Dysgwyr y Cymoedd yn gwneud darllen yn hwyl

Mae coleg yn Ne Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda chymuned ehangach Llwynypia gyda’r nod o ddod â’i gyfleusterau a’i wasanaethau i’r gymuned.

Mae un prosiect yn fenter gyffrous ar y cyd a ddatblygwyd gydag Ysgol Gynradd Treorci, lle mae dysgwyr o Goleg y Cymoedd yn rhoi’r theori a ddysgir yn y coleg ar waith. Mae’r dysgwyr brwdfrydig, sy’n astudio ar gwrs Dysgu a Datblygiad Gofal Plant Lefel 2 yng Nghampws y Rhondda yn gwirfoddoli yn yr ysgol, yn cynnal cyfres o foreau coffi a phrosiect ‘Darllen gyda mi’ yn eu Hystafell Deulu.

Mae’r prosiect a ddechreuodd y mis hwn yn hyrwyddo darllen fel gweithgaredd cymdeithasol a hwyliog ac yn ychwanegu syniadau newydd i annog cyfranogiad. Mae’r ysgol wedi cael ei chalonogi gyda’r canlyniadau gan eu bod eisoes wedi gweld cynnydd yn nifer y rhieni, y neiniau a theidiau a’r gofalwyr sy’n ymweld â’r ysgol.

Mae’r ysgol yn ymfalchïo yn ei pholisi Drws Agored ac yn ffodus mae ganddi gyfleusterau fel ei Hystafell Deulu er mwyn cynnal mentrau o’r fath. Dywedodd y Pennaeth, Louise Reynolds, Rydym yn croesawu dysgwyr a phartneriaid cymunedol yn ein hysgol ni. Mae’r prosiect hwn yn hyrwyddo’r Cwricwlwm Newydd yn fawr a rhagwelir y bydd teuluoedd sy’n mynychu’r prosiect yn teimlo’n fwy parod i gefnogi eu plant gartref, yn enwedig gyda darllen a gwaith cartref. Ein bwriad yw ymgysylltu â disgyblion o bob oedran ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Choleg y Cymoedd ar brosiectau yn y dyfodol “.

Ychwanegodd Eva Tewkesbury, Tiwtor Gofal Plant yn y coleg sydd wedi bod yn gyfrifol am gefnogi cyfranogiad y dysgwyr yn yr ysgol, “Dyma gyfle gwych i’n dysgwyr ddatblygu eu sgiliau wrth arwain ar brosiect o’r fath. Dyluniwyd gwahoddiadau i annog teuluoedd a ffrindiau’r disgyblion i fynychu’r sesiynau a darparu syniadau cyffrous i ymgysylltu â darllenwyr amharod, annog plant dawnus a chefnogi’r profiad darllen ‘teulu’. Mae ein dysgwyr wedi cofleidio’r cynllun ac maent yn glod i’n hadran. Hoffwn ddiolch hefyd i Mrs Anstee, arweinydd y prosiect a holl staff Ysgol Gynradd Treorci am y croeso cynnes y maent wedi’i ymestyn i’n dysgwyr “.

Adleisiodd Shan Bowen, Cydlynydd y Campws sylwadau ei chydweithiwr, gan ychwanegu “Mae staff y coleg yn ymwybodol y gall pontio o’r ysgol i gyflogaeth fod yn frawychus i rai o’n dysgwyr. Yn y coleg rydym yn cynnal mis o weithgareddau, Paratoi ar gyfer Cyflogaeth; sydd wedi bod yn fuddiol, gan roi hyder i’r dysgwyr wirfoddoli yn y fenter Darllen Brecwast.

Dywedodd dysgwr y Cymoedd Tiegan Owens, 17, o Tonypandy sy’n wirfoddolwr ar y prosiect: “Rydw i’n mwynhau gweithio gyda’r ysgol ar y prosiect Darllen Brecwast, mae wedi bod yn brofiad gwych. Rwy’n mwynhau darllen straeon a chael gwell dealltwriaeth o ba lyfrau mae plant yn eu mwynhau. Mae’n wych eistedd gyda grŵp o ddisgyblion a’u teuluoedd i edrych ar wahanol ffyrdd i fwynhau llyfrau. Bob wythnos rwyf wedi sylwi ar hyder y rhai sy’n mynychu’n gwella, wrth inni sgwrsio am y llyfr. Pan fyddaf wedi cwblhau fy nghwrs coleg, hoffwn weithio mewn ysgol ac mae hyn wedi rhoi’r cyfle delfrydol imi i brofi gwaith o’r fath.

Wrth sôn am lwyddiant y prosiect, dywedodd Mrs Anstee, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Treorci, “Rydym yn falch iawn o lwyddiant y prosiect, mae dysgwyr y coleg wedi croesawu’r her ac yn dangos lefelau uchel o gymhelliant. Maent wedi cwrdd â’r disgyblion, wedi trafod eu hoff lyfrau ac wedi creu sachau yn llawn deunyddiau darllen i ddal dychymyg y dysgwyr wrth ddarllen. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r coleg ar weithgareddau yn y dyfodol “.

Coleg y Cymoedd yn cyhoeddi Pennaeth newydd

Mae un o golegau addysg bellach mwyaf Cymru, Coleg y Cymoedd, wedi penodi Karen Phillips fel ei Bennaeth a’i Brif Weithredwr nesaf.

Bydd Ms Phillips, sydd wedi gwasanaethu fel Dirprwy Bennaeth Coleg y Cymoedd ers 2008 (Coleg Morgannwg bryd hynny), yn dilyn y Pennaeth cyfredol, Judith Evans, pan fydd yn ymddeol o 1 Ionawr 2019.

Fel Dirprwy Bennaeth, mae Karen Phillips wedi cael ei chanmol am y rôl flaenllaw y mae wedi’i chwarae wrth arwain y coleg trwy broses ddatblygu cwricwlwm parhaus, prosiectau isadeiledd mawr a dadansoddi strategol tueddiadau marchnad perthnasol Ymhlith yr uchafbwyntiau mwyaf nodedig oedd uno Coleg Morgannwg a Choleg Ystrad Mynach yn 2014 i ffurfio Coleg y Cymoedd, a rheoli rhaglen fuddsoddi cyfalaf a oedd yn cwmpasu nifer o brosiectau gwerth sawl miliwn ar draws pedwar campws, gan gynnwys adeiladu campws Nantgarw gwerth £40m a agorodd yn 2012.

Cyn mynd i’r sector addysg, mwynhaodd Ms Phillips yrfa hynod lwyddiannus yn y sector masnachol, gan gynnwys dros 11 mlynedd fel prif weithredwr un o brif gwmnïau cyfreithwyr Cymru, Capital Law.

Yn ogystal â chynnig y cyfle i ddefnyddio ei chraffter masnachol mewn heriau newydd yn y maes addysg, roedd y penderfyniad i ymuno â’r coleg yn 2008 hefyd yn cynrychioli math o ddychwelyd i Ms Phillips, a astudiodd yn y coleg 35 mlynedd yn ôl yng nghampysau’r Rhondda a Rhydyfelin.

Dywedodd Karen Phillips, am ei phenodiad a’i chynlluniau ar gyfer dyfodol y coleg: Rwyf yn falch iawn o gael y cyfle hwn i arwain y coleg a gafodd cymaint o ddylanwad ar fy addysg a fy ngyrfa fy hun. Mae’n fraint gweithio gyda fy nghydweithwyr wrth inni ymdrechu i wneud gwahaniaeth i’r dysgwyr sy’n dod i astudio gyda ni. “

Mae Coleg y Cymoedd yn gwasanaethu mwy na 12,000 o ddysgwyr o fwrdeistrefi Caerffili a Rhondda Cynon Taf. Yn ogystal â hyfforddiant galwedigaethol, mae’r coleg hefyd yn darparu’r dewis mwyaf o bynciau Safon Uwch ar un safle i oddeutu 400 o ddysgwyr. Mae’r coleg yn cyflogi 800 o bobl sy’n gweithio ar draws pedwar campws – Aberdâr, Nantgarw, y Rhondda, ac Ystrad Mynach.

Wrth groesawu Ms Phillips i’r rôl y mae hi ei hun wedi ei chyflawni â rhagoriaeth ers dros ddeng mlynedd, meddai Judith Evans, Pennaeth cyfredol Coleg y Cymoedd: “Mae Karen eisoes wedi cael dylanwad mawr ar gyfeiriad strategol y coleg a bydd hyn yn parhau. Mae gennyf bob hyder y bydd y coleg yn mynd o nerth i nerth o dan ei harweinyddiaeth”.

Dysgwyr Creadigol y coleg yn disgleirio yn y BAFTAs

Mae grŵp o ddysgwyr o goleg yng nghymoedd y de wedi gweld eu gwaith creadigol ar lwyfan Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru eleni.

Mae chwe gwneuthurwr propiau o Goleg y Cymoedd wedi bod yn brysur yn dod â mygydau eiconig Seremoni Wobrwyo’r Academi Brydeinig yng Nghymru yn fyw, ar ôl cydweithio â’r elusen ar y prosiect.

Mae’r dysgwyr; Emily Wright, Lee Vowles, Zoe Crisp, Peter Davies, Phil Bryant a Cory Thomas wedi treulio tair wythnos yn gweithio’n ddiflino i greu mwy na 50 o fygydau aur ac arian ar gyfer y gwobrau.

Fel rhan o’r gwaith, roedd gofyn creu mwgwd un metr o uchder ar gyfer y set, yn ogystal â dwsinau o fygydau eraill a wasgarwyd y tu ôl i’r llwyfan, yn y parti ar ôl y digwyddiad ac i’w defnyddio mewn lluniau gyda’r gwesteion.

Rhoddwyd y cyfle i ddysgwyr ar y Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) yn y ‘Celfyddydau Cynhyrchu Creadigol’ a’r BA (Anrh) mewn ‘Teledu a Ffilm: Creu Propiau’ ymgymryd â’r her gyffrous.

Mae’r ddau gwrs wedi’u cynllunio ar gyfer dysgwyr sydd am ddilyn gyrfa mewn effeithiau arbennig neu greu propiau ar gyfer teledu a ffilm, gyda’r ddau gwrs yn rhoi pwyslais cryf ar brofiad gwaith ymarferol.

Dywedodd Emily Wright, 29 oed, o Lantrisant, un o ddysgwyr y coleg sy’n rhan o’r prosiect: “Mae bod yn rhan o’r gwaith o greu mygydau wedi bod yn brofiad anhygoel. Neidiais ar y cyfle  gan fod BAFTA yn enw mor fawr ac mae gwydr ffibr yn sgil bwysig i wneuthurwr propiau, felly roedd yn gyfle gwych i ymarfer ymhellach y sgil hon a chreu gwaith o safon uchel y diwydiant. Cefais gyfle hefyd i addysgu myfyrwyr eraill sut i wneud y gwydr ffibr a mwynheais drosglwyddo’r sgiliau a ddysgais yn y diwydiant.

“Mae’r profiad wedi bod yn wych o ran adeiladu fy mhortffolio – mae BAFTA mor enwog a bydd yn bendant yn ddeniadol i gyflogwyr posibl yn y dyfodol. Atgyfnerthodd fy uchelgais o fod yn wneuthurwr propiau, yn enwedig ar gyfer y theatr, gwyliau a digwyddiadau mawr. “

Digwyddodd y prosiect ar y cyd â Choleg y Cymoedd yn sgil perthynas y coleg gyda DRESD,  chyflenwr propiau a setiau, a roes y tiwtoriaid cwrs mewn cysylltiad â BAFTA Cymru ar ôl cael cynnig y gwaith yn wreiddiol.

Yn dilyn sesiwn briffio dylunio i’r dysgwyr gan Rebecca Hardy, Rheolwr Gwobrau BAFTA Cymru, a oedd hefyd yn darparu’r offer perthnasol ar gyfer y prosiect, aeth y dysgwyr ati i adeiladu ac addurno’r mygydau gan ddefnyddio technegau gwydr ffibr, gan roi cyfle iddynt roi’r sgiliau a ddysgwyd ganddynt yn ystod eu hastudiaethau ar waith.

Meddai Alistair Aston, arweinydd cwrs ar y BA (Anrh) mewn Creu Propiau ar gyfer Teledu a Ffilm yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae ennill profiad yn y diwydiant ac adeiladu cysylltiadau yn y byd teledu a ffilm yn hynod o bwysig i ddysgwyr sy’n ceisio dilyn gyrfa yn y maes hwn.

“Ein nod yw rhoi digon o gyfleoedd i’r dysgwyr ar ein cyrsiau gwrdd â phobl allweddol sy’n gweithio yn y diwydiant a mynd i weithio gyda thimau cynhyrchu lleol a chenedlaethol. Mae cyn-ddysgwyr wedi gweithio ar brosiectau gwych megis Doctor Who a Casualty, yn ogystal â nifer o ffilmiau nodwedd.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i BAFTA Cymru am ganiatáu i ddysgwyr gymryd rhan yn y gwobrau. Bu’n brofiad gwych i bawb dan sylw ac mae’r dysgwyr wedi bod yn gyffrous iawn datblygu gwaith ar gyfer digwyddiad mor fawreddog. Bydd y profiad yn rhoi sgiliau parod a rhwydwaith o gysylltiadau diwydiant i ddysgwyr eu defnyddio wrth adael. “

Yn dilyn llwyddiant cydweithio eleni, mae’r coleg bellach yn sôn am sut y gallai helpu BAFTA Cymru yn y dyfodol.

Meddai Hannah Raybould, cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Rydym wedi mwynhau cydweithio â dysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd ar gyfer Gwobrau Academi’r Brydeinig yng Nghymru eleni. Yn ogystal â’r categorïau mwyaf adnabyddus fel actor gorau ac actores orau, mae BAFTA Cymru yn ymwneud â dathlu a hyrwyddo’r rhai sy’n gweithio ym meysydd crefft niferus y diwydiant ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent. “

Dysgwyr trin gwallt yn cefnogi ‘Go Pink for Ystrad Mynach’

Mae grŵp o ddysgwyr Trin Gwallt a Harddwch o Goleg y Cymoedd wedi gwirfoddoli i ddarparu triniaethau gwallt a harddwch am ddim i gleifion ac ymwelwyr yn Ysbyty Ystrad Fawr i gefnogi’r ymgyrch Turn the Town Pink.

Mae’r ddau grŵp o ddysgwyr yn cynnig gwahanol weithgareddau hyrwyddo i gefnogi ‘Go Pink for Ystrad Mynach’. Bydd dysgwyr y Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt a dysgwyr y Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch yng nghampws Ystrad Mynach yn hyrwyddo’r ymgyrch yn ystod eu sesiynau ymarferol yn y salonau.

Bydd dysgwyr y Diploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt a dysgwyr y Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch hefyd yn ymweld â’r ysbyty er mwyn hyrwyddo’r gweithgareddau codi arian ar gyfer Canolfan Rhagoriaeth Gofal y Fron yn yr ysbyty.

Dywedodd Joanne Harris, Tiwtor y Cwrs Pan ofynnodd Alison Roberts, Cyfarwyddwr Campws Ystrad Mynach, inni feddwl am syniadau i gefnogi achos mor deilwng, neidiwyd ar y cyfle i gymryd rhan gan fod y profiad hwn yn rhoi cyfle i’n dysgwyr roi eu sgiliau newydd ar waith mewn amgylchedd gwaith ynghyd â rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Bydd gweithio gyda chleientiaid hefyd yn helpu gwella eu sgiliau cyfathrebu a gofal cwsmeriaid cyffredinol, sy’n bwysig ochr yn ochr â’u sgiliau ymarferol. Rwyf yn falch o’r dysgwyr sydd wedi bod mor frwdfrydig wrth gefnogi cyfleuster mor hanfodol yn yr ardal “.

Ychwanegodd ddysgwr, “Rwyf yn edrych ymlaen at fynd i’r ysbyty i ddarparu gwasanaeth i’r cleifion. Rwyf yn gobeithio y bydd yn helpu codi eu hysbryd yn ystod eu cyfnod yno. Gallwn fanteisio ar y cyfle hwn i ennill profiad, nid yn unig o dorri gwallt ayb ond hefyd o gyfathrebu â’r cleifion. Hefyd, mae’n dda cefnogi ymgyrch Go Pink for Ystrad Mynach sy’n ariannu’r Ganolfan Rhagoriaeth Gofal y Fron – rwyf yn siŵr ein bod i gyd yn gwybod rhywun sydd wedi derbyn triniaeth mewn cyfleusterau mor bwysig, bydd yn dda cael y fath gyfleusterau yn ein hysbyty lleol .

Rhoes Alison Roberts, Cyfarwyddwr y Campws, ei diolch i’r staff a’r dysgwyr gan ddweud “Mae’n wych bod y tiwtoriaid a’r dysgwr am gefnogi’r digwyddiad hwn. Gwn fod yr Ysgol Gwallt a Harddwch eisoes yn gweithio’n wirfoddol yn Ysbyty Ystrad Fawr yn wythnosol  a dyma ffordd hwyliog o barhau â’u hymrwymiad i’r cleifion a’n cymuned leol “.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau