Tîm Pobl a Diwylliant Coleg y Cymoedd yn cael ei enwi’n ‘Dîm Mewnol Gorau yng Nghymru’ yng Ngwobrau CIPD

Mae tîm Pobl a Diwylliant Coleg y Cymoedd, coleg addysg bellach blaenllaw yn Ne Cymru, wedi cael ei gydnabod fel y tîm Adnoddau Dynol mewnol gorau yng Nghymru yng Ngwobrau CIPD 2024.

Trefnwyd Gwobrau Blynyddol CIPD yng Nghymru gan Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad ac fe’i cynhaliwyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Gwener, 15 Mawrth. Pwrpas y digwyddiad oedd dathlu cyflawniadau a datblygiadau arloesol gweithwyr AD proffesiynol ledled y wlad.

O dan arweiniad Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant, Hannah Hallett, perfformiodd y tîm Pobl a Diwylliant yn well na rhai o’r sefydliadau gorau yng Nghymru, megis Wales and West Utilities, BBC Cymru Wales a Pobl Group.

Roeddent yn un o’r pedwar ar ddeg o enillwyr rhagorol a ddewiswyd gan banel o feirniaid arbenigol o’r sector AD, busnes a’r cyfryngau. Ymunodd cannoedd o weithwyr AD proffesiynol o bob rhan o’r DU â’r seremoni i ddathlu rhagoriaeth ac arferion gorau eu cyfoedion.

Dangosodd y tîm eu gallu i addasu a chydweithio’n effeithiol wrth gefnogi staff a dysgwyr y coleg yn ystod cyfnod heriol a nodwyd gan gyfyngiadau cyllidebol a bwlch sgiliau sy’n effeithio ar recriwtio ar draws pob sector.

Cyflwynwyd mesurau amrywiol ganddynt i wella lles, ymgysylltiad, datblygiad a pherfformiad staff, megis opsiynau gweithio hyblyg, cyfleoedd dysgu ar-lein, gwasanaethau cymorth iechyd meddwl, a chynlluniau cydnabod.

Dywedodd Hannah Hallett, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant: “Rydyn ni mor falch o dderbyn y wobr hon; mae’n adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad ein tîm a chymuned y coleg cyfan.

“Rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith cadarnhaol a chefnogol lle gall ein pobl ffynnu a darparu’r canlyniadau gorau posibl i’n dysgwyr ac rydyn ni’n falch o’r modd yr ydym yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o gefnogi gweledigaeth a gwerthoedd y coleg.

“Rydw i wedi bod yn dweud ers dwy flynedd mai fi sydd â’r tîm gorau yng Nghymru, ac mae hyn yn profi hynny!”

Dywedodd Jonathan Morgan, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae’r wobr hon yn dyst gwirioneddol i waith caled ac ymroddiad y tîm. Nod Coleg y Cymoedd yw hyrwyddo diwylliant lle gall gweithwyr symud ymlaen a thyfu yn eu rolau a’u cyfrifoldebau. Gobeithiwn y gallwn barhau i gefnogi ein tîm a pharhau i greu amgylchedd lle mae pawb yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi.”

Dywedodd Lesley Richards, pennaeth y CIPD yng Nghymru: “Mae Gwobrau CIPD yng Nghymru bob amser yn gyfle gwych i ddathlu a chydnabod yn swyddogol y gwaith rhagorol, arloesol sydd weithiau’n newid bywydau sy’n digwydd ledled y wlad. Bob blwyddyn, rydyn ni’n cael ein plesio gan nifer ac ansawdd y cynigion, ynghyd â’r ymrwymiad i ddatblygu pobl a ddangosir, fodd bynnag eleni roedden ni wedi ein syfrdanu gan i ni dderbyn y nifer mwyaf erioed o geisiadau!

“Mae adnoddau dynol a datblygu pobl yn dylanwadu’n uniongyrchol ar weithrediad llwyddiannus pob busnes ac mae’n hanfodol ein bod ni’n hyrwyddo cynnydd gweithwyr ac yn cadw talent – sydd wedi bod yn arbennig o heriol yn y blynyddoedd diwethaf wrth i’n sector ni fel llawer o rai eraill ddelio â chyllidebau sy’n crebachu ac anawsterau recriwtio. Mae pob un o’n henillwyr, y rhai sydd wedi derbyn canmoliaeth uchel a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol wedi profi eu bod yn enghreifftiau gwych o’r gwahaniaeth y gall arferion AD a phobl ei wneud.”

Chwiliwch am swyddi gwag presennol yng Ngholeg y Cymoedd a gweithiwch gyda thîm AD mewnol gorau Cymru, yma: https://www.cymoedd.ac.uk/about/careers/?lang=cy

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau