Mae’r byd i gyd yn llwyfan i ddylunydd celfi ifanc o’r Coed Duon

Mae entrepreneur ifanc, creadigol o Gymru wedi sefydlu’i busnes rhyngwladol ei hunan yn gwerthu copïau o gelfi a dillad cymeriadau ffilm – ac mae’n gwneud y cyfan â llaw mewn gweithdy yn ei gardd yn y Coed Duon.
Mae Charlotte Williams, sefydlydd Khepri Props, yn 21 oed ac yn fyfyrwraig addysg uwch yng Ngholeg y Cymoedd. Mae’n defnyddio’i dawn artistig i greu copïau o gelfi a dillad o ffilmiau eiconig gyda’i phortffolio’n amrywio o siwtiau cyfan o arfwisg, helmedau Iron Man, menig dur Batman a hyd yn oed olwyn glofa 8 troedfedd wedi’i dylunio ar gyfer cynhyrchiad yn Theatr Fach y Coed Duon. Mae’n un o ffyddloniaid Ffilm a Comic Con yng Nghaerdydd, yn aml yn gwisgo ei chreadigaethau er mwyn dangos i ddarpar gwsmeriaid beth mae hi’n gallu ei wneud.
Ar ôl cyfnod yn gweithio gyda gwisgoedd yn BBC Wales, ble darganfu ei hangerdd, creadigaeth gyntaf Charlotte oedd pâr o esgidiau uchel y gofod a phenderfynodd ei gosod ar farchnad ar lein Etsy, heb freuddwydio y byddai’n creu cymaint o ddiddordeb. Dyna pryd y penderfynodd Charlotte droi ei hobi’n fenter fusnes o ddifrif a, dros y pedair blynedd diwethaf, mae’r archebion am ei chrefftwaith wedi cynyddu bedair gwaith, llawer o’i busnes yn dod o’r Unol Daleithiau.
Mae Charlotte wedi derbyn cefnogaeth i sefydlu’i busnes oddi wrth Syniadau Mawr Cymru, gwasanaeth ar gyfer entrepreneuriaid ifanc rhwng 5 a 25 oed, sy’n rhan o Wasanaeth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru ac yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Cafodd Charlotte ei chyfeirio at y gwasanaeth gan ei thiwtor yng Ngholeg y Cymoedd, ble mae’n astudio am BA mewn Theledu a Ffilm. Ers hynny mae wedi cael cefnogaeth ariannol a’i mentora gan Lesley Cottrell, Hyrwyddwr Entrepreneuriaeth y coleg.
Mae Charlotte yn cyfarfod yn rheolaidd gyda Lesley sydd, ynghyd â gweddill y tîm Syniadau Mawr Cymru, yn gallu cynnig cyngor busnes iddi a hwb i ddatblygu’i busnes ymhellach.
Wrth sôn am ei gwaith, meddai Charlotte: “Rwyf wastad wedi bod yn berson creadigol a chefais fy nerbyn ar gwrs Addysg Uwch ar sail fy mhortffolio. Rwyf wrth fy modd yn gwneud celfi llwyfan ac rwy’n eithriadol o falch o fod wedi sefydlu busnes tra’n astudio yn y coleg.
“Ers i mi ddod i gysylltiad â Syniadau Mawr Cymru a’r system gefnogi maen nhw’n ei chynnig, rwyf wedi gallu dilyn fy uchelgais creadigol ac wedi derbyn cefnogaeth i sefydlu busnes allan o rywbeth rwy’n ei garu.
“Rhoddodd y gwasanaeth entrepreneuriaeth yng Ngholeg y Cymoedd gyngor i mi ar sut i ymgeisio am grant bach a oedd yn golygu y gallwn brynu offer arbenigol. O ganlyniad, enillais gontract i wneud nifer o fenig dur mawr, felly, yn bendant, mae darganfod y gwasanaeth wedi arwain at fanteision anhygoel i mi.
Meddai Lesley Cottrell, Hyrwyddwr Entrepreneuriaeth yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae Charlotte yn enghraifft ffantastig o fyfyrwraig sy’n cyfuno’i meddwl entrepreneuraidd gyda’i hastudiaethau i ddechrau ei busnes ei hunan. Mae’i hymroddiad i’w busnes yn hynod drawiadol ac rydym i gyd wedi cyffroi wrth weld y busnes yn esblygu ac yn tyfu”.
Wrth i Charlotte gyrraedd tymor olaf ei gradd, mae’n cydbwyso’i busnes gyda’i astudiaethau, ar ben gweithio’n rhan amser mewn siop leol. Mae Charlotte hefyd wedi penderfynu mynd ymlaen i astudio am Dystysgrif Ôl-radd mewn Addyg er mwyn gallu dysgu sgiliau’r celfyddydau creadigol i bobl ifanc, tra’n dal i ehangu’i busnes.
Mae Charlotte yn uchelgeisiol ar gyfer Khepri Props. Mae’n bwriadu cyflogi aelod ychwanegol o staff yn y dyfodol agos sy’n golygu y bydd yn gallu derbyn rhagor o waith a hefyd brosiectau dylunio hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol.
Meddai Charlotte ymhellach: “Roedd fy rhieni, ers pan oeddwn i’n ifanc iawn, wedi fy annog i ddysgu sgiliau megis coginio, gwaith coed neu waith metel. Erbyn hyn, rwy’n medi ffrwyth yr anogaeth drwy droi’r sgiliau hynny’n fenter busnes hyfyw.
“Yn ogystal â datblygu fy musnes, fe hoffwn i hefyd gael cyfle i ddysgu ac annog pobl ifanc gyda doniau creadigol i ddilyn eu hangerdd, tra ar yr un pryd, gael gwared ar y stigma fod y celfyddydau creadigol yn llai o werth na gyrfaoedd mwy academaidd.
Ac meddai tîm Sector y Diwydiannau Creadigol Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ac hyrwyddo talent, criw a gwasanaethau creadigol Cymru er budd busnesau rhyngwladol a chenedlaethol. Mae Syniadau Mawr Cymru wedi helpu i ddatblygu a hyrwyddo talent greadigol Charlotte ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi Charlotte wrth iddi ddatblygu ei busnes yng Nghymru.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau