Mae’r byd i gyd yn llwyfan i ddylunydd celfi ifanc o’r Coed Duon

Mae entrepreneur ifanc, creadigol o Gymru wedi sefydlu’i busnes rhyngwladol ei hunan yn gwerthu copïau o gelfi a dillad cymeriadau ffilm – ac mae’n gwneud y cyfan â llaw mewn gweithdy yn ei gardd yn y Coed Duon.
Mae Charlotte Williams, sefydlydd Khepri Props, yn 21 oed ac yn fyfyrwraig addysg uwch yng Ngholeg y Cymoedd. Mae’n defnyddio’i dawn artistig i greu copïau o gelfi a dillad o ffilmiau eiconig gyda’i phortffolio’n amrywio o siwtiau cyfan o arfwisg, helmedau Iron Man, menig dur Batman a hyd yn oed olwyn glofa 8 troedfedd wedi’i dylunio ar gyfer cynhyrchiad yn Theatr Fach y Coed Duon. Mae’n un o ffyddloniaid Ffilm a Comic Con yng Nghaerdydd, yn aml yn gwisgo ei chreadigaethau er mwyn dangos i ddarpar gwsmeriaid beth mae hi’n gallu ei wneud.
Ar ôl cyfnod yn gweithio gyda gwisgoedd yn BBC Wales, ble darganfu ei hangerdd, creadigaeth gyntaf Charlotte oedd pâr o esgidiau uchel y gofod a phenderfynodd ei gosod ar farchnad ar lein Etsy, heb freuddwydio y byddai’n creu cymaint o ddiddordeb. Dyna pryd y penderfynodd Charlotte droi ei hobi’n fenter fusnes o ddifrif a, dros y pedair blynedd diwethaf, mae’r archebion am ei chrefftwaith wedi cynyddu bedair gwaith, llawer o’i busnes yn dod o’r Unol Daleithiau.
Mae Charlotte wedi derbyn cefnogaeth i sefydlu’i busnes oddi wrth Syniadau Mawr Cymru, gwasanaeth ar gyfer entrepreneuriaid ifanc rhwng 5 a 25 oed, sy’n rhan o Wasanaeth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru ac yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Cafodd Charlotte ei chyfeirio at y gwasanaeth gan ei thiwtor yng Ngholeg y Cymoedd, ble mae’n astudio am BA mewn Theledu a Ffilm. Ers hynny mae wedi cael cefnogaeth ariannol a’i mentora gan Lesley Cottrell, Hyrwyddwr Entrepreneuriaeth y coleg.
Mae Charlotte yn cyfarfod yn rheolaidd gyda Lesley sydd, ynghyd â gweddill y tîm Syniadau Mawr Cymru, yn gallu cynnig cyngor busnes iddi a hwb i ddatblygu’i busnes ymhellach.
Wrth sôn am ei gwaith, meddai Charlotte: “Rwyf wastad wedi bod yn berson creadigol a chefais fy nerbyn ar gwrs Addysg Uwch ar sail fy mhortffolio. Rwyf wrth fy modd yn gwneud celfi llwyfan ac rwy’n eithriadol o falch o fod wedi sefydlu busnes tra’n astudio yn y coleg.
“Ers i mi ddod i gysylltiad â Syniadau Mawr Cymru a’r system gefnogi maen nhw’n ei chynnig, rwyf wedi gallu dilyn fy uchelgais creadigol ac wedi derbyn cefnogaeth i sefydlu busnes allan o rywbeth rwy’n ei garu.
“Rhoddodd y gwasanaeth entrepreneuriaeth yng Ngholeg y Cymoedd gyngor i mi ar sut i ymgeisio am grant bach a oedd yn golygu y gallwn brynu offer arbenigol. O ganlyniad, enillais gontract i wneud nifer o fenig dur mawr, felly, yn bendant, mae darganfod y gwasanaeth wedi arwain at fanteision anhygoel i mi.
Meddai Lesley Cottrell, Hyrwyddwr Entrepreneuriaeth yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae Charlotte yn enghraifft ffantastig o fyfyrwraig sy’n cyfuno’i meddwl entrepreneuraidd gyda’i hastudiaethau i ddechrau ei busnes ei hunan. Mae’i hymroddiad i’w busnes yn hynod drawiadol ac rydym i gyd wedi cyffroi wrth weld y busnes yn esblygu ac yn tyfu”.
Wrth i Charlotte gyrraedd tymor olaf ei gradd, mae’n cydbwyso’i busnes gyda’i astudiaethau, ar ben gweithio’n rhan amser mewn siop leol. Mae Charlotte hefyd wedi penderfynu mynd ymlaen i astudio am Dystysgrif Ôl-radd mewn Addyg er mwyn gallu dysgu sgiliau’r celfyddydau creadigol i bobl ifanc, tra’n dal i ehangu’i busnes.
Mae Charlotte yn uchelgeisiol ar gyfer Khepri Props. Mae’n bwriadu cyflogi aelod ychwanegol o staff yn y dyfodol agos sy’n golygu y bydd yn gallu derbyn rhagor o waith a hefyd brosiectau dylunio hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol.
Meddai Charlotte ymhellach: “Roedd fy rhieni, ers pan oeddwn i’n ifanc iawn, wedi fy annog i ddysgu sgiliau megis coginio, gwaith coed neu waith metel. Erbyn hyn, rwy’n medi ffrwyth yr anogaeth drwy droi’r sgiliau hynny’n fenter busnes hyfyw.
“Yn ogystal â datblygu fy musnes, fe hoffwn i hefyd gael cyfle i ddysgu ac annog pobl ifanc gyda doniau creadigol i ddilyn eu hangerdd, tra ar yr un pryd, gael gwared ar y stigma fod y celfyddydau creadigol yn llai o werth na gyrfaoedd mwy academaidd.
Ac meddai tîm Sector y Diwydiannau Creadigol Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ac hyrwyddo talent, criw a gwasanaethau creadigol Cymru er budd busnesau rhyngwladol a chenedlaethol. Mae Syniadau Mawr Cymru wedi helpu i ddatblygu a hyrwyddo talent greadigol Charlotte ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi Charlotte wrth iddi ddatblygu ei busnes yng Nghymru.”

Coleg y Cymoedd yn cynnal Dathliadau Blynyddol Learning Curve

Roedd llawer o gyffro wrth i fwy nag wyth deg o ddysgwyr o bob rhan o Rondda Cynon Taf ymgasglu yng nghampws Nantgarw Coleg y Cymoedd.

Llenwodd y dysgwyr a’u ffrindiau a’u teuluoedd yr Ystafell Fawr i gydnabod cyflawniadau’r dysgwyr; sy’n mynychu cyrsiau yng nghampysau Aberdâr, y Rhondda a Nantgarw a Chanolfannau Learning Curve ledled Rhondda Cynon Taf.

Roedd y Cyflwyniadau Blynyddol, yn dathlu’r cyflawniadau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2016-17 a oedd yn cynnwys ystod o gyrsiau ac unedau rhan-amser y cymhwyster OCR Sgiliau Bywyd a Byw.

Yn arwain y digwyddiad oedd y Pennaeth Cynorthwyol Jonathan Morgan, a groesawodd y dysgwyr a’u gwesteion a rhoi diolch i staff y coleg a Nicola Richards, Rheolwr Gwasanaethau Dydd Learning Curve Services a’i thîm am drefnu’r digwyddiad ar y cyd.

Cyflwynodd tiwtoriaid balch eu dysgwyr a’u canmol am eu llwyddiant, wrth iddynt gasglu eu tystysgrifau ar gyfer cyflawniad neu bresenoldeb o 100%.

Wrth gyflwyno’r gwobrau, llongyfarchodd Andy Johns, Pennaeth Cynorthwyol Coleg y Cymoedd y dysgwyr ar eu cyflawniadau gan gydnabod cyfraniad enfawr eu teuluoedd a’r staff. Soniodd am frwdfrydedd y sawl oedd yn derbyn tystysgrifau a dymunodd yn dda iddynt ar gyfer y dyfodol; boed hynny’n ddyfodol mewn astudiaethau pellach neu leoliadau gwaith.

Rhoddwyd sylw arbennig i’r dysgwyr sy’n astudio Cwrs Mynediad 3 y Celfyddydau Creadigol a’r Cyfryngau ynghyd â chyd-ddysgwyr o’r cwrs Mynediad 1 Diploma mewn Cynnydd Personol; a berfformiodd addasiad gwych o A Midsummer Night’s Dream dan gyfarwyddyd Ange Martin.

Dywedodd Nicola Richards, Rheolwr Gwasanaethau Dydd Learning Curve Services Ar ran Curve Learning Services, hoffwn ddiolch i diwtoriaid, staff cefnogi ac Uwch Reolwyr am ddarparu cyfleoedd gwych i unigolion ymgysylltu’n annibynnol mewn cyrsiau achrededig trwy Goleg y Cymoedd. Mae’r ddarpariaeth ar draws pob campws yn wych gyda chyfleusterau ac adnoddau rhagorol sy’n darparu cyfoeth o brofiadau i bawb. Rydym yn gwerthfawrogi ymrwymiad ac ymroddiad holl staff Coleg y Cymoedd ac rydym wedi derbyn adborth ardderchog gan ddysgwyr a rhieni / gofalwyr, sydd i’w gweld yma yn y Seremoni Wobrwyo Flynyddol. Edrychwn ymlaen at y flwyddyn academaidd nesaf, diolch!”

Ychwanegodd Angela Jones, sy’n mynychu Campws Aberdâr “Rwy’n hoffi mynd i’r coleg newydd, mae’n braf gwneud rhywbeth gwahanol. Rwy’n hoffi cymysgu gyda fy ffrindiau a phobl newydd a dysgu llawer”

Dywedodd Cydlynydd y dosbarthiadau Learning Curve yng Ngholeg y Cymoedd, Rachel Wallen, “Mae’n hyfryd gweld ffrwyth cydweithio parhaus rhwng staff yn y coleg, staff yn y Canolfannau Learning Curve a’r dysgwyr. Mae balchder pob dysgwr sy’n derbyn eu tystysgrifau yn amlwg i bawb sy’n mynychu’r digwyddiad “.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau