Bydd dawnswyr yn eu harddegau yn dysgu gan y sêr

Mae tiwtor dawns o Goleg y Cymoedd wedi dawnsio yn yr enwog Pineapple Dance Studio yn Llundain, cartref y sioe deledu boblogaidd gyda Louie Spence, er mwyn gallu dangos symudiadau diweddaraf i’w dosbarth o ddawnswyr uchelgeisiol.

Teithiodd Jaye Lord, sy’n bennaeth ar Adran Celfyddydau Perfformio’r Coleg, i’r stiwdios a sefydlwyd gan y model rhyngwladol Debbie Moore OBE, i ddod â choreograffi a thechnegau newydd a grëwyd gan y gorau yn y diwydiant ar gyfer llwyfannau’r West End yn ôl i’n dysgwyr yng Nghymoedd De Cymru.

Drwy gydol yr wythnos, cymerodd Jaye ran mewn ystod o ddosbarthiadau dawns gyda rhai o brif enwau’r diwydiant, gan gynnwys sesiwn gyda’r coreograffydd dawns Lukas McFarlane, sy’n gyfrifol am goreograffi So You Think You Can Dance a’r X Factor.

Mae’r tiwtor bellach yn gweithio i ymgorffori ei phrofiad yn ei gwersi ei hun er mwyn caniatáu i’w dysgwyr ddatblygu’r technegau dawns modern a jazz a fyddai fel arfer ond yn hygyrch i sêr y llwyfan mawr.

Meddai Jaye: Mae’n bwysig imi fy mod yn datblygu fy nghwrs yn barhaus i gynnig y technegau gorau a diweddaraf i’m dysgwyr i’w helpu i baratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant. Mae treulio wythnos yn un o sefydliadau gorau Llundain wedi bod yn brofiad anhygoel. “

Yn ogystal â dosbarthiadau dawns proffesiynol yn y stiwdios enwog, ymwelodd Jaye â dwy theatr enwog yn Llundain fel rhan o’r daith addysgol – Theatre Royal, Drury Lane, cartref y clasur o Broadway 42nd Street a’r Adelphi Theatre, sy’n dangos y sioe boblogaidd Kinky Boots ar hyn o bryd.

Cafodd Jaye y cyfle i fynd y tu ôl i’r llenni er mwyn gweld sut mae theatrau blaenllaw’r Brifddinas yn gweithio, a’r cyfle i adrodd yr hanes i’w dysgwyr am yr hyn y mae’n ei gymryd i ddod yn berfformiwr West End.

Parhaodd Jaye: “Roedd fy amser yn Pineapple Studios yn syfrdanol. Mae’n lle arbennig iawn – wedi’r cyfan rydych chi’n ei weld ar y teledu ac mae ganddo enw da yn y byd dawns. Roedd yn anrhydedd cymryd rhan mewn dosbarthiadau gydag enwau mawr y byd dawns a dysgu o’r gorau ac ymweld â’r theatrau, rhoes gwir ddarlun imi o fywyd perfformiwr y West End, a fydd yn fy helpu i deilwra fy nosbarthiadau yn unol â hynny.

“Rwy’n edrych ymlaen at fynd â’r hyn rydw i wedi’i ddysgu yn ôl i’r ystafell ddosbarth a chynnwys technegau newydd yn ein perfformiadau.”

Dau ddysgwr o’r Cymoedd yn cael eu cydnabod yn Ngwobrau’r Gofalwyr Ifanc

Cydnabuwyd dau ddysgwr o Goleg y Cymoedd yng Ngwobrau’r Gofalwyr Ifanc eleni a gynhaliwyd ym Mharc Treftadaeth y Rhondda.

Mae’r gwobrau blynyddol a drefnir gan Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dathlu’r gwaith pwysig a wneir gan Ofalwyr Ifanc a’r cyfraniad enfawr a wnânt wrth gefnogi aelodau’r teulu a hynny‘n ddi-dâl.

Enillodd y gofalwr ifanc Elisha Jones, sy’n 17 oed ac o Bentre yn y Rhondda, y Wobr Gofalwr Ysbrydoledig ac enillodd Chelsea Algate, 17 oed o Donypandy, Wobr Cyrhaeddiad Addysgol.

Wrth gefnogi’r dysgwyr yn y digwyddiad, dywedodd Swyddog Lles Coleg y Cymoedd, Laura Wilson, Rwyf wrth fy modd bod Elisha a Chelsea wedi cael eu cydnabod am eu hymroddiad i’w rôl fel gofalwyr ifanc. Maent yn haeddu’r gwobrau’n llwyr ac yn fodelau rôl ardderchog. Enillodd cyn-ddysgwr Coleg y Cymoedd Holly Williams wobr hefyd yn y digwyddiad.

Mae’r seremoni wobrwyo’n gyfle gwych i gydnabod y bobl ifanc hyn sy’n chwarae rhan hanfodol yn y gymuned, boed yn cefnogi aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog; na fyddai’n ymdopi heb eu help, oherwydd salwch, oed neu anabledd.

Rydym am i bob un o’n dysgwyr allu cymryd rhan lawn yn eu haddysg i gyflawni eu potensial mewn bywyd, beth bynnag fo’u llwybr gyrfa “.

Mae Coleg y Cymoedd wedi arwain y ffordd yn y sector AB wrth ennill Tystysgrif Lefel Efydd yn Ngwobr Colegau’r Gofalwyr Ifanc; a gynlluniwyd gan brosiect Cymorth Gofalwyr Rhondda Cynon Taf. Er mwyn ennill y Wobr Efydd, roedd angen i staff ddangos ymroddiad tuag at adnabod gofalwyr ifanc a’u cefnogi fel grŵp o ddysgwyr agored i niwed. Mae’r Coleg wrthi‘n gweithio tuag at sicrhau’r Wobr Arian ar gyfer Gofalwyr Ifanc mewn Addysg.

Breuddwyd Eidalaidd ar gyfer athrawon y dyfodol yn y Cymoedd

Cynigwyd cyfle i grŵp o fyfyrwyr addysgu o Dde Cymru ddilyn gyrfa eu breuddwydion a gweithio gyda phlant yr Eidal mewn lleoliad gwaith ar gyrion Fenis.

Cyfnewidiodd pedwar o ddysgwyr Coleg y Cymoedd gymoedd De Cymru am haul Môr y Canoldir ar ôl treulio pythefnos yn gweithio dramor fel rhan o daith a drefnwyd gan eu tiwtoriaid.

Treuliodd Katie Price, 20, Caitlan Billingham, 19, Abbie Fox, 19 a Wai Wai Chia, 37 bythefnos yn gweithio mewn meithrinfa ac ysgol gynradd leol yn nhref Castelfranco Veneto yng Ngogledd yr Eidal, dim ond 25 milltir o Fenis .

Cafodd y dysgwyr ail flwyddyn, sy’n astudio gofal plant yn y Coleg, brofiad o system addysg yr Eidal, gan ddysgu sut mae’r cwricwlwm a diwylliant yn wahanol i’r DU, ynghyd â phrofiad ymarferol yn gweithio gyda phlant.

Katie, o Faesycwmer, yw un o’r dysgwyr a gymerodd ran yn y daith, a drefnwyd trwy raglen gyllido ERASMUS a’r UE.

Er gwaethaf y rhwystrau ieithyddol, creodd Katie argraff ar y staff gyda’r lefel uchel o gefnogaeth a roes i’r disgyblion, yn ogystal â’i pharodrwydd a’i brwdfrydedd i ymgymryd ag unrhyw dasg a ddaeth i law. Mewn gwirionedd, roedd ei rheolwyr mor hapus gyda hi mae Katie wedi cael gwahoddiad yn ôl am leoliad arall.

Mae Katie, sydd ar fin astudio addysg gynradd ym Mhrifysgol Brighton ym mis Medi, yn gobeithio cymryd blwyddyn allan o’r cwrs i ddychwelyd i Castelfranco.

Dywedodd Katie: Roedd gweithio yn yr Eidal yn brofiad anhygoel na fyddaf byth yn ei anghofio. Mae gweld sut mae gwlad arall yn addysgu eu plant yn ddefnyddiol a diddorol iawn, ac mae’r profiad wedi rhoi cipolwg imi ar sut y gallaf wella rhai meysydd dysgu. Mae wedi agor fy llygaid i ffyrdd eraill o ennyn diddordeb plant a helpu gyda’u datblygiad academaidd a chymdeithasol. Rwyf wedi dysgu llawer ar y daith y bydd hynny’n sicr yn mynd yn ôl i’r ystafell ddosbarth gyda mi wedi imi gymhwyso fel athrawes.

“Roedd pawb mor groesawgar ac fe wnes i adeiladu perthynas dda gyda staff a phlant tra roeddwn i yno. Doeddwn i ddim eisiau gadael ac rydw i’n mynd i fethu pawb. Roeddwn mor hapus pan gefais fy ngwahodd gan yr ysgol am leoliad arall ac ni allaf aros i ddychwelyd. Unwaith rwyf yn gymwys fel athrawes, byddaf yn bendant yn ystyried symud i’r Eidal! “

Yn ogystal â gweithio yn yr ysgolion a’r meithrinfeydd yn Castelfranco, cafodd Katie a’i chyd-ddisgwyr gyfle i ymgolli yn niwylliant yr Eidal, gan ymweld â thref Treviso  a dinas enwog Fenis.

Mae’r pedair dysgwr yn astudio’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant yng Ngholeg y Cymoedd.

Mae’r cwrs, a gynhelir yng nghampws Ystrad Mynach y Coleg, wedi’i gynllunio i alluogi dysgwyr i symud ymlaen i’r brifysgol neu gael gwaith yn y sector, gan gynnwys rolau fel cynorthwyydd addysgu, cynorthwyydd cymorth un i un, nyrs meithrinfa neu swyddog gwyliau.

Dywedodd Angela Jones, tiwtor y cwrs yn Ysgol Gofal Coleg y Cymoedd: “Rhoes yr ymweliad â’r Eidal gyfle ardderchog i’r dysgwyr i ddefnyddio a gwella’r sgiliau y maent wedi’u datblygu hyd yn hyn yn ystod eu haddysg.

“Roeddent yn gallu gweld gwahanol arddulliau o chwarae ac addysgu, yn ogystal â dysgu sut i gynllunio gweithgareddau ac asesu ac arsylwi plant. Bydd cael profiad o ddiwylliant a dull gwahanol o addysg yn fuddiol iawn i’r dysgwyr, gan eu helpu i ehangu eu sgiliau a’u gwybodaeth, gan eu paratoi yn y ffordd orau ar gyfer gyrfa yn y diwydiant. “

Cymru’n galw tri dysgwr o’r Cymoedd

Dathlodd Coleg y Cymoedd Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau trwy gynnal nifer o ddigwyddiadau ar draws ei bedwar campws; gan gefnogi llawer o ddigwyddiadau Prentisiaethau allanol hefyd.

Mae’r Coleg yn cynnig ystod eang o Raglenni Prentisiaeth gan gynnwys Gofal Plant, Adeiladu, Peirianneg a Rheilffyrdd; a chaiff cydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru am ei ddarpariaeth o ansawdd a’i ganlyniadau, yn benodol mewn Peirianneg a Gweithgynhyrchu. Cydnabyddir y Coleg hefyd am ei ymatebolrwydd i anghenion y farchnad lafur leol.

Yn dilyn gweithgareddau llwyddiannus y llynedd, am yr eildro gwahoddwyd cyflogwyr o bob rhan o Gaerffili, Rhondda Cynon Taf a’r ardaloedd cyfagos i ymuno mewn cyflwyniadau, sesiynau rhannu gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio. Manteisiodd y cyflogwyr ar y cyfle hefyd i hyrwyddo eu cynlluniau prentisiaeth ac unrhyw gyfleoedd cyflogaeth yn eu sefydliadau i’r cannoedd o ddysgwyr ar draws y pedwar campws.

Digwyddiad newydd yn nathliadau Wythnos Brentisiaethau’r Coleg eleni oedd y Digwyddiad Prentisiaethau Menywod a gynhaliwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Roedd hyn yn llwyddiant mawr gyda siaradwyr o ystod o gefndiroedd yn rhoi cyflwyniadau ysbrydoledig.

Croesawodd y Dirprwy Bennaeth Karen Phillips y gwesteion a rhoes trosolwg o’i phrofiad ei hun o hyfforddeiaethau yn ei swydd gyntaf gyda’r Awdurdod Lleol.

Gadawodd y siaradwr gwadd, Karen Green, swydd yn y diwydiant Arlwyo er mwyn gweithio i Melin Homes fel Swyddog Datblygu Cymunedol. Ei neges yn y digwyddiad oedd ‘Mae yna lawer o lwybrau i fenywod yn y diwydiant adeiladu – Cymerwch bob cyfle!’ Pwysleisiodd Karen pa mor bwysig yw cyngor gyrfaoedd wrth ddewis gyrfa a dywedodd fod Melin Homes ar hyn o bryd yn gweithio ar brosiect Ysgolion i newid meddylfryd pobl.

Y prentis Hannah Colston oedd y siaradwr nesaf yn y digwyddiad. Rhannodd ei phrofiadau o fod yn brentis ymhlith menywod mewn sector llawn dynion. Pan adawodd Hannah yr ysgol nid oedd yn teimlo’n barod i fynd i’r brifysgol a phenderfynodd gofrestru ar brentisiaeth yn y coleg. Roedd yn brofiad a newidiodd ei bywyd, gan roi hwb i’w hyder wrth ddysgu ac ennill cyflog.

Mae wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Prentisiaeth y Flwyddyn Ewrop ac mae bellach wedi ei gyflogi fel QS dan hyfforddiant yn Trojan Construction ac mae’n dilyn cwrs gradd ym Mhrifysgol De Cymru.

Yn dilyn Hannah, rhoes Dawn Evans, Cyfarwyddwyr Rheoli Ajuda Training Services, gyflwyniad personol yn sôn am ei llwybr i gyflogaeth a sefydlu ei busnes. Yn yr ysgol roedd hi’n well am wneud chwaraeon na phynciau academaidd, a’r wybodaeth a ddysgodd yn yr hyfforddiant galwedigaethol a’i sbardunodd i sefydlu ei chwmni hyfforddi ei hun. Nawr mae Dawn wedi prynu canolfan hyfforddi yng Nghaerdydd ac mae wedi cwblhau tair gradd, mewn Addysg, Arweinyddiaeth Gynaliadwy ac Entrepreneuriaeth i Fenywod. Ei chyngor yw ‘Magwch hyder, angerdd a chredwch ynoch chi eich hun’

Menyw busnes llwyddiannus – Tracy Smolinsky, oedd y siaradwr olaf. Rhannodd Tracy y ffaith nad oedd yn academaidd ond cwblhaodd ei cymwysterau TGAU. Cafodd swydd weinyddu mewn  TÅ· Cyllid ond dysgodd yn gyflym nad oedd y swydd honno’n addas ar ei chyfer. Aeth i weithio i’r Western Mail yn gwerthu hysbysebion. Yn 2007, bu’n bresennol yn ei digwyddiad Rhwydweithio cyntaf gyda’r sefydliad a syrthiodd mewn cariad â rhwydweithio. Yn 2008, ynghyd â buddsoddwr, sefydlodd ei gwmni Intro Biz; y mae hi ar hyn o bryd yn rhedeg gyda’i phartner.

Wrth ystyried gweithgareddau’r wythnos, dywedodd Matt Tucker, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Busnes Mae’r Wythnos Brentisiaethau yn ddyddiad allweddol yn ein calendr, mae’n amser pwysig inni godi proffil ein Prentisiaethau a’n cyrsiau cysylltiedig, ymgysylltu â chyflogwyr a hyrwyddo manteision a chyfleoedd y rhaglenni. Bob blwyddyn rydym yn ceisio ehangu gweithgareddau’r wythnos, ac eleni fe wnaethom gynnwys Digwyddiad y Menywod ar Fawrth 8fed, i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Rydym yn ddiolchgar i bawb a gefnogodd ein digwyddiadau ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw gydol y flwyddyn. Mae cynllunio ar gyfer Wythnos Brentisiaeth y flwyddyn nesaf eisoes ar y gweill!”

Cymru’n galw tri dysgwr o’r Cymoedd

Mae tri o ddysgwyr Coleg y Cymoedd yn dathlu ar ôl derbyn y newyddion eu bod wedi cael eu dewis i ymuno â Sgwad Pêl-droed Cymru i gynrychioli Cymru yng Nghwpan Cyprus.

Mae Ellie Lake o Aberdâr 18 oed wedi cael ei dewis i fod yn y Sgwad ar ôl i’w pherfformiadau greu argraff ar brif hyfforddwr Tîm Cenedlaethol y Merched Jayne Ludlow, tra’r oedd yn cynrychioli’r Tîm dan 16, dan 17 a dan 19 yn ystod yr ymgyrchoedd cymhwyso. Roedd Ellie yn rhan annatod o ymgyrch cymhwyso’r tim dan 19 eleni; lle roedd Cymru’n gymwys ar gyfer y rownd Elît am y tro cyntaf mewn 8 mlynedd.

Dywedodd Ellie, sydd wrthi’n astudio ar gwrs BTEC Chwaraeon yng nghampws Ystrad Mynach gyda Amina ac Alice, Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy enwi’n rhan o’r garfan, gwn fod y gystadleuaeth yn eithriadol o uchel, sy’n arwydd da fod tîm cryf yn  mynd i mewn i’r gystadleuaeth “.

Mae Amina Vine, 17 oed, hefyd wedi cael ei dewis i gynrychioli Cymru yn sgwad ymgyrch cymhwyso Cwpan y Byd FIFA 2019. Nid yw’r dysgwr o Gil-y-Coed yn newydd i dîm Cymru gan ei bod wedi cynrychioli Cymru yn ymgyrchoedd cymhwyso dan 16, a dan 17.

Mae’n ymuno â’i chyfoedion, Alice Griffiths sy’n 17 oed ac yn gobeithio ychwanegu trydydd cap i’w chasgliad, ar ôl chwarae yn ymgyrch cymhwyso’r byd yn erbyn Kazakhstan a Bosnia Herzegovina, pan oedd hi ond yn 16 oed. Mae Alice hefyd wedi cynrychioli Cymru yn yr ymgyrchoedd cymhwyso Ewropeaidd dan 16, dan 17.

Wrth sôn am lwyddiant y chwaraewyr, dywedodd y tiwtor Claire O Sullivan, “Mae cynrychioli Cymru yn llwyddiant eithriadol i’r tri dysgwr, mae’n adlewyrchu eu sgiliau ac mae hefyd yn enghraifft dda o’r llwybr chwaraewyr a sefydlwyd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae pawb yng Ngholeg y Cymoedd yn falch o’r dysgwyr ac yn edrych ymlaen at wylio eu gyrfaoedd yn mynd o nerth i nerth. Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru a’r Coleg yn darparu addysg a hyfforddiant ond gwaith caled ac ymrwymiad y dysgwyr sy’n sicrhau eu llwyddiant. Bellach mae gan yr Academi 16 o ddysgwyr sydd wedi cynrychioli eu gwlad.

Cydnabyddiaeth i gefnogaeth Coleg y Cymoedd ar gyfer LGBT

Mae Coleg y Cymoedd yn falch o gyhoeddi ei fod wedi dringo bron i 200 o leoedd ac erbyn hyn mae wedi cyrraedd safle 202 allan o 434 ym Mynegai Cydraddoldeb y Gweithle Stonewall.

Nawr yn ei bedwaredd flwyddyn ar ddeg, derbyniodd rifyn diweddaraf y Mynegai blynyddol geisiadau gan dros 430 o fusnesau a sefydliadau’r DU ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol a mwy na 92,000 o ymatebion gan weithwyr i’r Arolwg Staff.

Cyhoeddir y Mynegai bob blwyddyn gan Stonewall ac fe’i hadwaenir fel ‘y rhestr’, sy’n dangos y cyflogwyr gorau ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

Mae’r Coleg wedi bod yn aelod o Raglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall ers 2016 ac ymddangosodd yn y Mynegai am yr eilwaith ym mis Medi 2017.

Nod Coleg y Cymoedd yw creu amgylchedd cynhwysol, croesawgar a diogel sy’n parchu ac yn dathlu amrywiaeth ei staff, dysgwyr a chyflawniadau pobl LGBT o fewn y Coleg a thrwy’r gymuned ehangach.

Mae cymryd rhan yn yr Arolwg Mynegai yn dangos ymrwymiad y Coleg i ddeall a hyrwyddo cydraddoldeb LGBT. Mae safle gwell eleni yn dyst i’r arweiniad, y polisïau a’r gefnogaeth a ddarperir gan y Coleg a hefyd ymrwymiad y nifer o staff sy’n cyfrannu cefnogaeth a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth ar bob campws.

Wrth gydnabod y safle gwell, dywedodd David Finch, Is-Bennaeth y Coleg Dros y 18 mis diwethaf, mae Coleg y Cymoedd wedi trefnu llawer o weithgareddau cydraddoldeb a chynhwysiant ar draws y pedwar campws, gan gynnwys cymryd rhan mewn ymgyrchoedd cadarnhaol megis ymgyrch careiau’r Enfys, hyrwyddo digwyddiadau ymwybyddiaeth megis mis Hanes LGBT, Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb a Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia. Rydym wedi gweld cynnydd gwirioneddol o ran ein cydraddoldeb a chynhwysiant LGBT ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio yn ein huchelgais i fod yn lle gwirioneddol gynhwysol i weithio ac astudio “.

Yn y dyfodol mae’r Coleg yn bwriadu ymgysylltu’n fwy helaeth â Pride Cymru a digwyddiadau eraill sy’n ymwneud ag ymgysylltu â’r gymuned; a bydd hefyd yn edrych ar ei phrosesau mewnol e.e. Caffael, i sicrhau bod ein cyflenwyr wedi ymrwymo i gynwysoldeb LGBT.

Beth mae Cymru’n ei olygu i ddysgwyr y Cymoedd

Pan ofynnwyd i ddysgwyr Coleg y Cymoedd ateb ‘Beth mae Cymru’n ei olygu i mi?’, ymatebwyd i’r her yn sicr. Roedd y gystadleuaeth yn agored i unigolion a grwpiau ar draws y pedwar campws, gyda’r opsiwn o ddefnyddio unrhyw gyfrwng i gyfleu eu hateb.

Roedd y gystadleuaeth yn rhan o Wythnos Gymreig y Coleg sydd wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol yng nghalendr academaidd Coleg y Cymoedd. Mae’r wythnos yn gyfle i ddathlu popeth yn ymwneud â Chymru a’r Gymraeg, ac mae’n cynnwys ystod o weithgareddau ar draws y pedwar campws. Y nod yw annog dysgwyr a staff i ddathlu eu treftadaeth a’u hiaith.

Gofynnwyd i bob Cyfarwyddwr Campws ddewis y gwaith buddugol ar eu campws gyda’r Is-Bennaeth David Finch a Lois Roberts, Swyddog Iaith Gymraeg y Coleg yn dewis yr enillwyr cyffredinol.

Tîm o’r Adran Celfydyddau Creadigol a’r Cyfryngau oedd enillwyr Campws Aberdâr gyda’u hymgais – Piñata o ddafad fawr. Roedd y tîm yn cynnwys Andrew Hopkins, Callum Hooker, Rachel Rhufeiniaid, James Patterson, Vince Maxwell a Ellie Maguire.

Cafwyd gwaith buddugol Nantgarw gan Olivia Capelin, sy’n astudio ar gwrs Lefel 2 Mynediad i Wyddoniaeth. Paratodd Olivia de prynhawn Cymreig, yn llawn cynnyrch Cymreig wedi’i weini ar lechen o Gymru.

Yng Nghampws Ystrad Mynach, enillodd dysgwyr Peintio ac Addurno Lefel 1, Melissa Griffiths a Sophie Birkenshaw, y wobr am eu gwaith Celf ‘Calon’ gyda delweddau o symbolau Cymreig, gan gynnwys cennin pedir a dreigiaid.

Gan ennill gwobr Campws y Rhondda ynghyd â’r wobr gyffredinol oedd Sgiliau Sylfaenol mewn Adeiladu – Grŵp 2; gyda’u dreser Cymreig a wnaethpwyd o goed maen gyda manylder cywrain. Ymhlith y tîm o enillwyr oedd: – Zakk Bourne, Rhys Derham, Garin England, Nico Hemming, Dylan Jones, Tarian Morgan, Keenan Molding, Zac Parsons, Tomos Pearce, Jenson Pride, Cameron Sandilands, Jac Stone, Levi Harris a Jack Hefford.

Wrth longyfarch y dysgwyr, dywedodd Lois Roberts, Swyddog Iaith Gymraeg: “Roedd safon ceisiadau cystadleuaeth eleni yn anhygoel. Gweithiodd dysgwyr o bob campws yn galed i greu rhywbeth unigryw sy’n cynrychioli eu cariad tuag at eu diwylliant a’u treftadaeth. Mae’r gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i arddangos talentau dysgwyr y Coleg ac i ddathlu’r hyn sy’n gwneud Cymru’n unigryw. Da iawn bawb! “

Cyn-fyfyrwraig y Cymoedd un cam yn nes at daith i Rwsia

Pan gwblhaodd Alys Evans o Gilfach Goch ei hastudiaethau yng Ngholeg y Cymoedd, ni allai fod wedi breuddwydio am y dyfodol a oedd o’i blaen.

Ar ôl cwblhau ei TGAU cofrestrodd Alys ar gwrs VRQ Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol a NVQ Lefel 3 mewn Patisserie, yng nghampws Nantgarw. Roedd ei hastudiaethau yn y Coleg yn cynnwys gweithio yn y ceginau hyfforddi a Bwyty Nant; a rhoes iddi brofiad o heriau’r sector ynghyd â’r cyfle i elwa ar brofiad uniongyrchol tiwtoriaid medrus.

Drwy gydol ei hamser yn y Coleg, cystadlodd Alys mewn nifer o gystadlaethau Skills, gan ennill nifer o wobrau. Yn ei blwyddyn academaidd olaf enwebodd ei thiwtoriaid hi am y Gwobrau VQ mawreddog ac enillodd y wobr gyffredinol ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn – Canolradd.

Mae ennill y wobr wedi agor drysau i nifer o gyfleoedd cyffrous i’r cogydd ifanc talentog, gwahoddwyd hi i fod yn rhan o Dîm Cymdeithas Coginio Cymru ac yn ddiweddar ymunodd â’r Vale Resort fel cogydd pastai llawn amser a fydd o fantais iddi mewn cystadlaethau yn y dyfodol.

Yn y rownd derfynol ddiweddar World Skills UK, creodd Alys, sy’n 19 oed, argraff ar y beirniaid gyda’i phwdinau hyfryd, gan gynnwys sbwng mêl gyda banana wedi’i garameleiddio, Mousse ffa tonca siocled a chrymbl aeron â rhosmari anglaise; a sicrhaodd le yn Nhîm Coginio’r DU, ynghyd â dau fyfyriwr o Loegr.

Dywedodd Alys Doeddwn i ddim yn credu’r peth pan ges wybod fy mod wedi bod yn llwyddiannus. Mae’n anhygoel bod yn un o ddim ond tri o bob rhan o’r DU i fynd ymlaen i’r cam nesaf, gyda’r heriau mor galed a’r safon mor uchel.

Fel aelod o garfan WorldSkills UK, byddaf hefyd yn mynychu hyfforddiant arbenigol mewn gwaith siwgr a siocled yn Llundain a Hull, yn ddiweddarach eleni “.

Wrth weithio yn y Vale, gallaf gynhyrchu dros 100 o bwdinau’r dydd, gan gynnwys haenau moethus o gacennau ar gyfer te prynhawn a rhaid i bob un fod o’r ansawdd uchaf – pa hyfforddiant gwell!

Pan nad wyf yn gweithio, byddaf yn ymarfer yng Ngholeg y Cymoedd, yn mentora cogyddion iau wrth iddynt baratoi ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau nesaf Cymru.

Mae ennill y wobr VQ wedi rhoi llawer o hyder imi ac wedi gwneud imi gredu y gallaf wneud unrhyw beth yr wyf am ei wneud. Mae cymaint yr wyf am ei wneud a’i gyflawni yn fy ngyrfa, fy uchelgais yw gweithio mewn bwyty seren Michelin “.

Yn ddiweddar, mynychodd Alys ginio enillwyr gwobrau ar HQS Wellington,  Arglawdd Victoria, Llundain lle derbyniodd ei Gwobr City & Guilds diweddaraf; Cyflwynwyd gan y Worshipful Company of Cooks. Dyfarnwyd y wobr hon i Alys i gydnabod ei llwyddiannau a’i gwobrau hyd yn hyn.

Wrth sôn am lwyddiant Alys, dywedodd Lesley Cottrell, Rheolwr Menter, Sgiliau a Chyflogadwyedd yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae Alys yn ferch ifanc hynod, sydd wedi cydbwyso rhedeg ei busnes ei hun ochr yn ochr â’i hastudiaethau, gyda chymorth prosiect Colegau Tafflab. Mae hi wedi profi dro ar ôl tro y gall gwaith caled, dyfalbarhad a meddylfryd positif fynd â chi i leoedd nad ydych erioed wedi breuddwydio amdanynt. Dymunaf y gorau i Alys yng ngham nesaf ei thaith, mae ganddi’r holl rinweddau cystadleuydd WordSkills anhygoel. “Mae World Skills yn fudiad rhyngwladol sy’n hyrwyddo’r budd a’r angen am weithwyr proffesiynol medrus, gan ddangos pa mor bwysig yw sgiliau, addysg a hyfforddiant ar gyfer ieuenctid, diwydiannau a chymdeithas. Mae’n herio gweithwyr proffesiynol ifanc ledled y byd fod ar y brig mewn sgil o’u dewis.”

Dysgwyr a staff yn diolch i chi Kier

Mae dysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo ar gampws Aberdâr wedi bod yn brysur yn darparu bwyd poeth â thema i’r campws diolch i rodd hael gan Kier.

Gweithiodd y cwmni adeiladu gyda’r Coleg i adeiladu campws newydd Aberdâr ac roeddent yn awyddus i gefnogi’r dysgwyr.

Ar ôl ymgynghori â dysgwyr, gwnaed y penderfyniad i brynu troli bwyd cludadwy; a fydd nid yn unig yn cefnogi gweithgareddau mentrus y dysgwyr Arlwyo ond bydd yn ychwanegu at y dewis o brydau sydd ar gael ar y campws ar gyfer staff a dysgwyr.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau