Dysgwr trin gwallt yn llais entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru

Mae dysgwr Trin Gwallt Lefel 1, Debbie Walters, wedi ymuno â thîm o Asiantau Entrepreneuriaeth Ieuenctid Syniadau Mawr Cymru er mwy bod yn llefarydd ar ran y rhai sy’n breuddwydio am fod yn fos arnyn nhw eu hunain.

Mae Syniadau Mawr Cymru yn awyddus i recriwtio tîm gwirfoddol o Asiantau Entrepreneuriaeth Ieuenctid i gynrychioli ‘llais ieuenctid entrepreneuriaeth yng Nghymru’. Dyna nod a rennir gan Dîm Dyfodol@Cymoedd Coleg y Cymoedd, sy’n cynnal yr Hwb Menter a Chyflogadwyedd; ‘siop un stop’ ar gyfer mentora, arweiniad, hyfforddiant, a rhwydwaith mewnol i ddysgwyr ar draws y pedwar campws.

Er nad oedd hi eisoes wedi ystyried cychwyn ei busnes ei hun, ar ôl dysgu am y rhaglen ymgeisodd Debbie am le arni a gofynnwyd iddi fod yn Asiant Entrepreneuriaeth Ieuenctid. Bwrodd ati’n syth a dechreuodd gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp yn casglu barn darpar entrepreneuriaid ifanc ledled Cymru.

Meddai Debbie: “Fe wnes i gais i fod yn Asiant Entrepreneuriaeth Ieuenctid oherwydd roeddwn i am wneud rhywbeth newydd a oedd yn wahanol i fy nghwrs Trin Gwallt. Ar ôl dysgu am y rôl ar yr Hwb Menter a Chyflogadwyedd, roedd yn swnio fel cyfle gwych i wthio fy hun a magu hyder.

“Roedd Lesley o Dîm y Dyfodol yn fwy na pharod i fy nghefnogi yn fy nghais ac fe wnaeth hi fy annog drwy gydol y broses er gwaethaf fy nerfau.”

Fel Asiant Entrepreneuriaeth Ieuenctid, mae cyfranogwyr fel Debbie yn elwa o gael profiad gwaith gwerthfawr, ymuno â rhwydwaith o unigolion o’r un anian ledled Cymru, a chael mynediad at ddosbarthiadau meistr unigryw gydag arbenigwyr ac entrepreneuriaid blaenllaw. Drwy gyfres o drafodaethau, mae cyfranogwyr 16 – 25 oed ledled Cymru yn cyfrannu at lywio penderfyniadau ar gyfer dyfodol entrepreneuriaeth ieuenctid.

Ychwanegodd Debbie: “Fe wnaeth y trafodaethau fy ngalluogi i rannu fy marn gyda phobl newydd, darganfod modelau rôl entrepreneuriaeth ieuenctid, a chwrdd â gwesteion arbennig sy’n gwneud pethau anhygoel yn eu diwydiant.

“Roeddwn i’n teimlo’n nerfus iawn ar y dechrau. Doeddwn i erioed ymgymryd â rôl fel hon o’r blaen, ond gadewais i’r cyfarfod cyntaf yn llawn cyffro ac yn barod am fwy. Roedd yn deimlad gwych gallu bod yn rhan o dîm o bobl sy’n gweithio i helpu pobl ifanc i gyflawni eu breuddwydion. Ers hynny, rydw i wedi ystyried cychwyn fy musnes fy hun yn y dyfodol, sy’n rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi ei ystyried o’r blaen.

Mae gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Busnes Cymru ac fe’i hariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r gwasanaeth wedi’i anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sydd am ddatblygu syniad busnes. O fŵtcamps i weithdai, mae pobl ifanc sy’n ystyried entrepreneuriaeth yn cael cyngor ac adnoddau gwerthfawr ar sut i roi hwb i’w busnes eu hunain.

Gan weithio’n agos gyda Syniadau Mawr Cymru, mae Tîm Dyfodol@Cymoedd Coleg y Cymoedd yn sicrhau bod gan ddysgwyr sy’n ystyried hunangyflogaeth fynediad at adnoddau i gryfhau eu nodau busnes. Mae’r Tîm Dyfodol@Cymoedd hefyd yn gweithio i gynnig cyfleoedd i ddysgwyr sydd am archwilio opsiynau gyrfa a datblygu eu dyheadau busnes a phersonol.

Dywedodd Rheolwr Menter, Sgiliau a Chyflogadwyedd Coleg y Cymoedd, Lesley Cottrell: “Fy nod fy hun a nod tîm Dyfodol@Cymoedd yw cynnig y gefnogaeth sydd ei hangen ar ddysgwyr ar draws y coleg i ddatblygu eu sgiliau personol a’u hyder. Drwy gyfleoedd fel menter wirfoddol Asiantau Entrepreneuriaeth Ieuenctid Syniadau Mawr Cymru, mae dysgwyr fel Debbie yn gallu elwa o brofiadau newydd a all roi hwb i’w datblygiad personol a gyrfaol.

“Rydw i mor falch o Debbie am fentro gwneud cais fel Asiant Entrepreneuriaeth Ieuenctid a gwthio ei hun i fod yn rhan o gyfle mor gyffrous. Byddwn ni’n parhau i’w chefnogi yn ei gyrfa a’i thaith bersonol, ac rydym ni’n edrych ymlaen at ei gweld yn magu hyder hyd yn oed ymhellach.”

Ffotograffydd talentog yn ei arddegau yn cychwyn busnes newydd

Mae dysgwr coleg o Dde Cymru wedi defnyddio’r cyfnod clo fel cyfle i gychwyn ei fusnes ei hun a dilyn ei freuddwyd o fod yn berchen ar ei stiwdio ffotograffiaeth ei hun.

Mae Euan Balman, sy’n ddeunaw oed ac yn dod o Lantrisant, ar fin agor ei stiwdio ei hun yr haf hwn, ar ôl treulio’r pum mis diwethaf yn adnewyddu gweithdy gwag yn ei dref enedigol.

Mae Euan, sydd ar hyn o bryd yn astudio cymhwyster Technoleg Cyfryngau Creadigol Lefel 3 yng Ngholeg y Cymoedd, wedi bod yn angerddol am ffotograffiaeth byth ers iddo gael camera digidol fel anrheg ar ei ben-blwydd yn wyth oed. Ers hynny, mae Euan wedi parhau i ddatblygu ei sgiliau ac wedi treulio oriau di-ri yn tynnu lluniau o dirweddau Cymru.

Ar ôl derbyn ei gomisiwn cyntaf un yn ddiweddar am ddelwedd o fachlud haul dros hen dref Llantrisant, cafodd Euan ei ysbrydoli i ddilyn ei nod o fod yn ffotograffydd proffesiynol a chynnal ei arddangosfa ei hun i arddangos ei waith.

Mae’r llanc talentog wedi dewis peidio â mynd i’r brifysgol, gan ddewis yn hytrach ymuno â’i fam Delyth, a gafodd ei diswyddo o’i swydd ym myd addysg yn ystod y pandemig, a sefydlu busnes teuluol newydd, ‘MADEcreative’.

Derbyniodd y teulu Grant Rhwystrau Busnes Cymru i helpu i gychwyn y busnes ac maent wedi bod yn brysur yn ystod y pum mis diwethaf yn datblygu’r gofod stiwdio newydd, a leolir yn yr hen Model House yng nghanol tref Llantrisant, gydag Euan yn mynd i’r afael â’r adnewyddu ei hun i gwtogi ar gostau.

Yn ogystal â chynnal arddangosfa barhaol i arddangos a gwerthu ei waith, bydd Euan hefyd yn cynnig ystod o wasanaethau ffotograffiaeth yn y stiwdio gan gynnwys comisiynau preifat, portreadau teulu a gwasanaethau cynnyrch a marchnata ar gyfer cleientiaid masnachol, tra bydd Delyth yn goruchwylio rhedeg y busnes.

Gyda’r newidiadau olaf yn cael eu gwneud i’r gofod newydd, mae disgwyl i’r stiwdio agor ddiwedd mis Mehefin unwaith y bydd Euan wedi gorffen yn y coleg.

Meddai Euan: “Rydw i wedi bod wrth fy modd â ffotograffiaeth cyhyd ag y gallaf gofio, yn enwedig lluniau tirlun, ac roedd gennyf ormod o ddewis yn byw yng Nghymru gyda chymaint o leoedd hardd o’m cwmpas i dynnu eu llun. Roeddwn i’n gwybod fy mod am ddilyn gyrfa mewn ffotograffiaeth a chael fy stiwdio fy hun fu’r freuddwyd erioed.

“Oherwydd Covid, dydw i ddim wedi cael y cyfle i arddangos fy ngwaith felly rydw i’n edrych ymlaen at allu cynnal arddangosfa o’r diwedd. Rydw i mor gyffrous i agor fy stiwdio fy hun ac i groesawu fy nghleientiaid cyntaf – mae hi wedi bod mor werth chweil gweld popeth yn dod at ei gilydd dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Bydd y flwyddyn nesaf yn un enfawr i mi wrth imi ddechrau fy ngyrfa ac ni allaf aros i weld lle aiff hynny â mi. Rydw i mor ddiolchgar i bawb sydd wedi helpu i wneud hyn yn bosibl gan gynnwys fy nhiwtoriaid yn y coleg, y tîm yn Syniadau Mawr Cymru a fy mam am gefnogi fy syniad.

Mae Euan wedi derbyn cefnogaeth i gychwyn y fenter gan Syniadau Mawr Cymru – gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid Busnes Cymru – sydd wedi’i anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sydd am ddatblygu syniad busnes. Rhoes y gwasanaeth fentoriaeth i Euan a’i gynorthwyo i ddatblygu cynllun busnes a gyflwynwyd i Fusnes Cymru i’w ariannu.

Mae tîm y Dyfodol Coleg y Cymoedd, sydd wedi ymrwymo i helpu dysgwyr yn y coleg i ddod â syniadau busnes yn fyw, hefyd wedi helpu Euan i sefydlu ei fusnes ei hun wrth iddo gwblhau ei astudiaethau coleg. Mae’r tîm wedi helpu i’w gysylltu â phartneriaid yn y diwydiant ac wedi cefnogi’r broses gyfan.

Dywedodd Lesley Cottrell, Rheolwr Menter, Sgiliau a Chyflogadwyedd yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae sgil ac angerdd amlwg Euan dros ffotograffiaeth, ynghyd â’i ymdrech glir i gychwyn ei fusnes ei hun, wedi bod yn hynod drawiadol ac rydym ni’n falch o gael Euan fel un o’n dysgwyr yn y coleg.

“Rydym ni’n falch ein bod wedi ei helpu yn ei daith ac yn dymuno’r gorau iddo gyda’i fenter newydd.”

Bydd gardd newydd Coleg y Cymoedd yn rhoi hwb i fyd natur

Mae Coleg y Cymoedd yn helpu i wyrdroi dirywiad natur diolch i gynllun gardd newydd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus.

Mae ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ yn cynnig pecynnau am ddim i gymunedau sy’n cynnwys yr holl blanhigion, offer a deunyddiau sydd eu hangen i greu gerddi bach.

Bydd yr Adran Mynediad Galwedigaethol yng Ngholeg y Cymoedd yn creu gardd bywyd gwyllt ac yn tyfu ffrwythau ar eu campws y Rhondda.

Dywedodd Dorian Adkins – Cydlynydd Campws yr Ysgol Mynediad Galwedigaethol: “Bydd y fenter hon yn cael effaith wych ar ein dysgwyr, a fydd yn defnyddio’r ardal i gymryd rhan mewn gweithgareddau garddio a phrofiad gwaith ac yn dechrau tyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain.”

Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, Louise Tambini: “Yn fwy nag erioed, mae pobl yn cydnabod gwerth natur i iechyd a lles ein cymunedau. Rydym ni’n falch iawn bod sefydliadau, fel Coleg y Cymoedd, bellach yn cael y cyfle i wneud gwir wahaniaeth drwy Leoedd Lleol ar gyfer Natur. Rydym ni’n gwybod bod llawer o ardaloedd eraill a allai elwa o’r cynllun ac rydym ni’n annog pobl i gymryd rhan tra bydd pecynnau am ddim ar gael.”

Mae’r fenter yn rhan o gronfa ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i gaffael, adfer a gwella natur ‘ar eich stepen drws’.

Mae pecynnau ar gael o hyd i grwpiau a sefydliadau cymunedol. I wneud cais am Leoedd Naturiol ar gyfer Natur, ewch i https://www.keepwalestidy.cymru/Pages/Site/cy/Category/natur

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau