Dysgwyr Creadigol y coleg yn disgleirio yn y BAFTAs

Mae grŵp o ddysgwyr o goleg yng nghymoedd y de wedi gweld eu gwaith creadigol ar lwyfan Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru eleni.

Mae chwe gwneuthurwr propiau o Goleg y Cymoedd wedi bod yn brysur yn dod â mygydau eiconig Seremoni Wobrwyo’r Academi Brydeinig yng Nghymru yn fyw, ar ôl cydweithio â’r elusen ar y prosiect.

Mae’r dysgwyr; Emily Wright, Lee Vowles, Zoe Crisp, Peter Davies, Phil Bryant a Cory Thomas wedi treulio tair wythnos yn gweithio’n ddiflino i greu mwy na 50 o fygydau aur ac arian ar gyfer y gwobrau.

Fel rhan o’r gwaith, roedd gofyn creu mwgwd un metr o uchder ar gyfer y set, yn ogystal â dwsinau o fygydau eraill a wasgarwyd y tu ôl i’r llwyfan, yn y parti ar ôl y digwyddiad ac i’w defnyddio mewn lluniau gyda’r gwesteion.

Rhoddwyd y cyfle i ddysgwyr ar y Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) yn y ‘Celfyddydau Cynhyrchu Creadigol’ a’r BA (Anrh) mewn ‘Teledu a Ffilm: Creu Propiau’ ymgymryd â’r her gyffrous.

Mae’r ddau gwrs wedi’u cynllunio ar gyfer dysgwyr sydd am ddilyn gyrfa mewn effeithiau arbennig neu greu propiau ar gyfer teledu a ffilm, gyda’r ddau gwrs yn rhoi pwyslais cryf ar brofiad gwaith ymarferol.

Dywedodd Emily Wright, 29 oed, o Lantrisant, un o ddysgwyr y coleg sy’n rhan o’r prosiect: “Mae bod yn rhan o’r gwaith o greu mygydau wedi bod yn brofiad anhygoel. Neidiais ar y cyfle  gan fod BAFTA yn enw mor fawr ac mae gwydr ffibr yn sgil bwysig i wneuthurwr propiau, felly roedd yn gyfle gwych i ymarfer ymhellach y sgil hon a chreu gwaith o safon uchel y diwydiant. Cefais gyfle hefyd i addysgu myfyrwyr eraill sut i wneud y gwydr ffibr a mwynheais drosglwyddo’r sgiliau a ddysgais yn y diwydiant.

“Mae’r profiad wedi bod yn wych o ran adeiladu fy mhortffolio – mae BAFTA mor enwog a bydd yn bendant yn ddeniadol i gyflogwyr posibl yn y dyfodol. Atgyfnerthodd fy uchelgais o fod yn wneuthurwr propiau, yn enwedig ar gyfer y theatr, gwyliau a digwyddiadau mawr. “

Digwyddodd y prosiect ar y cyd â Choleg y Cymoedd yn sgil perthynas y coleg gyda DRESD,  chyflenwr propiau a setiau, a roes y tiwtoriaid cwrs mewn cysylltiad â BAFTA Cymru ar ôl cael cynnig y gwaith yn wreiddiol.

Yn dilyn sesiwn briffio dylunio i’r dysgwyr gan Rebecca Hardy, Rheolwr Gwobrau BAFTA Cymru, a oedd hefyd yn darparu’r offer perthnasol ar gyfer y prosiect, aeth y dysgwyr ati i adeiladu ac addurno’r mygydau gan ddefnyddio technegau gwydr ffibr, gan roi cyfle iddynt roi’r sgiliau a ddysgwyd ganddynt yn ystod eu hastudiaethau ar waith.

Meddai Alistair Aston, arweinydd cwrs ar y BA (Anrh) mewn Creu Propiau ar gyfer Teledu a Ffilm yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae ennill profiad yn y diwydiant ac adeiladu cysylltiadau yn y byd teledu a ffilm yn hynod o bwysig i ddysgwyr sy’n ceisio dilyn gyrfa yn y maes hwn.

“Ein nod yw rhoi digon o gyfleoedd i’r dysgwyr ar ein cyrsiau gwrdd â phobl allweddol sy’n gweithio yn y diwydiant a mynd i weithio gyda thimau cynhyrchu lleol a chenedlaethol. Mae cyn-ddysgwyr wedi gweithio ar brosiectau gwych megis Doctor Who a Casualty, yn ogystal â nifer o ffilmiau nodwedd.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i BAFTA Cymru am ganiatáu i ddysgwyr gymryd rhan yn y gwobrau. Bu’n brofiad gwych i bawb dan sylw ac mae’r dysgwyr wedi bod yn gyffrous iawn datblygu gwaith ar gyfer digwyddiad mor fawreddog. Bydd y profiad yn rhoi sgiliau parod a rhwydwaith o gysylltiadau diwydiant i ddysgwyr eu defnyddio wrth adael. “

Yn dilyn llwyddiant cydweithio eleni, mae’r coleg bellach yn sôn am sut y gallai helpu BAFTA Cymru yn y dyfodol.

Meddai Hannah Raybould, cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Rydym wedi mwynhau cydweithio â dysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd ar gyfer Gwobrau Academi’r Brydeinig yng Nghymru eleni. Yn ogystal â’r categorïau mwyaf adnabyddus fel actor gorau ac actores orau, mae BAFTA Cymru yn ymwneud â dathlu a hyrwyddo’r rhai sy’n gweithio ym meysydd crefft niferus y diwydiant ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent. “

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau