Mae Coleg y Cymoedd unwaith eto’n dathlu llwyddiant eithriadol ar draws cyrsiau galwedigaethol a Safon Uwch wrth i ddysgwyr o bob cwr o Gaerffili a Rhondda Cynon Taf gasglu eu canlyniadau a chymryd y camau nesaf yn eu haddysg a’u gyrfaoedd.
Mae’r coleg, y darparwr cymwysterau Safon Uwch mwyaf yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf, wedi cofnodi blwyddyn arall o ganlyniadau academaidd rhagorol, gan gynnwys cyfradd basio o 99.7% a graddau A*-C cryf unwaith eto ar draws ei ddarpariaeth academaidd, yn ogystal â chyfraddau pasio uchel ar draws cymwysterau galwedigaethol. Mae cannoedd o ddysgwyr bellach wedi cadarnhau lleoedd mewn prifysgolion, gyda darparwyr hyfforddiant a’r cyflogwyr gorau ledled gwledydd Prydain.
Yn dilyn llwyddiant y blynyddoedd diwethaf, mae Coleg y Cymoedd yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda chanlyniadau eleni yn adeiladu ar duedd o berfformiad uchel a chynnydd dro ar ôl tro.
Mae Canolfan Safon Uwch y coleg yn Nantgarw wedi gweld blwyddyn arall o ganlyniadau da, gyda chynnydd o 5.5% mewn graddau A*-A o’i gymharu â’r llynedd, a 23 o feysydd pwnc – gan gynnwys y gwyddorau, mathemateg bellach, Saesneg, Cymraeg a hanes – unwaith eto’n nodi cyfraddau pasio o 100%.
Mae’r canlyniadau rhagorol hyn yn tanlinellu cefnogaeth academaidd a bugeiliol eithriadol y Ganolfan, a gydnabuwyd yn gynharach eleni gyda Gwobr Her y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Galluog (NACE). Coleg y Cymoedd oedd yr ail Goleg Addysg Bellach yng ngwledydd Prydain i dderbyn y wobr, sy’n dathlu’r ystod gynhwysfawr o fentrau a gwasanaethau sydd ar waith i helpu dysgwyr Safon Uwch mwy abl a thalentog i gyrraedd eu potensial academaidd llawn.
Ochr yn ochr â llwyddiant academaidd, mae dysgwyr sy’n cwblhau cymwysterau galwedigaethol hefyd wedi cyflawni canlyniadau trawiadol, gyda 900 o fyfyrwyr yn cwblhau cyrsiau Lefel 3 mewn pynciau gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, adeiladu, celfyddydau creadigol, chwaraeon, cyfrifiadura a pheirianneg. Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y coleg i ddarparu addysg dechnegol o ansawdd uchel yn unol ag anghenion y gweithlu lleol a chenedlaethol.
Meddai Jonathan Morgan, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Rydyn ni’n hynod falch o’n dysgwyr a’u cyflawniadau eleni. Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchu nid yn unig eu gwaith caled a’u gwydnwch ond hefyd gefnogaeth ddiysgog ein tiwtoriaid a’n timau cymorth ymroddedig.
“P’un a yw’r dysgwyr yn symud ymlaen i’r brifysgol, at brentisiaethau lefel uwch, neu’n syth i gyflogaeth, rydyn ni’n gwybod eu bod nhw’n ein gadael ni gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i lwyddo yn eu meysydd dewisol.”
Mae cyflawniadau eleni yn dilyn arolygiad diweddar gan Estyn, fu’n canmol amgylchedd dysgu cefnogol y coleg, gwasanaethau bugeiliol cryf, a’r defnydd o offer digidol arloesol fel realiti rhithwir a deallusrwydd artiffisial. Tynnodd yr arolygwyr sylw hefyd at gryfder y dysgu proffesiynol a gweledigaeth strategol glir wedi’i hategu gan arweinyddiaeth foesegol. Yn arbennig, canmolodd Estyn arferion y coleg oedd yn flaenllaw yn y sector a’r cynnydd sylweddol a wnaed ers yr arolygiad diwethaf, yn enwedig o ran canlyniadau dysgwyr.
Fel blynyddoedd blaenorol, mae ymrwymiad y coleg i lesiant dysgwyr a chefnogaeth bersonol wedi chwarae rhan allweddol wrth helpu dysgwyr i oresgyn rhwystrau personol, ariannol ac academaidd i gyrraedd eu nodau. Mae mentrau fel y Cynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Dawnus (TASS), cefnogaeth llesiant helaeth, a llwybrau wedi’u teilwra fel diplomâu Mynediad i Addysg Uwch yn parhau i ehangu cyfranogiad a sicrhau bod gan bob dysgwr y cyfle i ffynnu.
O wyddonwyr a mathemategwyr uchelgeisiol i berfformwyr, gofalwyr ac entrepreneuriaid, mae dysgwyr y Cymoedd yn parhau i gael llefydd yn y prifysgolion a’r gweithleoedd gorau ledled y wlad.
Ymhlith llwyddiannau eleni mae Carys-Megan James, 19 oed, o Lynrhedynog, a gafodd bedair gradd A* mewn Cemeg, Bioleg, Mathemateg a Mathemateg Bellach, gan sicrhau ei lle i astudio Mathemateg ac Ystadegaeth ym Mhrifysgol Warwick. Yn gyn-gynrychiolydd Senedd Ieuenctid gwledydd Prydain sydd wedi siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, mae Carys-Megan yn angerddol dros gyfiawnder cymdeithasol ac yn canmol amgylchedd cefnogol y coleg am ei helpu i ffynnu.
Yn ymuno â hi i ddathlu’r graddau gorau posibl mae Charlie Bainbridge, 18 oed, o Gaerffili, a gafodd raddau A* mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach a Ffiseg, ynghyd ag A mewn Cemeg, a bydd yn astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar ôl ymdopi â gorbryder hirdymor ynghylch teithio, dewisodd Charlie aros yn agos at adref i flaenoriaethu ei lesiant wrth ddilyn ei uchelgais academaidd.
Dysgwr arall amlwg yw Olwen Watts, 18 oed, o Gaerffili, a gafodd A*A*A mewn Mathemateg, Cymdeithaseg, a Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, ac sydd wedi sicrhau lle i astudio Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerwysg yn 2026. Ar hyn o bryd ar flwyddyn o seibiant yn teithio’r byd, mae Olwen yn teithio ac yn gweithio yn Seland Newydd ac Awstralia i ennill profiad bywyd cyn gyrfa yn y dyfodol mewn diplomyddiaeth neu waith dyngarol.
Yn cynrychioli adran alwedigaethol Coleg y Cymoedd mae’r dysgwyr o Gaerffili, Dylan Griffiths, 19 oed, a Leon Hayton, 18 oed. Mae Dylan yn dathlu ar ôl cwblhau ei ddiploma Ymarferwyr Cerddoriaeth tra’n derbyn triniaeth am lymffoma Hodgkin cam 3. Bellach yn ddi-ganser, mae Dylan wedi sicrhau lle i astudio Cerddoriaeth Fasnachol Boblogaidd ym Mhrifysgol De Cymru ac mae’n breuddwydio am yrfa fel cynhyrchydd cerddoriaeth neu berfformio gyda’i fand ei hun.
Yn y cyfamser, mae Leon, a enillodd Deilyngdod yn ei Ddiploma Lefel 1 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus, wedi dychwelyd o haf yn Utah yn gweithio yn Camp America – gwersyll arbenigol ar gyfer pobl ifanc ag anghenion ychwanegol. Rhoddodd y profiad sgiliau newydd iddo, hwb i’w hyder, gan ysbrydoli ei uchelgais am yrfa ym maes plismona neu ofal cymdeithasol.
Gyda cheisiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf eisoes ar agor a buddsoddiadau newydd mewn darpariaethau digidol, gofal iechyd, a chynaliadwyedd ar y gweill, mae Coleg y Cymoedd yn edrych ymlaen at groesawu ei genhedlaeth nesaf o ddysgwyr ym mis Medi.