Mae egin wneuthurwraig ffilm wedi ennill gwobr nodedig am ffilm ddogfen sy’n ceisio dileu’r stigma sy’n perthyn i iechyd meddwl yn dilyn ei brwydr bersonol hi ei hun gyda salwch meddwl.
Gwnaeth Rebecca Feazelle, 23 oed o Gaerffili, argraff ddofn ar feirniaid Gwobrau ‘Zoom Cymru Young Film Makers’ ac ennill y Wobr am y Ffilm Ddogfen orau yn y Seremoni Wobrwyo. Enw’r ffilm ddogfen fer ydy ‘Fragile Minds’ a grewyd fel rhan o’i chwrs BTEC Lefel 3 mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol (Teledu a Ffilm) yng Ngholeg y Cymoedd. Mae’r ffilm yn olrhain ac ystyried brwydr Rebecca ei hun gyda iechyd meddwl.
Yn wreiddiol, yn rhan o aseiniad coleg, bwriad Rebecca oedd dymchwel y rhwystrau o ran salwch meddwl, gan rannu ei phrofiadau ei hun yn y ffilm. Roedd hynny’n cynnwys cyfweliad gyda chynrychiolydd o ‘Mind Cymru’ oedd yn atgynhyrchu’r cyngor roedd Rebecca ei hun wedi’i dderbyn gan yr elusen iechyd meddwl. Roedd y ffilm hefyd yn edrych ar bethau o safbwynt gwyddonol, yn ystyried y prosesau cemegol yn yr ymennydd a allai achosi pyliau o banig, cyflwr y mae Rebecca ei hun wedi dioddef ohono.
Gan sylweddoli talent Rebecca i gynhyrchu ffilm, anogwyd hi gan ei thiwtor yn y coleg, Amanda Stafford, i anfon ei ffilm i gystadlu yng Ngwobrau ‘Zoom Cymru’. Mae’r gwobrau yn cydnabod talentau gorau gwneuthurwyr ffilm ifanc Cymru sy’n rhan o Ŵyl ehangach Ffilm Ieuenctid Ryngwladol Zoom oedd eleni yn dathlu 10 mlynedd ers ei sefydlu. Mae’r ŵyl yn cynnwys cymysgedd o weithdai a dosbarthiadau meistr gan gynhyrchwyr ffilm a thiwtoriaid arbenigol sy’n trosglwyddo eu gwybodaeth i’r egin wneuthurwyr ffilm.
Ar ôl y seremoni wobrwyo ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dywedodd Rebecca: “Roedd yn brofiad rhyfeddol o’r dechrau i’r diwedd. Fy mhrif nod oedd rhoi cyfle i’r bobl hynny heb gyfle i’w llais gael ei glywed, drwyddo i, i gael dweud eu dweud ac i gysuro’r rhai sy’n dioddef yn y dirgel. Drwy gyfrwng Gwobrau Zoom Cymru mae fy ffilm wedi cael ei gweld gan gynulleidfa ehangach. Mae cymaint o bobl eisoes wedi dweud wrtha i ei bod wedi eu helpu ac mae hyn yn deimlad rhagorol.â€
Cyn hyn, roedd Rebecca wedi cwblhau cyrsiau mewn trin gwallt a gofal plant ond nawr yn teimlo ei bod wedi dod o hyd i’w gwaith delfrydol diolch i gwrs Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol yng Ngholeg y Cymoedd. Aeth ymlaen i ddweud: “Roeddwn i’n anobeithiol ym maes technoleg cyn y cwrs hwn a nawr dw i’n defnyddio camerâu ac uwch feddalwedd golygu yn gyson. Mae hefyd wedi agor cymaint o gyfleoedd am brofiad gwaith a fydd, gobeithio yn fy helpu yn y dyfodol.â€
Mae Gwobrau Gwneuthurwyr Ffilm Ifanc Zoom Cymru yn cydnabod talentau gwneuthurwyr ffilm ledled Cymru, yn anrhydeddu’r rhai mewn categorïau megis y Cyfarwyddwr Gorau, y Perfformiad Gorau a’r Animeiddio Gorau.
Roedd Amanda Stafford, tiwtor Rebecca yn Ngholeg y Cymoedd hefyd wrth ei bodd ar ôl y seremoni: “Rydyn ni’n hynod o falch o’r hyn mae Rebecca wedi’i gyflawni. Reodd ganddi stori i’w hadrodd ac ymrwymodd i gyflwyno’r stori honno. Roedd ei gweledigaeth yn glir o’r cychwyn cyntaf ac mae’n wych bod ei gwaith wedi cael ei gydnabod fel hyn. Mae’n ymgorffori’r math o ddysgwyr diwyd sydd gennym yma yng Ngholeg y Cymoedd.â€