Chwaraewyr rygbi coleg yn mynd i Awstralia i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau’r Gymanwlad

Mae grŵp o chwaraewyr rygbi talentog o goleg yn ne Cymru wedi cael eu dewis i gynrychioli eu gwlad ym Mhencampwriaethau’r Gymanwlad Rygbi’r Gynghrair 2018, ar ôl creu argraff ar hyfforddwyr academaidd.

Bydd tri chyn-ddysgwr Coleg y Cymoedd yn ymuno â thîm rhanbarthol dan 23 Rygbi’r Gynghrair Cymru ym Mhencampwriaethau ‘Rugby Nines’ eleni yn Awstralia.

Bydd cyn-fyfyrwyr y Coleg, Macauley Harris, Liam Silver a Cobi Green yn cystadlu fel rhan o’r garfan 15-dyn yn y gystadleuaeth ryngwladol sy’n digwydd fis nesaf yn Queensland.

Bydd y twrnamaint dau ddiwrnod yn gweld y tîm naw ochr, sy’n cynnwys chwaraewyr ieuenctid gorau’r genedl rhwng 18 a 23 oed, yn wynebu saith gwlad arall yn y categori dynion: Papua New Guinea, Awstralia, Lloegr, Yr Alban, Fiji, Samoa a Tonga.

Mae Macauley Harris, o Glyncoch, Pontypridd, yn un o gyn-chwaraewyr Coleg y Cymoedd sydd ar fin chwarae yn y Pencampwriaethau. Gyda phedwar cap i Gymru, mae’r chwaraewr deunaw mlwydd oed wedi chwarae ar gyfer llu o dimau â phroffil uchel ers dechrau chwarae rygbi’r undeb yn 11 oed, gan gynnwys Academi Scorpions De Cymru, Myfyrwyr Cymru a’i glwb presennol, Raiders Gorllewin Cymru.

Wrth siarad am ei le ar y tîm, dywedodd Macaulay: Ar y dechrau, doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn yn cyrraedd y garfan genedlaethol oherwydd waeth pa mor dda ydych fel chwaraewr, dydych chi ddim yn gwybod sut mae pethau’n mynd i fynd ar ddiwrnod eich treial.

“Pan ddeuthum i wybod fy mod wedi llwyddo, roeddwn i ar ben fy nigon. Bydd chwarae yn y Gymanwlad yn brofiad anhygoel. “

Bu Macauley, sy’n gobeithio dod yn chwaraewr rygbi’r gynghrair proffesiynol, hefyd yn cynrychioli Myfyrwyr Cymru yng Nghwpan y Byd yn Awstralia’r haf diwethaf, ynghyd â chyn-ddysgwyr eraill o Goleg y Cymoedd Dewi Billingham, Archie Snook a Cobi Green.

Roedd holl chwaraewyr Coleg y Cymoedd a ddewiswyd ar gyfer y Gymanwlad a’r Cwpan Byd i gyd yn raddedigion o Academi Rygbi’r Gynghrair, academi achrededig RFL Categori 3 sy’n cael ei chynnal gan y Coleg mewn partneriaeth â Rygbi’r Gynghrair Cymru.

Wedi’i gynllunio i roi’r cyfle i chwaraewyr gyfuno hyfforddiant rygbi achrededig gydag astudiaeth academaidd llawn amser, mae’r academi yn cynnig cymwysterau chwaraeon BTEC Lefel 1, 2 neu 3 a / neu Safon Uwch ochr yn ochr â hyfforddiant fel rhan o’r rhaglen.

Nawr yn ei drydedd flwyddyn, mae’r cynllun yn anelu at gynnig pont i addysg bellach i’r rhai sy’n bwriadu parhau â Rygbi’r Gynghrair yn rhan amser neu’n llawn amser, gyda llawer o ymgeiswyr y tîm wedi mynd ymlaen i chwarae dros dimau â phroffil uchel, gan gynnwys Academi Dan 20 Scorpions De Cymru a sgwad Myfyrwyr Cymru.

Meddai Mark Jones, Pennaeth Rygbi’r Gynghrair yng Ngholeg Cymoedd: “O safbwynt hyfforddi a rheoli, mae’n wych gweld cymaint o’n dysgwyr o’r gorffennol a’r presennol yn cael eu dewis i gynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol. Roedd clywed y bydd Macauley, Liam a Cobi yn chwarae yn y Gymanwlad yn newyddion gwych ac yn gwbl haeddiannol – mae’r bechgyn wedi gweithio’n galed, gan neilltuo llawer o amser ac ymdrech i gyflawni eu nodau.

“Mae cynrychioli eu gwlad yn y Pencampwriaethau yn llwyddiant enfawr. Rwyf yn gyffrous i ymuno â’r bechgyn allan yn Awstralia’r mis nesaf ar gyfer y twrnamaint ac yn dymuno pob lwc iddynt. “

Daw’r newyddion am ddethol sgwad y Gymanwlad ar ôl llwyddiant pedwar o chwaraewyr academi rygbi’r gynghrair Coleg y Cymoedd a ddewiswyd i gynrychioli tîm Myfyrwyr Cymru, a reolwyd hefyd gan Mark, yng Nghwpan Myfyrwyr 2017.

Ychwanegodd Mark: “Roedd cymryd pedwar o chwaraewyr yr Academi i dwrnamaint Cwpan y Byd yn Awstralia’r llynedd yn uchafbwynt mawr i mi yn bersonol ac i Academi Rygbi’r Coleg. Mae’n dangos bod ein llwybr ar gyfer rygbi’r gynghrair yn y Coleg yn gweithio. “

Cynhelir twrnamaint Rhyngwladol Rygbi’r Gynghrair 2018 ddydd Gwener 23 a dydd Sadwrn 24 Chwefror ym Mae Moreton, Queensland, dim ond hanner awr i’r gogledd o Brisbane.

I unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais am Academi Rygbi’r Gynghrair Coleg y Cymoedd, cysylltwch â Mark Jones ar mark.jones01@cymoedd.ac.uk.

Coleg yng Nghymru â golygon eang i helpu gwella addysg yn Fietnam

Mae arbenigwyr addysg o goleg yng nghymoedd de Cymru wedi teithio ar draws y byd i helpu gwella ansawdd addysg yn Fietnam a chynyddu sgiliau a chyflogadwyedd dysgwyr yn y wlad.

Mae Coleg y Cymoedd wedi cydweithio â phum coleg galwedigaethol yn Fietnam, i rannu arbenigedd ar arferion addysg gorau er mwyn hybu safonau addysgu a helpu datrys rhai o’r heriau allweddol y mae addysgwyr yn eu hwynebu yn y wlad yn ddyddiol.

Ffurfiwyd y partneriaethau trwy gynllun ‘Foundation Project Vietnam’ y Cyngor Prydeinig, prosiect ar y cyd rhwng y Cyngor Prydeinig, Coleg y Cymoedd ac Adran Gyffredinol Hyfforddiant Galwedigaethol Fietnam a gynlluniwyd i gyfoethogi profiadau dysgu yn Fietnam a Chymru.

Mae’r rhaglen ddwy flynedd wedi gweld pedwar cynrychiolydd o Goleg y Cymoedd yn teithio i golegau yn Ninas Hue, Dinas HoChiMinh a phrifddinas y wlad – Hanoi. Roedd cyfarfod â’u cymheiriaid o Fietnam, gan gynnwys prifathrawon a darlithwyr, yn cynnig cyfleoedd i arbenigwyr o Gymru ddysgu am yr arferion a’r gweithdrefnau presennol yn y colegau, ac ennill adborth gan fyfyrwyr.

Galluogodd y wybodaeth hon i dîm Coleg y Cymoedd adnabod meysydd i’w gwella ym mhob un o’r colegau partner a chreu cynlluniau i fynd i’r afael â materion allweddol.

Trwy gydol y prosiect, bu’r tîm yn cydweithio’n agos â chynrychiolwyr o Fietnam, gan ddarparu hyfforddiant wyneb yn wyneb i ddatblygu eu sgiliau, yn ogystal â rhannu awgrymiadau, offer ac adnoddau i’w cefnogi wrth weithredu newidiadau i wella ansawdd yr addysg a ddarperir yn eu colegau.

Yn ogystal, golygodd bod deg cynrychiolydd o bob un o’r colegau yn Fietnam yn ymweld â’r DU am wythnos o hyfforddiant yng nghampws Nantgarw Coleg y Cymoedd, er mwyn cysgodi swyddi ac arsylwi gwersi, yn ogystal â dysgu am ddulliau a strategaethau addysgu ac asesu newydd.

Roedd y cyfnewidfeydd yn caniatáu i’r cynrychiolwyr weld yn uniongyrchol sut mae Coleg y Cymoedd yn casglu adborth dysgwyr er mwyn gwella cyfleusterau a darpariaethau addysgu a dysgu’r coleg yn barhaus.

Ym mis Tachwedd 2017, teithiodd aelodau o dîm Coleg y Cymoedd yn ôl i Fietnam i weld sut mae colegau tramor wedi elwa o’r prosiect.

Meddai Matthew Tucker, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Busnes, yng Ngholeg y Cymoedd: Mae’r prosiect hwn wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac rydym wedi gweld gwelliannau gwych i adnoddau ac ansawdd yr addysgu o fewn yr holl golegau yr ydym wedi cysylltu â hwy. Bu’n wych trosglwyddo ein harferion addysgu a’n prosesau ansawdd, ac mae gweld y gwahaniaeth y mae’r rhain wedi’i wneud wedi bod yn hynod werth chweil.

Gwelodd y cynllun Coleg y Cymoedd yn paru â phum coleg yn Fietnam: Coleg Galwedigaethol Talaith Ba Ria Tau, a Choleg Galwedigaethol Canolog Rhif 1 a Rhif 3 ar gyfer Trafnidiaeth, yn ogystal â Choleg Galwedigaethol Diwydiannol Hanoi, Coleg Galwedigaethol Fietnam-Corea, a Choleg Galwedigaethol Hanoi ar gyfer Electro Mecaneg.

Parhaodd Mr Tucker: “Y nod allweddol y tu ôl i’r prosiect hwn oedd cefnogi’r colegau i wrando ar eu dysgwyr a gwella eu darpariaethau yn seiliedig ar eu hadborth, fel y gwnawn yma yng Ngholeg y Cymoedd. Ar ôl ymweld â’r colegau, gallwn ddweud yn sicr fod y cynllun wedi bod yn effeithiol wrth wneud hynny, gyda phob un o’r sefydliadau wedi gweithredu arferion newydd a strategaethau hyfforddi y maent wedi’u dysgu gennym ni. “

“Bu’n bleser bod yn rhan o wneud gwahaniaeth i’r lefel addysg a ddarperir ar ochr arall y byd.”

Diolch i lwyddiant y rhaglen, mae’r coleg wedi ennyn rhagor o ddiddordeb gan addysgwyr yn yr ardal, gyda Choleg y Cymoedd yn ennill partner newydd, Coleg Twristiaeth Hue a leolir yn Ninas Hue, yn ogystal â pharhau i weithio gyda’r tri choleg yn Hanoi.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau