Dysgwr Busnes Coleg y Cymoedd yn ennill 3 gradd Rhagoriaeth*

Enillodd Matthew Brown, sy’n un ar hugain oed, 3 gradd Rhagoriaeth * yn ei gwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes. Symudodd Matthew o Gaerlŷr i Gaerffili yn 2016 ac astudiodd ei gyrsiau TGAU yn Ysgol St Martins, lle enillodd 13 gradd A* -C.

Ar ôl llwyddiant ei ganlyniadau TGAU, dychwelodd Matthew i’r ysgol i astudio ei Safon Uwch ond ar ôl blwyddyn sylweddolodd nad dysgu ar gyfer arholiadau oedd y dull astudio a ffefrir ganddo. Gyda diddordeb brwd yn y sector Busnes ac uchelgais i symud ymlaen i gwrs gradd yn y brifysgol, ymwelodd Matthew â’r coleg i drafod ei opsiynau.

Roedd y staff yn hapus i’w helpu ac ar ôl peth trafodaeth, cofrestrodd ar y cwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes ar Gampws Nantgarw, gan y byddai hyn yn ei alluogi i gyflawni ei gynlluniau hirdymor.

Roedd y cwrs yn berffaith ar gyfer Matthew; darlithwyr cyfeillgar a chefnogol a oedd bob amser yn barod i helpu gyda’r gwaith, ymweliadau â busnesau lleol fel y gallai myfyrwyr siarad ag entrepreneuriaid am eu profiadau o gychwyn busnes newydd ac ymweliadau â’r coleg gan nifer o bartneriaid dylanwadol yn y diwydiant. Roedd clywed y siaradwyr yn siarad am yrfaoedd mewn busnes ac agweddau ar eu bywydau bob dydd yn ddefnyddiol i Matthew wrth iddo gwblhau aseiniadau ac yn ysbrydoliaeth iddo wrth iddo ddewis gyrfa.

Trwy amrywiol fodiwlau, rhoes y cwrs gyfle i Matthew ddefnyddio’r sgiliau newydd a gasglwyd yn y coleg; gan gynnwys rheoli amser, siarad cyhoeddus, a rheoli arian/costau.

Wrth siarad am ei gyflawniadau dywedodd Matthew, “Mae’n amlwg bod y coleg wedi atgyfnerthu fy uchelgais i ddilyn gyrfa yn y diwydiant drwy roi’r hyder imi roi cynnig ar fentrau newydd sy’n fy ngwthio. Ar ddiwedd y cwrs dwy flynedd, llwyddais i ennill tair gradd Rhagoriaeth*; sy’n dangos y gallwch chi gyflawni unrhyw beth os gwnewch ymdrech ac os ydych yn bod yn teimlo bod y cwrs yn eich ysgogi ac yn ddiddorol.

“Ar ôl cael cynnig lle mewn pum prifysgol, rydw i wedi dewis mynd i Brifysgol De Cymru i astudio BA (Anrh) Busnes a Rheolaeth; bydd y cwrs tair/pedair blynedd yn caniatáu imi astudio ar gyfer gradd Meistr ar ôl ei gwblhau. Ar ôl gadael y brifysgol, hoffwn naill ai gychwyn fy musnes fy hun neu gael swydd reoli mewn sefydliad sy’n bodoli eisoes.

Byddwn yn argymell Coleg y Cymoedd yn fawr i unrhyw un sydd am fynd i’r Brifysgol, gweithio’n llawn amser, cychwyn prentisiaeth, gwella eu portffolio addysg neu hyd yn oed cychwyn busnes. Mae’r cwrs ei hun wedi rhoi cymaint o sgiliau bywyd imi y gallaf eu datblygu yn y brifysgol a’u defnyddio bob dydd. Rydw i wedi mwynhau pob agwedd ar fywyd coleg yn fawr, o astudio i gwrdd â ffrindiau da ”.

Wrth longyfarch Matthew, dywedodd Tiwtor y Cwrs Yvonne Morris “Dangosodd Matthew aeddfedrwydd yn ei astudiaethau o ddechrau’r cwrs. Roedd ei ysfa a’i agwedd benderfynol i gyflawni’r radd uchaf bosibl yn amlwg drwy gydol dwy flynedd y rhaglen ac roedd safon y gwaith a gynhyrchodd Matthew yn eithriadol. Mae’n llawn haeddu’r graddau D * D * D *.

Gwobr i ddyn aeth ati i ddysgu er mwyn goresgyn iselder a gorbryder

Mae gŵr 37 oed wnaeth oresgyn pryder, iselder a defnyddio cyffuriau drwy ddysgu wedi ennill gwobr o fri.

Oherwydd teimladau o iselder a gorbryder, roedd Jamie Evans yn dueddol o ynysu ei hun oddi wrth eraill, cymaint nes byddai wythnosau’n mynd heibio heb unrhyw gyswllt dynol. Byddai’n defnyddio cyffuriau presgripsiwn i leddfu’r boen.

Bellach, mae ar frig ei ddosbarth ac yn cynllunio ei gamau nesaf yn y brifysgol, ar ôl canfod bod dysgu wedi ei helpu i ymdopi â’i heriau iechyd meddwl.

Enillodd gategori ‘Iechyd a Llesiant’ yng ngwobrau Ysbrydoli! eleni, yn gydnabyddiaeth o’i lwyddiant a’i ymroddiad i ddysgu er gwaethaf popeth.

Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn cael eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, ac yn gwobrwyo’r rhai sydd wedi dangos grym dysgu, magu hyder a datblygu cymunedau bywiog a llwyddiannus.

Mae Jamie yn un o 12 enillydd sy’n ymddangos fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion, wythnos llawn sesiynau blasu a dosbarthiadau meistr sydd â’r nod o ysbrydoli eraill i ddilyn ôl eu traed, ac sy’n cael eu cynnal ar-lein eleni o  21-27 Medi.

Dywedodd: “Dechreuais ddioddef gorbryder yn fy arddegau. Roedd gen i broblemau iechyd a oedd yn effeithio arna i bob dydd, a olygai fy mod yn colli’r ysgol, a dyna lle dechreuodd y cyfan.

“Datblygais orbryder andwyol ac yn y pen draw fe wnes i roi’r gorau i fwyta fel ffordd o ateb y broblem. Oherwydd hynny, collais chwe stôn mewn llai na blwyddyn, ond dim ond gwaethygu pethau wnaeth hyn.

Cafodd Jamie ddiagnosis o glefyd Crohn, a daeth ei orbryder yn rhwystr enfawr, gan ei atal rhag gweithio, cymdeithasu a gweld unrhyw un y tu allan i’w gartref.

“Ar fy ngwaethaf, fyddwn i ddim yn codi o’r gwely, ddim yn ’molchi na bwyta. Fyddwn i ddim yn ateb fy ffôn pan oedd fy nheulu’n ffonio a byddwn yn gwneud esgusodion pan fyddai ffrindiau yn fy ngwahodd i allan, felly roion nhw’r gorau iddi yn y diwedd. Doedd gen i ddim i edrych ymlaen ato, ac roeddwn i wedi colli pob awch at fywyd. Roeddwn i wedi bod yn ddi-waith ers 10 mlynedd oherwydd fy ngorbryder, fy iselder a phroblemau iechyd, a doedd gen i ddim ddyheadau na chynlluniau at y dyfodol – dim ond goroesi o ddydd i ddydd oeddwn i. Roeddwn i’n ddigalon iawn.

“Cefais boenladdwyr ar bresgripsiwn, ond dechreuais ddibynnu mwy a mwy arnyn nhw, a’u cymryd nhw’n amlach gan ‘mod i’n teimlo mor anhapus.  Yn y pen draw, pan nad oedden nhw’n ddigon, troais at gyffuriau cryfach ac aeth fy mhroblemau o ddrwg i waeth. Fe wnaeth fy ngweithiwr cymorth camddefnyddio sylweddau neilltuo mentor cymheiriaid i mi.”

Yno, cafodd daflen am gwrs Seicoleg 12 wythnos gydag Addysg Oedolion Cymru, a oedd yn cael ei gynnal mewn partneriaeth ag elusen iechyd meddwl New Horizons. Roedd y cwrs ar fin dechrau, ac aeth ati i gofrestru.

“Ar y diwrnod cyntaf, sefais y tu allan i’r dosbarth am tua 20 munud yn edrych ar y drws, yn arswydo cyn mynd i mewn. Roeddwn i’n swp sâl yn poeni, a bu bron i mi fynd adref. Ond cliciodd rhywbeth y tu mewn imi, a gorfodais fy hun i fynd i’r dosbarth.

“Roedd fy nosbarth cyntaf yn anhygoel. Roeddwn i’n teimlo gartrefol ar unwaith, ac yn edrych ymlaen at y dosbarth nesaf – roeddwn i’n ysu i ddysgu mwy. Allwn i ddim cofio’r tro diwetha’ i mi gael rhywbeth i anelu ato, ac roedd gen i gymhelliant i roi trefn ar fy mywyd.”

Pan oedd y cwrs yn dod i ben, doedd Jamie ddim yn teimlo’n barod i roi’r gorau iddi ac fe gofrestrodd ar ddosbarth Troseddeg gyda’r un tiwtor, er bod angen teithio 40 munud i’r cwrs – rhywbeth nad oedd wedi’i drechu o’r blaen. Ymhen ychydig wythnosau, roedd ar drydydd cwrs magu hyder, y bu’n dilyn tri chwrs yr wythnos, cyn cofrestru yn y pen draw i wneud cwrs Mynediad yn y dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol yng Ngholeg y Cymoedd.

“Fe wnes i gwrdd â chymaint o bobl newydd a dechreuodd fy ngorbryder ddiflannu’n raddol. Roeddwn i’n mwynhau fy hun ac roedd gen i deimlad cadarnhaol braf y tu mewn i mi. Roedd gen i bwrpas mewn bywyd.”

Ond ym mis Tachwedd 2018, yn gynnar yn ei gwrs, bu Jamie mewn damwain car. Cafodd anafiadau corfforol a waethygodd symptomau’r clefyd Crohn a daeth ei deimladau gorbryderus yn ôl.

Cwblhaodd y cwrs, gan ddod ar frig y dosbarth, ac er bod ei diwtor am iddo wneud cais i fynd i’r brifysgol, penderfynodd gymryd blwyddyn i ffwrdd i wella.

 “Roeddwn i’n arfer ofni’r anhysbys, ond bellach yn y dosbarth, rwy’n cwrdd â phobl newydd ac yn gwybod bod pawb yn mynd drwy eu pethau eu hunain ac yn delio â phroblemau eu hunain, a does neb yn fy marnu. Doedd dim byd yn fy mhoeni mewn gwirionedd yn yr ystafell ddosbarth, a dw i’n edrych ymlaen at ddychwelyd i wneud rhywbeth sy’n rhoi cymaint o bleser i mi.

Nawr mae Jamie yn gobeithio y bydd ei stori yn ysbrydoli eraill i gredu bod golau ym mhen draw’r twnnel.

“Dw i wedi elwa cymaint ar ddysgu, y tu hwnt i bob disgwyl.  Nid dim ond gwybodaeth am bwnc o’r dosbarthiadau, ond sgiliau gwerthfawr, hunan-gred, gwydnwch, cyfeillgarwch ac iechyd meddwl gwell”.

Mae Wythnos Addysg Oedolion yn dathlu dysgu gydol oes, boed hynny mewn sefydliadau addysgol, ym myd gwaith, yn y cartref neu fel gweithgaredd hamdden. Bydd yr wythnos yn llawn sesiynau blasu a hanesion am lwyddiant i ddangos pam y gall dysgu sgil newydd newid eich stori.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams: “Hyd yn oed heb seremoni mae mor bwysig ein bod yn dathlu enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! sydd wedi dangos dycnwch eithriadol. 

“Mae Jamie yn enghraifft wych o sut mae dysgu gydol oes wedi newid ei fywyd, yn broffesiynol ac yn bersonol. Mae’r ffaith bod pobl o bob oed yn ennill cymwysterau yn ein helpu ni i adeiladu gweithlu sydd â’r sgiliau cywir ar gyfer y normal newydd, ond mae hefyd yn ysbrydoli pobl i barhau i ddysgu ac archwilio cyfeiriadau gwahanol, gan gadw eu meddyliau a’u cyrff yn iach hefyd.”

Dywedodd David Hagendyk, Cyfarwyddwr Cymru yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith: ““Ni fu erioed amser gwell nac amser pwysicach i ddechrau dysgu ac mae enillwyr ein Gwobrau Ysbrydoli! yn dangos yn union beth sy’n bosibl. P’un a ydych chi eisiau dysgu sgiliau i’ch helpu i ddod o hyd i swydd newydd, gwella eich iechyd, neu ddysgu am rywbeth sydd wedi mynd â’ch bryd erioed, nawr yw’r amser i godi’r ffôn neu fynd ar-lein i gael y cymorth sydd ei angen arnoch i ddechrau eich taith. 

“Yn ystod y cyfnod clo, dechreuodd miloedd o oedolion ledled Cymru newid eu stori drwy ddysgu rhywbeth newydd. Rydyn ni’n gobeithio y bydd straeon anhygoel pob un o enillwyr y gwobrau yn ysbrydoli miloedd yn fwy i gymryd y cam cyntaf hwnnw yn ôl i addysg oedolion.” 

Gofalwraig ugain oed yn ennill gwobr dysgu genedlaethol am helpu pobl ifanc yn eu harddegau gyda’u hiechyd meddwl

https://www.youtube.com/watch?v=mWUxLwdloxI

Mae gofalwraig ifanc a sefydlodd glwb lle gall pobl ifanc siarad am eu hiechyd meddwl wedi ennill gwobr bwysig am ddysgu.

Mae Alisha Morgan, sy’n 20 oed ac yn dod o Benrhys, yn ofalwraig llawn amser i’w mam Heidi, sydd â bron i 20 cyflwr meddygol gwahanol gan gynnwys dementia cynnar.

Yn 17 oed, roedd Alisha yn dioddef gyda’i hiechyd meddwl ac oherwydd hynny ac am ei bod hi’n gofalu am ei mam, roedd hi’n teimlo nad oedd ganddi ddewis ond gadael ei chwrs coleg. Roedd bywyd yn anodd ac roedd yn anodd cael y cydbwysedd iawn rhwng popeth, ac ar ôl i ffrind i’r teulu ladd ei hun, dechreuodd Alisha deimlo’n isel.

Cofrestrodd ar gwrs hyfforddi cymorth cyntaf iechyd meddwl, a helpodd hyn hi i ddod o hyd i fecanweithiau ymdopi ar gyfer yr hyn yr oedd yn mynd drwyddo. Wrth ddilyn y cwrs hwnnw, llwyddodd i ddod o hyd i’r cymorth i fynd yn ôl i’r coleg, ar ôl cael ei hysbrydoli gan y gofal y mae hi a’i brawd a’i chwaer Ryan a Nicole, yn ei roi i’w mam.

Mae Alisha bellach wedi ennill Gwobr Ysbrydoli! ‘Oedolyn Ifanc’, sy’n gydnabyddiaeth o’i llwyddiant wrth iddi drawsnewid ei bywyd drwy ddysgu.

Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn cael eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, ac yn gwobrwyo’r rhai sydd wedi dangos grym dysgu, magu hyder a datblygu cymunedau bywiog a llwyddiannus.

Fel tîm, maen nhw’n gofalu am ei mam bob dydd, ac yn gwneud popeth o reoli ei meddyginiaeth, coginio ei phrydau bwyd i olchi.

Meddai Alisha: “Roedd gen i lawer o brofiad o ofalu am rywun sy’n sâl iawn, felly fe feddyliais i y gallwn i ddilyn gyrfa mewn gofal iechyd. Roedd gen i ddiddordeb mawr yn yr holl ddamcaniaeth a gwyddoniaeth sy’n rhan ohono. Pan wyt ti’n gofalu am dy fam dwyt ti ddim yn meddwl am y tasgau rwyt ti’n eu gwneud drwy’r dydd, rwyt ti’n eu gwneud nhw heb feddwl.”

Roedd hi’n benderfynol o ddilyn gyrfa lwyddiannus, ac mae hi bellach yn gweithio tuag at ei Diploma Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg y Cymoedd ac yn gobeithio bod yn nyrs iechyd meddwl i blant.

Meddai: “Mae’r coleg mor gefnogol. Mae popeth yn parhau i fod yn dipyn o her ac ambell ddiwrnod dwi’n eistedd yn y dosbarth gan wybod fy mod i’n mynd i gael galwad ffôn i ddweud bod mam wedi gwaethygu, neu’n meddwl am y meddyginiaethau sydd angen i mi eu trefnu. Ond maen nhw’n hyblyg iawn ac yn deall sut mae pethe gartref.”

Yn ogystal â gofalu am ei mam a mynd i’r coleg yn llawn amser, mae Alisha wedi sefydlu Clwb Ieuenctid Glynrhedynog ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys y rhai sydd wedi colli anwyliaid i hunanladdiad.

Meddai: “Ar fy ngwaethaf, yn syth ar ôl i’n ffrind teulu ladd ei hun, roeddwn i’n gofalu am fy mam ac yn ceisio dal ati gyda’m gwaith coleg. Roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy o isel. Roedd pob diwrnod yn frwydr. Roeddwn i’n gofalu am fy mam, ac yna’n rhuthro’n syth i’r coleg. Doeddwn i byth yn mynd allan a doedd gen i ddim bywyd cymdeithasol gwerth sôn amdano. Doedd dim llawer o gyfle i mi siarad gydag unrhyw un am yr hyn roeddwn i’n mynd drwyddo.”

Mae’r clwb ieuenctid ar gael i bobl ifanc 11 i 25 oed – maen nhw’n dewis pwnc ar gyfer pob sesiwn ac mae’r aelodau’n siarad am bopeth – o iselder, gorbryder a galar, i Love Island a siopa.

Meddai: “Dwi wedi dioddef gydag iechyd meddwl gwael fy hun, felly weithiau mae’n anodd i mi siarad am bethau fel galar ond mae hefyd yn fy helpu i sylwi ar arwyddion. Rydyn ni’n siarad fel grŵp neu weithiau’n cael sgwrs bersonol gyda rhywun. Mae’n braf gwybod nad fi yw’r unig un a bod pobl eraill yn cael profiadau tebyg i fi.

“Mae trefnu’r clwb ieuenctid yn dipyn o ymrwymiad, ond mae hefyd yn rhoi rhywfaint o amser a lle i mi ar fy mhen fy hun i sgwrsio â gofalwyr eraill neu bobl sy’n ceisio ymdopi â galar. Dwi wedi gwneud cymaint o ffrindiau newydd dwi’n gallu sgwrsio â nhw neu gysylltu â nhw ar y cyfryngau cymdeithasol. Yr unig beth dwi’n gyfarwydd ag ef mewn bywyd yw bod yn ofalwr ifanc. Mae’n anodd weithiau, ond mae’n rhaid dal ati.”

Mae Alisha bellach yn ôl ar y trywydd iawn i gwblhau ei diploma, ar ôl i’w lleoliad diwethaf gael ei oedi oherwydd cyfnod clo COVID-19.

Meddai: “Dwi am fod yn nyrs bediatrig sy’n arbenigo ym maes iechyd meddwl. Fe fydda i’n parhau i ddal ati er mwyn gwneud fy mam yn falch.”

Mae Alisha yn un o 12 enillydd sy’n ymddangos fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion,  wythnos llawn sesiynau blasu a dosbarthiadau meistr sydd â’r nod o ysbrydoli eraill i ddilyn ôl eu traed, ac sy’n cael ei chynnal ar-lein eleni o 21-27 Medi.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: “Hyd yn oed heb seremoni mae mor bwysig ein bod yn dathlu enillwyr y Gwobrau Ysbrydoli! sydd wedi dangos dycnwch eithriadol.  

“Mae Alisha yn enghraifft wych o sut mae dysgu gydol oes wedi trawsnewid ei bywyd, yn broffesiynol ac yn bersonol. Mae’r ffaith bod pobl o bob oed yn ennill cymwysterau yn ein helpu ni i adeiladu gweithlu sydd â’r sgiliau cywir ar gyfer y normal newydd, ond mae hefyd yn ysbrydoli pobl i barhau i ddysgu ac archwilio cyfeiriadau gwahanol, gan gadw eu meddyliau a’u cyrff yn iach hefyd.”

Dywedodd David Hagendyk, Cyfarwyddwr Cymru yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith: “’Ni fu erioed amser gwell nac amser pwysicach i ddechrau dysgu ac mae enillwyr ein Gwobrau Ysbrydoli! yn dangos yn union beth sy’n bosibl. P’un a ydych chi eisiau dysgu sgiliau i’ch helpu i ddod o hyd i swydd newydd, gwella eich iechyd, neu ddysgu am rywbeth sydd wedi mynd â’ch bryd erioed, nawr yw’r amser i godi’r ffôn neu fynd ar-lein i gael y cymorth sydd ei angen arnoch i ddechrau eich taith.

“Yn ystod y cyfnod clo, dechreuodd miloedd o oedolion ledled Cymru newid eu stori drwy ddysgu rhywbeth newydd. Rydyn ni’n gobeithio y bydd straeon anhygoel pob un o enillwyr y gwobrau yn ysbrydoli miloedd yn fwy i gymryd y cam cyntaf hwnnw yn ôl i addysg oedolion.”

Dysgwr Busnes yn dilyn gyrfa yn y sector Iechyd a Diogelwch

Gadawodd dysgwr 18 oed Coleg y Cymoedd, Millie Easley, yr ysgol â’i bryd ar ddilyn gyrfa yn y diwydiant Busnes. Fodd bynnag, yn 16 oed roedd hi’n ansicr o ba lwybr penodol yr oedd am ei ddilyn yn y diwydiant.

Mynychodd Millie ddiwrnod agored yng Ngholeg y Cymoedd ac nid yw erioed wedi edrych yn ôl. Gan ei bod yn byw yng Nghaerffili, roedd yn hawdd cyrraedd campws Nantgarw ac roedd yn edrych ymlaen yn eiddgar at fwynhau awyrgylch astudio yn y coleg.

Cofrestrodd ar Ddiploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Busnes a roes iddi ddealltwriaeth fanwl o weithrediadau a strwythurau busnesau. Trwy gydol y cwrs, mwynhaodd Millie ddysgu am feysydd fel Archwilio Busnes, Egwyddorion Rheoli a threuliodd bythefnos o brofiad gwaith yn Toscana, yr Eidal fel rhan o brosiect Erasmus.

Roedd y lleoliad gwaith yn sicr wedi rhoi hwb i hyder a hunan-barch Millie. Mwynhaodd weithio fel rhan o dîm a sylweddolodd bwysigrwydd sgiliau cyfathrebu rhagorol a datrys problemau i oresgyn heriau gweithio mewn gwlad dramor.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, cafodd Millie raddau rhagorol ac roedd wedi datblygu’r sgiliau i’w galluogi i ddilyn gyrfa yn y diwydiant Iechyd a Diogelwch. Cofrestrodd ar y cymhwyster NEBOSH; cwrs Iechyd a Diogelwch uwch a fydd yn ei rhoi mewn sefyllfa gref i ymgeisio am gyflogaeth a sicrhau cyflogaeth yn y sector.

Wrth siarad am ei thaith ddysgu dywedodd Millie “Penderfynu mynd i’r coleg oedd y penderfyniad gorau imi ei wneud. Bellach, mae gennyf lawer o ffrindiau arbennig, atgofion gwych a chymhwyster anrhydeddus. Mae’r cwrs wedi dangos imi amrywiaeth o feysydd yn y diwydiant busnes na fyddwn wedi eu hystyried fel gyrfa, cyn dechrau’r cwrs.

Trwy gydol fy amser yn y coleg, rwyf yn bendant wedi datblygu’n berson mwy hyderus ac annibynnol. Byddwn yn argymell y cwrs a’r coleg yn fawr. Mae’n lle gwych i astudio – mae’r staff mor barod i helpu.

Rwy’n edrych ymlaen at ddilyn gyrfa yn y diwydiant Iechyd a Diogelwch ac ni allaf ddiolch ddigon i staff Coleg y Cymoedd am eu hanogaeth a’u cefnogaeth drwy gydol y cwrs ”.

Ychwanegodd Tiwtor y Cwrs, Yvonne Morris, Datblygodd Millie agwedd aeddfed tuag at ei hastudiaethau yn ystod y cwrs a gweithiodd yn hynod o galed eleni i gyflawni ei graddau. Mae ganddi bersonoliaeth afieithus, bob amser yn awyddus i fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynwyd iddi a chwblhaodd cyfnod o brofiad gwaith yn yr Eidal yn llwyddiannus. Bydd ei hagwedd gadarnhaol yn bendant o fantais iddi yn y dyfodol.”

Marciau uchel i ddysgwr Busnes Coleg y Cymoedd

Pan adawodd Megan Evans, sy’n 19 oed, yr ysgol roedd hi’n awyddus i ddilyn cwrs Busnes, gan ei bod wedi magu diddordeb yn y pwnc yn yr ysgol ac yn gobeithio dilyn gyrfa yn y maes hwnnw.

Roedd Megan wedi clywed pethau gwych am astudio yng Ngholeg y Cymoedd gan ffrindiau a oedd wedi astudio yno a mynychodd ddigwyddiad agored. Roedd campws Ystrad Mynach yn lleoliad delfrydol, yn agos at ei chartref yng Nghaerffili ac yn hawdd ei gyrraedd.

Wrth gyrraedd y coleg, roedd yr awyrgylch wedi creu argraff ar Megan; roedd pawb yn gyfeillgar ac yn hynod gymwynasgar. Cofrestrodd ar y Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes gan y byddai’r cwrs yn rhoi blas iddi ar wahanol agweddau ar Fusnes.

Mwynhaodd Megan fanteision astudio yn y coleg – yr ymdeimlad o ryddid a bod yn gyfrifol am ei hastudiaethau ei hun, ond gyda chyngor a chefnogaeth tiwtoriaid, os oedd angen. Roedd yr anogaeth a’r arweiniad a gafodd gan y tiwtoriaid a’r cyfoedion yn help enfawr gyda’i haseiniadau ac roedd hi bob amser yn hapus gyda’r canlyniadau – “rydych chi’n cael yn ôl yr hyn a rowch yn eich gwaith”.

Wrth dderbyn ei chanlyniadau dywedodd Megan “Roeddwn wrth fy modd gyda fy nghanlyniadau D * D * D, – byddwn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un! Roedd pob diwrnod yn her wahanol gydag ystod o waith ymarferol ac ysgrifenedig, ond mae’r cwrs wedi fy mharatoi ar gyfer gwaith llawn amser. Rydw i wedi ennill sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn fy ngwneud yn fwy cyflogadwy.

Hefyd, mae’r cwrs wedi helpu gyda fy natblygiad personol, gan roi’r hyder imi gyflwyno o flaen pobl a’r gred ynof fy hun y gallaf lwyddo wrth chwilio am yrfa fy mreuddwydion ”.

Wrth longyfarch Megan, dywedodd y Tiwtor Cwrs, Yvonne Morris “Mae Megan yn ddysgwr hynod o weithgar a deallus, sydd wedi creu argraff ar ei thiwtoriaid gyda’i hagwedd benderfynol, ei moeseg waith a’i hagwedd wylaidd tuag at ei llwyddiant. Mae ansawdd a safon y gwaith a gynhyrchir gan Megan yn ganmoladwy ac mae’n haeddiannol iawn o’r radd D * D * D a gyflawnwyd. Dymunwn pob llwyddiant iddi yn y dyfodol

Dysgwr y Cymoedd yn ennill Gwobr ‘Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru’

Mae dysgwr Coleg y Cymoedd o ‘Ddosbarth Safon Uwch 2020’ wedi derbyn Gwobr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru i gydnabod ei llwyddiant academaidd rhagorol.

Roedd y coleg yn falch iawn o groesawu Mr Geoff Hughes, Cynfeistr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru a’r lifreiwr, Miss Margaret Davies, i gampws Nantgarw i gyflwyno’r Wobr a siec o £250 i Jodie Neville.

Mae Jodie yn 18 ac yn dod o Dreharris. Astudiodd yng Nghanolfan Safon Uwch y coleg gan ennill pedair gradd A * yn y Gyfraith, Cymdeithaseg, Mathemateg a Hanes a bydd yn mynd i Neuadd St. Edmund, Rhydychen yn ddiweddarach y mis hwn. Syrthiodd y dysgwr dawnus mewn cariad â’r brifysgol fawreddog ar ôl cymryd rhan yn ei rhaglen ysgol haf breswyl y llynedd ac mae’n gobeithio dod yn fargyfreithiwr troseddol,.

Wrth gyflwyno’r Wobr, llongyfarchodd Mr Geoff Hughes Jodie ar ei chanlyniadau Safon Uwch ac ar sicrhau lle yn Rhydychen. Esboniodd mai un o brif nodau Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yw hyrwyddo addysg yng Nghymru a bod y Gwobrau Ysgolion yn rhoi cyfle i gydnabod dysgwyr sydd wedi cael canlyniadau rhagorol.

Wrth siarad ar ôl y cyflwyniad dywedodd Jodie, “Rydw i’n falch o dderbyn y Wobr hon i gydnabod fy nghanlyniadau Safon Uwch. Roeddwn mor hapus fy mod wedi cyflawni’r graddau yr oeddwn eu hangen i sicrhau fy lle yn y brifysgol ac mae’n rhaid imi ddiolch i’r holl diwtoriaid yn y coleg am eu cefnogaeth. Rydw i wedi bod eisiau mynd i Rydychen erioed; mae’n un o brifysgolion gorau’r byd ac rydw i’n llawn cyffro wrth feddwl am ddechrau fy nghwrs ym mis Hydref ”.

Wrth sôn am gyflawniadau Jodie a’r Wobr, dywedodd Karen Phillips, Pennaeth y coleg, “Rydym ni mor falch o Jodie. Bu’n flwyddyn wahanol iawn i’n dysgwyr, a gwn ei bod wedi gweithio mor galed i gyflawni’r graddau sy’n ofynnol gan Rydychen. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddi yn y dyfodol ac rwy’n siŵr, o ystyried ei hymrwymiad, y bydd yn cyflawni ei huchelgais o fod yn fargyfreithiwr troseddol. Gobeithio y bydd Jodie yn cadw mewn cysylltiad â’r coleg i ysbrydoli dysgwyr y dyfodol. Hoffwn ddiolch i Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru; rydym yn ddiolchgar am eu cefnogaeth barhaus i ddysgwyr Coleg y Cymoedd ac rwy’n siŵr y byddent yn cytuno – mae Jodie yn dderbynnydd teilwng Gwobr 2020 ”.

Gofalwr Ifanc yn ennill cymhwyster i wireddu ei huchelgais

Mae Chelsea Algate o Ddinas, y Rhondda wedi dyheu am yrfa ym maes gofal plant ers oedd hi’n ifanc iawn ac ar ôl gadael yr ysgol penderfynodd gofrestru yn y coleg. Mynychodd ddiwrnod agored ar gampws y Rhondda Coleg y Cymoedd, ac roedd wrth ei bodd gyda’r gefnogaeth a gynigiwyd iddi, fel dysgwr a gofalwr ifanc i’w mam.

Cofrestrodd Chelsea ar y cwrs Gofal Plant Lefel 1 ac nid yw wedi edrych yn ôl. Roedd y cwrs yn hynod ddiddorol, yn cynnig cefndir i agwedd ymarferol y cwrs gofal plant, gan gynnwys pynciau fel twf a datblygiad.

O’r diwrnod cyntaf yng Ngholeg y Cymoedd, roedd Chelsea yn teimlo bod croeso iddi gan y tiwtoriaid a’i chyd-ddysgwyr a gwnaeth lawer o ffrindiau newydd, a’i helpodd i ymgynefino’n gyflym ar y cwrs. Drwy gydol y cwrs, cafodd anogaeth y tiwtoriaid i gyrraedd ei llawn botensial, wrth fagu hyder yn ei gwaith academaidd ac wrth geisio cyngor a chefnogaeth pan oedd eu hangen arni.

Wrth siarad am ei thair blynedd yng Ngholeg y Cymoedd, dywedodd Chelsea sydd bellach yn 19 oed ”Mae astudio yng Ngholeg y Cymoedd wedi cael effaith gadarnhaol ar fy mywyd gan ei fod wedi fy ngwneud yn berson mwy hyderus. Rydw i wedi mwynhau astudio, y lleoliadau gwaith a gwneud ffrindiau da – ffrindiau oes.

Mae gofalu am fy mam a chwblhau fy aseiniadau wedi bod yn heriol ar brydiau, ond gyda chefnogaeth a dealltwriaeth pawb yn y coleg llwyddais i gwblhau cyrsiau Gofal Plant Lefel 1, 2 a 3, gan ennill llawer o gymwysterau a thystysgrifau.

Ar hyn o bryd rydw i’n mwynhau fy swydd, yn gofalu am bobl mewn oed ac yn y dyfodol, gyda fy nghymwysterau Gofal Plant; rwy’n gobeithio cyflawni fy uchelgais o weithio gyda phlant.

Byddwn yn bendant yn argymell Coleg y Cymoedd a’r cyrsiau Gofal Plant. Pan gofrestrais yn y coleg dair blynedd yn ôl, nid oeddwn yn meddwl y byddwn yn cyflawni’r cymhwyster Lefel 3 – ond ni wyddoch chi beth y gallwch ei wneud nes ichi roi cynnig arni, ac rydw i mor falch fy mod wedi gwneud hynny!!

Wrth longyfarch Chelsea, dywedodd Laura Wilson, Hyrwyddwr Gofalwyr Cymoedd “Mae’r coleg yn cefnogi Gofalwyr Ifanc sydd â chyfrifoldebau gofalu a all effeithio ar eu dysgu. Rwy’n falch iawn o weld Chelsea yn cyflawni ei chymhwyster Gofal Plant Lefel 3 ac yn cael gwaith. Ar ran y coleg rydym yn dymuno pob llwyddiant iddi.”

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau