Ewch ar Daith Rithwir: Arddangosfa Addysg Uwch Diwydiannau Creadigol

Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys prif ddarnau o waith terfynol myfyrwyr o’n pedwar cwrs addysg uwch yn y diwydiannau creadigol. Mae’r arddangosfa hon bellach wedi dod i ben.

Ymhlith y cyrsiau hyn mae:

*Ffotograffiaeth (dysgwch ragor)

*Llunio Gwisgoedd (dysgwch ragor)

*Teledu a Ffilm: Trin Gwallt, Coluro ac Effeithiau Arbennig (dysgwch ragor)

*Creu Propiau (dysgwch ragor)

Prentis Cyfrifeg ar restr fer am yr ail flwyddyn yn olynol

Mae un o ddysgwyr Coleg y Cymoedd wedi ei gynnwys ar restr fer genedlaethol ym maes cyfrifeg am yr ail flwyddyn yn olynol ar ôl plesio’r beirniaid gyda’i sgiliau a’u frwdfrydedd dros y diwydiant.

Cyrhaeddodd Jordan Harley, prentis lefel 4 y cwrs Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) yn y coleg, y rhestr fer eleni yn y categori Technegydd Cyfrifon o Wobrau Cyllid Cymru (Finance Awards Wales), sy’n cydnabod a dathlu talentau gweithwyr proffesiynol byd cyllid yng Nghymru.

Mae gan y dysgwyr galluog brofiad o ennill, gan iddo gipio’r wobr gyntaf yn yr un maes yn 2021. Ei obaith nawr ydy ail-adrodd y gamp eto eleni. 

Penderfynodd rheolwr Jordan ei gynnig am y wobr eto ar ôl gweld ei holl waith caled ac ymroddiad yn ystod ei brentisiaeth. 

Ac yntau’n astudio busnes yn y brifysgol yn wreiddiol ar ôl cwblhau ei bynciau Lefel A, bu Jordan yn agored i nifer o fodiwlau cyfrifeg yn ystod ei radd a’i hysbrydolodd i ddilyn gyrfa yn y sector. Yna penderfynodd ddilyn ei angerdd newydd a chofrestru ar brentisiaeth cyfrifeg yng Ngholeg y Cymoedd.

Yn dilyn cyhoeddi’r rhestr fer, i gael siawns o ennill, bydd yn rhaid i Jordan nawr baratoi cyflwyniad i egluro pam y dylai ennill y wobr a chymryd rhan mewn cyfweliad gyda’r panel beirniaid a fydd yn cael ei gynnal cyn y seremoni.

Bydd enillwyr pob categori yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ar Fehefin 24ain.

Dywedodd Jordan: “Pan gefais fy enwebu a fy rhoi ar restr fer y wobr gyntaf, allwn i ddim credu’r peth. Roeddwn i’n eithriadol o falch. Roedd cyflwyno i banel o feirniaid yn brofiad brawychus ond gwych. Mae wedi datblygu fy sgiliau ac roedd yn deimlad braf i gael cydnabod fy ngwaith caled.

“Yn dilyn fy llwyddiant y llynedd, meddyliais ‘beth am wneud cais eto?’ Rwyf wrth fy modd fy mod unwaith eto wedi cyrraedd y rhestr fer ac yn edrych ymlaen at y rowndiau terfynol.”

Wrth edrych ymlaen, mae Jordan yn gobeithio cwblhau cwrs achrededig gyda Chymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ar ôl ei brentisiaeth cyn cymryd swydd amser llawn mewn cwmni cyfrifeg.

Tiwtor Coleg y Cymoedd yn ennill Gwobr genedlaethol Cymraeg Gwaith

Mae Tiwtor o Goleg y Cymoedd, Fiona Hennah o Gasnewydd, wedi ennill gwobr Dysgwr Lefel Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Cymraeg Gwaith eleni.

Mae Fiona, darlithydd Gwyddoniaeth sy’n dysgu ar y rhaglen Mynediad i Addysg Uwch yn y coleg, yn ddysgwraig Gymraeg frwdfrydig ac ar hyn o bryd ar ei hail flwyddyn o gwrs AB Cymraeg Gwaith (Sylfaen 1) AB. Mae hi wedi gwneud llawer iawn o gynnydd yn ei dysgu a’i defnydd o’r Gymraeg.

Fiona Hennah

Mae’r prosiect Cymraeg Gwaith AB yn cael ei ariannu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’i gydlynu gan ColegauCymru. Ei nod ydy cefnogi darlithwyr mewn colegau AB i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus yn y dosbarth. Mae’r rhaglen yn cynnwys 120 awr o hyfforddiant ac mae’n seiliedig ar gyfuniad o sesiynau addysgu, sesiynau mentora 1-1, arsylwi addysgu darlithydd ac astudiaeth annibynnol. Cyflwynir yr hyfforddiant gan Diwtor Cymraeg Gwaith y Coleg, Alison Kitson.

Deilliodd diddordeb Fiona mewn dysgu Cymraeg o’r awydd i sgwrsio â’i theulu, yn enwedig ei nithoedd ifanc, sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae Fiona yn mwynhau treulio amser yn sgwrsio, darllen a hyd yn oed canu gyda nhw ac yn y pen draw yn dysgu llawer ganddyn nhw.

Mae’n ymgorffori’r Gymraeg yn ei hadnoddau dysgu, ac yn rhannu Rhestr Termau Gwyddonol o’r Saesneg i’r Gymraeg â’i holl fyfyrwyr. Mae hi hefyd yn darganfod ac yn rhannu adnoddau cyfrwng Cymraeg yn ei phwnc, i helpu ei myfyrwyr Cymraeg iaith gyntaf.

Mae Fiona yn rhoi adborth ysgrifenedig dwyieithog i’w holl ddysgwyr wrth farcio aseiniadau, ac yn annog y di-Gymraeg i ddysgu Cymraeg hefyd.

Wrth longyfarch Fiona, dywedodd Alison Kitson, Tiwtor Cymraeg Gwaith yn y coleg “Mae hon yn wobr haeddiannol, mae Fiona mor frwd dros ddysgu Cymraeg ac yn ysbrydoli a chefnogi pobl eraill i ddysgu Cymraeg hefyd. Mae ganddi hefyd ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth a diwylliant Cymreig ac mae’n rhannu llawer o eitemau newyddion, clipiau fideo cerddoriaeth ar wefan Dysgwyr Cymraeg Staff y Coleg”.

Wrth sôn am ei Gwobr, dywedodd Fiona “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill y Wobr hon, mae’n golygu cymaint i mi. Rwy’n mwynhau dysgu Cymraeg yn fawr iawn ac mae’n rhaid i mi ddiolch i fy nhiwtor rhagorol – Alison Kitson – am fod mor amyneddgar gyda mi”.

Cwrdd â’r Tîm: Dominic a Vanessa

Cyfle i ni gael sgwrs dau diwtor yn y diwydiannau creadigol i gael hanes eu cefndir a’u cynghorion i ddysgwyr.

Yng Ngholeg y Cymoedd, rydyn ni’n ffodus iawn o gael gweithwyr proffesiynol o’r safon uchaf o’r diwydiant ymhlith ein staff, yn enwedig yn ein hadran greadigol.

Yn ddiweddar, ymunodd Dominic Farquar â’r coleg fel darlithydd yn y diwydiannau creadigol yn dilyn pum mlynedd yn gweithio yn y sector ffilm fel ‘grip’ – yr unigolyn sy’n gyfrifol am osod a rigio’r offer camera ar y set.

Yn ystod ei yrfa, mae Dominic wedi gweithio ar amrediad o raglenni teledu a ffilmiau arobryn gan gynnwys ‘Doctor Who’, ‘War of the Worlds’, ‘Sex Education’ cwmni Netflix, ‘Star Wars’, ‘Maleficent’ a’r ffilm ‘Downtown Abbey’.

Daw â’i brofiad mewn gwaith ‘grip’ a gwaith camera gydag ef, a bydd dysgwyr sy’n astudio cyrsiau cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol a digidol yn elwa o hynny.

Mae Dominic yn ymuno â thîm o weithwyr proffesiynol dawnus sydd â phrofiad o’r diwydiant, gan gynnwys Vanessa Batten, sydd wedi bod yn y coleg ers dros ddegawd. Vanessa ydy arbenigwraig animeiddio hir-sefydlog Coleg y Cymoedd ar y diplomâu lefel 3 a 4 mewn Celf a Dylunio Sylfaen. Hi hefyd ydy arweinydd cwrs lefel 3 newydd y coleg mewn Celf Gemau, dylunio ac Animeiddio, sydd wedi’i leoli mewn stiwdio ddigidol arbenigol ar gampws y Rhondda.

Ar ddechrau’r flwyddyn, ymunodd Vanessa, sy’n gweithio’n rhan-amser yng Ngholeg y Cymoedd, â stiwdios Aardman Animation, lle mae’n gweithio fel cynhyrchydd ac arweinydd cwrs sylfaen yn Academi Animeiddio Aardman, yn gyfochrog â’i rôl yn y coleg.

Ers ymuno â’r cwmni, mae hi wedi bod yn ymwneud â nifer o brosiectau gan gynnwys ffurfio cwrs creu modelau ar-lein gyda gwneuthurwyr modelau o’r cwmni, yn ogystal â chefnogi rhaglenni hyfforddi diwydiant ‘Stop Motion’ Academi Aardman, sydd wedi golygu iddi gymryd rhan mewn sesiynau holi ac ateb wythnosol gyda chyfarwyddwyr arobryn fel Nick Park a Will Becher – yr enwau y tu ôl i gynyrchiadau enwog fel ‘Wallace and Gromit’, ‘Creature Comforts’, ‘Chicken Run’ a ‘Shaun the Sheep’.

Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio gyda Netflix, mewn cydweithrediad ag Aardman, i ddatblygu rhaglenni allgymorth sydd wedi’u cynllunio i ysbrydoli cenedlaethau iau i ymuno â’r diwydiant creadigol.

Ochr yn ochr â Choleg y Cymoedd, bu Vanessa’n gweithio fel artist stiwdio byw llawrydd ac artist cynyrchiadau i ‘Life Drawing Live’ y BBC, ac fel darlithydd animeiddio cyswllt ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

I’r rhai ohonoch sy’n ystyried dilyn gyrfaoedd ym myd teledu, ffilm ac animeiddio, cyngor Vanessa a Dominic ydy dechrau drwy ddod o hyd i gwrs yr ydych yn ei garu ac sy’n eich ysbrydoli ac hefyd i weithio’n galed.

Yn ôl Vanessa: “Gan fod y diwydiant yn newid yn gyson, mae’n bwysig bod yn hyblyg a bod yn barod i roi cynnig ar bethau newydd. Mae hyn yn dangos y gallwch chi ddatrys problemau a dod o hyd i ffyrdd newydd o herio’ch hun. Byddwch yn uchelgeisiol a chael cymaint o brofiad ag y gallwch, gall hyn gynnwys gwirfoddoli ar gyfer prosiectau, mynychu digwyddiadau a dod i adnabod pobl gyffelyb yn y diwydiant i weld sut mae’r cyfan yn gweithio.”

Prif gyngor Dominic ydy bod yn frwdfrydig bob amser a dilyn eich angerdd.

Meddai: “Mae dod i fyd addysgu yn syth o’r diwydiant o fudd i’m dysgwyr gan fod gen i wybodaeth a sgiliau ffres i ddod â nhw i’m gwersi yn ogystal â chyngor ac awgrymiadau ar sut i lwyddo yn y diwydiant. Mae gen i wybodaeth uniongyrchol am yr hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano ac mae angerdd amlwg dros y diwydiant a pharodrwydd i wneud y gwaith yn mynd yn bell.”

Ychwanegodd Vanessa: “Yn aml mae yna gamsyniad bod y diwydiant creadigol yn fach ac mai cyfyngedig iawn ydi’r nifer o swyddi sydd ar gael ynddo, ond dydy hynny ddim yn wir. Mae’r diwydiant yn ffynnu ac mae doreth o gyfleoedd ar gael – mae’n bosibl gwneud gyrfa yn gwneud yr hyn rydych chi’n ei garu!

“Mae cael cysylltiadau yn allweddol yn y diwydiant felly ewch i gwrdd â phobl a bod yn gyfeillgar gyda phawb rydych chi’n cwrdd â nhw. Teithiwch yr ail filltir bob amser i archwilio eich creadigrwydd a’ch uchelgais ond peidiwch â bod ofn ymestyn allan a gofyn am help ac arweiniad!”

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau