Sêr pêl-rwyd Coleg y Cymoedd yn wynebu gwrthwynebwyr rhyngwladol llym

Mae chwaraewyr yn eu harddegau o dîm o ddarpar bencampwyr cynghrair pêl-rwyd colegau Cymru, Coleg y Cymoedd, wedi wynebu rhai o sêr newydd pêl-rwyd De Affrica mewn gornest y bu disgwyl mawr amdani.

Ddoe, fe wnaeth tîm cyntaf y coleg, Duon y Cymoedd, sydd ar y trywydd iawn i ennill cynghrair Pêl-rwyd Cymdeithas y Colegau (AOC) Chwaraeon Cymru eleni, herio carfan enwog Trinity House Randpark Ridge o Dde Affrica mewn gêm gyfeillgar.

Ar ôl darparu chwaraewr rhyngwladol i dîm pêl-rwyd De Affrica, a gurodd Cymru yng Nghwpan Pêl-rwyd y Byd y llynedd yn Cape Town, mae Trinity House yn cael ei ystyried yn un o dimau gorau’r wlad, sydd ar hyn o bryd yn y pumed safle yn y byd.

Chwaraewyd y gêm ar gampws Coleg y Cymoedd yn Nantgarw yn dilyn cais gan yr ysgol breifat o Johannesburg a oedd yn chwilio am garfan o blith colegau Cymru i gystadlu yn ei herbyn. Ar ôl cyrraedd Cymru a chwilio am wrthwynebydd teilwng, cafodd tîm Coleg y Cymoedd ei argymell sawl gwaith gan dimau eraill, sef tîm pêl-rwyd coleg gorau cynghrair Cymru ar hyn o bryd yn eu barn nhw.

A chanlyniadau’r gêm gyfeillgar oedd gêm gyfartal 49-49, gyda’r Cymoedd yn rhoi her i dîm De Affrica.

Dywedodd capten Duon y Cymoedd, Mileta Mitchell: “Ar ôl profi ein hunain fel tîm gorau’r wlad, mae wedi bod yn wefreiddiol profi ein hunain yn erbyn gwrthwynebwyr rhyngwladol. Ynghyd â dathlu tymor llwyddiannus, mae gêm heddiw wedi bod yn uchafbwynt y flwyddyn.

“Roedden ni’n gwybod y byddai hon yn gêm anodd yn erbyn tîm mor gryf, ond fe wnaethom ni ddal ein tir y gorau y gallem ni a thaflu popeth rydyn ni wedi bod yn ei ymarfer ers 7 mis atyn nhw. Aethpwyd o nerth i nerth heno gyda’r merched yn dangos eu hymddiriedaeth a hyder yn ei gilydd. Da iawn i Dde Affrica am fod yn dîm mor fedrus a gweithgar a roddodd gêm lân a chaled i ni. Dyna un o’r gemau cyfartal agosaf rydyn ni erioed wedi’i chwarae”

Dywedodd hyfforddwr Trinity House, Simphiwe Sithebe:: “Cawsom wybod gan gynifer mai dim ond un tîm yng Nghymru y dylem ni chwarae yn ei erbyn a heddiw fe wnaethom ni ddysgu pam. Mae wedi bod yn wych i’r merched gael herio eu hunain yn erbyn gwrthwynebwyr o safon yn ystod ein cyfnod yn y DU ac nid yw heddiw wedi bod yn wahanol. Mae chwarae gêm o safon mor uchel mewn cyfleusterau gwych o’r radd flaenaf wedi bod yn brofiad na fyddant yn ei anghofio ar frys.”

Yn dilyn y gêm yn erbyn chwaraewyr De Affrica, cafodd tîm Duon (cyntaf) y Cymoedd a thîm Gwyrddion y Cymoedd (ail) Coleg y Cymoedd eu hanrhydeddu am dymor gwych gyda noson o ddathlu a fynychwyd gan fawrion byd y campau gan gynnwys Mel Tuckwell, y cyn uwch hyfforddwr pêl-rwyd ac Uwch Ddarlithydd Prifysgol De Cymru (PDC) yn ogystal â Jayne Ludlow, cyn-reolwr pêl-droed Merched Cymru, hyfforddwr Manchester City a Phennaeth Chwaraeon presennol Prifysgol De Cymru.

Mae tîm cyntaf Duon y Cymoedd ar hyn o bryd yn y safle cyntaf yng nghynghrair Pêl-rwyd AOC Cymru, gyda dim ond dwy gêm ar ôl i’w chwarae, gan gynnwys gêm drionglog yn erbyn Crosskeys a Chastell Nedd ar y 10fed o Ebrill.

Yn sicr o orffen heb fod yn llai na thrydydd, mae Gwyrddion y Cymoedd yn gobeithio cipio’r ail safle yn y gynghrair gartref gan fod y tymor ar fin dod i ben yr wythnos nesaf gyda gêm yn erbyn Coleg Sir Gâr.

Cyn y gêm rhwng Duon y Cymoedd a Trinity House, cymerodd Gwyrddion y Cymoedd dîm o recriwtiaid newydd a fydd yn rhan o dimau Academi Menywod Coleg y Cymoedd y tymor nesaf. Mae’r Academi i Fenywod, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru ac sy’n darparu rhaglenni pêl-rwyd a rygbi, yn cynnig addysg a hyfforddiant ymarferol a seiliedig ar theori i ddysgwyr 16 i 18 oed gan arbenigwyr blaenllaw cryfder a chyflyru yn ogystal â hyfforddwyr profiadol. Mae’r rhain yn cynnwys cyn-chwaraewr rygbi’r undeb o Gymru, Gareth Wyatt, a chyn chwaraewr rygbi a phêl-rwyd rhyngwladol Cymru, Lowri Noket-Morgan.

Wrth siarad am gêm gyfeillgar De Affrica, dywedodd cyn-hyfforddwr pêl-rwyd hŷn Cymru, Mel Tuckwell –  “Mae wedi bod yn wych cael cipolwg ar ddyfodol pêl-rwyd Cymru heddiw yng Ngholeg y Cymoedd yn Nantgarw. Mae’r profiad wedi fy ngalluogi nid yn unig i weld tîm coleg gorau Cymru yn brwydro yn erbyn goreuon De Affrica, ond hefyd i weld recriwtiaid Academi’r flwyddyn nesaf yn cystadlu yn erbyn Gwyrddion y Cymoedd. Gallwch weld sut mae’r Academi a’r cyfleusterau sydd ar gael yma yn dwyn ffrwyth. Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn, iawn i bêl rwyd yng Ngholeg y Cymoedd.”

Lleolir Academi Menywod Coleg y Cymoedd yng Nghanolfan Rhagoriaeth Chwaraeon Coleg y Cymoedd yn Nantgarw, cyfleuster hyfforddi ac addysgu chwaraeon gwerth miliynau o bunnoedd a agorodd y llynedd. Cynlluniwyd y ganolfan i wella gallu dysgwyr mewn amrywiaeth o chwaraeon, yn darparu cyfleusterau hyfforddi perfformiad o’r radd flaenaf ac addysgu academaidd i gyd ar un safle. Mae’r Ganolfan yn bennaf yn gartref i ddysgwyr Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghyd ag academïau chwaraeon perfformiad uchel y coleg. Mae dysgwyr sy’n dilyn cymwysterau hyfforddwr ffitrwydd a hyfforddiant personol hefyd yn elwa o’r cyfleusterau.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau