Cydnabyddiaeth i gefnogaeth Coleg y Cymoedd ar gyfer LGBT

Mae Coleg y Cymoedd yn falch o gyhoeddi ei fod wedi dringo bron i 200 o leoedd ac erbyn hyn mae wedi cyrraedd safle 202 allan o 434 ym Mynegai Cydraddoldeb y Gweithle Stonewall.

Nawr yn ei bedwaredd flwyddyn ar ddeg, derbyniodd rifyn diweddaraf y Mynegai blynyddol geisiadau gan dros 430 o fusnesau a sefydliadau’r DU ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol a mwy na 92,000 o ymatebion gan weithwyr i’r Arolwg Staff.

Cyhoeddir y Mynegai bob blwyddyn gan Stonewall ac fe’i hadwaenir fel ‘y rhestr’, sy’n dangos y cyflogwyr gorau ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

Mae’r Coleg wedi bod yn aelod o Raglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall ers 2016 ac ymddangosodd yn y Mynegai am yr eilwaith ym mis Medi 2017.

Nod Coleg y Cymoedd yw creu amgylchedd cynhwysol, croesawgar a diogel sy’n parchu ac yn dathlu amrywiaeth ei staff, dysgwyr a chyflawniadau pobl LGBT o fewn y Coleg a thrwy’r gymuned ehangach.

Mae cymryd rhan yn yr Arolwg Mynegai yn dangos ymrwymiad y Coleg i ddeall a hyrwyddo cydraddoldeb LGBT. Mae safle gwell eleni yn dyst i’r arweiniad, y polisïau a’r gefnogaeth a ddarperir gan y Coleg a hefyd ymrwymiad y nifer o staff sy’n cyfrannu cefnogaeth a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth ar bob campws.

Wrth gydnabod y safle gwell, dywedodd David Finch, Is-Bennaeth y Coleg Dros y 18 mis diwethaf, mae Coleg y Cymoedd wedi trefnu llawer o weithgareddau cydraddoldeb a chynhwysiant ar draws y pedwar campws, gan gynnwys cymryd rhan mewn ymgyrchoedd cadarnhaol megis ymgyrch careiau’r Enfys, hyrwyddo digwyddiadau ymwybyddiaeth megis mis Hanes LGBT, Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb a Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia. Rydym wedi gweld cynnydd gwirioneddol o ran ein cydraddoldeb a chynhwysiant LGBT ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio yn ein huchelgais i fod yn lle gwirioneddol gynhwysol i weithio ac astudio “.

Yn y dyfodol mae’r Coleg yn bwriadu ymgysylltu’n fwy helaeth â Pride Cymru a digwyddiadau eraill sy’n ymwneud ag ymgysylltu â’r gymuned; a bydd hefyd yn edrych ar ei phrosesau mewnol e.e. Caffael, i sicrhau bod ein cyflenwyr wedi ymrwymo i gynwysoldeb LGBT.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau