am eu dyfodol.

“Mae Coleg y Cymoedd yn arwain y ffordd yn y math hwn o gyfnewid rhyngwladol ac ni all y wybodaeth a’r arbenigedd mae’r sefydliad yn ei gaffael drwy gysylltiadau o’r fath wneud dim ond lles i brofiadau dysgu pawb o’r myfyrwyr.”

Perfformwyr o Goleg y Cymoedd yn paratoi ar gyfer y ‘West End’

Mae grŵp talentog o berfformwyr o Gymoedd De Cymru yn paratoi i gyflwyno’u perfformiad o Macbeth i lwyfan y West End yn Llundain ar ôl creu argraff fawr ar sylfaenydd ‘Shakespeare for Schools Festival’ pan berfformion nhw yn lleol yn Aberdâr.

Perfformiodd dysgwyr cwrs Lefel 2 a 3 BTEC yn y Celfyddydau Perfformio o gampws Rhondda eu dehongliad o dair drama gan Shakespeare ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf ac roedd Chris Grace, sylfaenydd ‘Shakespeare for Schools’ – gŵyl ddrama ieuenctid fwyaf y DU – yno yn eu gwylio. Creoedd eu perfformiad gymaint o argraff fel y gwahoddwyd yr egin actorion i fynd â’u cynhyrchiad i’r West End i gymryd yn nathliadau 400 mlwyddiant marwolaeth Shakespeare ac i nodi’r achlysur cynhelir digwyddiadau ar draws y DU.

Bydd y dysgwyr yn perfformio detholiad o Macbeth yn Noson Gala’r West End yn Theatr Piccadilly, Nos Lun Ebrill 18fed, ar gychwyn wythnos o ddathliadau a pherfformiadau. Cafodd y perfformwyr eu canmol am broffesiynoldeb a chreadigrwydd eu perfformiad yn Theatr y Coliseum, Aberdâr; Coleg y Cymoedd fydd yr unig goleg fydd yn perfformio ar y noson. Ar ben hynny, Coleg y Cymoedd ydy’r unig goleg o Gymru a gafodd gynnig y cyfle hwn gan ‘Shakespeare for Schools’.

Dywedodd Megan Dimond, 18 oed o Dreorci, sy’m chwarae rhan Lady Macbeth: “Mae hwn yn gyfle gwych i mi fynd i’r West End i berfformio yn Theatr nodedig y Piccadilly. Mae’r cyfleoedd dw i wedi’u cael yn ystod fy amser ar y cwrs wedi bod yn anhygoel. 

“Petawn i heb ddewis cwrs BTEC yn  y Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg y Cymoedd, fyddwn i ddim wedi gallu datblygu fy ngyrfa mor gynnar yn fy addysg. Dw i’n edrych ymlaen yn awchus at ddiwrnod y perfformiad!”

Mae ‘Shakespeare for Schools’ yn cynnig cyfle i ddysgwyr ledled y DU i berfformio ystod o ddehongliadau Theatr Dawns Gorfforol o ddramau enwocaf Shakespeare ar y llwyfan. Bu Coleg y Cymoedd yn cymryd rhan mewn gweithdai tiwtoriaid a dysgwyr yn ogystal â pherfformiadau llawn, drwy Ŵyl ‘Shakespeare for Schools’ gyda’r nod o gyflwyno’u dysgwyr i lwyfan proffesiynol.

Dywedodd pennaeth Coleg y Cymoedd, Judith Evans: “Rydyn ni mor falch o’n dysgwyr ar y cwrs Celfyddydau Perfformio am iddyn nhw gael eu gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad cenedlaethol mor nodedig. Mae eu gwaith caled a’u hymrwymiad yn eu perfformiadau wedi talu ar ei ganfed ac mae’r perfformiadau hynny yn destament i’r bobl ifanc dalentog yma yn y coleg ac ar draws De Cymru.”

Gallwch wylio darn o berfformiad o’r ddrama Macbeth gan ddysgwyr Coleg y Cymoed yma: https://www.youtube.com/watch?v=x6_MVTquEKs

Egin wneuthurwraig ffilm yn ennill gwobr ar ôl chwalu rhwystrau ym maes iechyd meddwl

Mae egin wneuthurwraig ffilm wedi ennill gwobr nodedig am ffilm ddogfen sy’n ceisio dileu’r stigma sy’n perthyn i iechyd meddwl yn dilyn ei brwydr bersonol hi ei hun gyda salwch meddwl.

Gwnaeth Rebecca Feazelle, 23 oed o Gaerffili, argraff ddofn ar feirniaid Gwobrau ‘Zoom Cymru Young Film Makers’ ac ennill y Wobr am y Ffilm Ddogfen orau yn y Seremoni Wobrwyo. Enw’r ffilm ddogfen fer ydy ‘Fragile Minds’ a grewyd fel rhan o’i chwrs BTEC Lefel 3 mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol (Teledu a Ffilm) yng Ngholeg y Cymoedd. Mae’r ffilm yn olrhain ac ystyried brwydr Rebecca ei hun gyda iechyd meddwl.

Yn wreiddiol, yn rhan o aseiniad coleg, bwriad Rebecca oedd dymchwel y rhwystrau o ran salwch meddwl, gan rannu ei phrofiadau ei hun yn y ffilm. Roedd hynny’n cynnwys cyfweliad gyda chynrychiolydd o ‘Mind Cymru’ oedd yn atgynhyrchu’r cyngor roedd Rebecca ei hun wedi’i dderbyn gan yr elusen iechyd meddwl. Roedd y ffilm hefyd yn edrych ar bethau o safbwynt gwyddonol, yn ystyried y prosesau cemegol yn yr ymennydd a allai achosi pyliau o banig, cyflwr y mae Rebecca ei hun wedi dioddef ohono.

Gan sylweddoli talent Rebecca i gynhyrchu ffilm, anogwyd hi gan ei thiwtor yn y coleg, Amanda Stafford, i anfon ei ffilm i gystadlu yng Ngwobrau ‘Zoom Cymru’. Mae’r gwobrau yn cydnabod talentau gorau gwneuthurwyr ffilm ifanc Cymru sy’n rhan o Ŵyl ehangach Ffilm Ieuenctid Ryngwladol Zoom oedd eleni yn dathlu 10 mlynedd ers ei sefydlu. Mae’r ŵyl yn cynnwys cymysgedd o weithdai a dosbarthiadau meistr gan gynhyrchwyr ffilm a thiwtoriaid arbenigol sy’n trosglwyddo eu gwybodaeth i’r egin wneuthurwyr ffilm.

Ar ôl y seremoni wobrwyo ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dywedodd Rebecca: “Roedd yn brofiad rhyfeddol o’r dechrau i’r diwedd. Fy mhrif nod oedd rhoi cyfle i’r bobl hynny heb gyfle i’w llais gael ei glywed, drwyddo i, i gael dweud eu dweud ac i gysuro’r rhai sy’n dioddef yn y dirgel. Drwy gyfrwng Gwobrau Zoom Cymru mae fy ffilm wedi cael ei gweld gan gynulleidfa ehangach. Mae cymaint o bobl eisoes wedi dweud wrtha i ei bod wedi eu helpu ac mae hyn yn deimlad rhagorol.”

Cyn hyn, roedd Rebecca wedi cwblhau cyrsiau mewn trin gwallt a gofal plant ond nawr yn teimlo ei bod wedi dod o hyd i’w gwaith delfrydol diolch i gwrs Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol yng Ngholeg y Cymoedd. Aeth ymlaen i ddweud: “Roeddwn i’n anobeithiol ym maes technoleg cyn y cwrs hwn a nawr dw i’n defnyddio camerâu ac uwch feddalwedd golygu yn gyson. Mae hefyd wedi agor cymaint o gyfleoedd am brofiad gwaith a fydd, gobeithio yn fy helpu yn y dyfodol.”

Mae Gwobrau Gwneuthurwyr Ffilm Ifanc Zoom Cymru yn cydnabod talentau gwneuthurwyr ffilm ledled Cymru, yn anrhydeddu’r rhai mewn categorïau megis y Cyfarwyddwr Gorau, y Perfformiad Gorau a’r Animeiddio Gorau.

Roedd Amanda Stafford, tiwtor Rebecca yn Ngholeg y Cymoedd hefyd wrth ei bodd ar ôl y seremoni: “Rydyn ni’n hynod o falch o’r hyn mae Rebecca wedi’i gyflawni. Reodd ganddi stori i’w hadrodd ac ymrwymodd i gyflwyno’r stori honno. Roedd ei gweledigaeth yn glir o’r cychwyn cyntaf ac mae’n wych bod ei gwaith wedi cael ei gydnabod fel hyn. Mae’n ymgorffori’r math o ddysgwyr diwyd sydd gennym yma yng Ngholeg y Cymoedd.”

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau