Abigail Stinton.

Dysgwraig 18 oed o Tylorstown ar y ffordd i wireddu ei breuddwyd o gael gyrfa ym maes cardioleg

Mae darpar ffisiolegydd y galon, o Tylorstown, gam yn nes i wireddu ei breuddwyd o yrfa ar ôl sicrhau’r graddau i gychwyn gradd ffisiolegydd y galon ym Mhrifysgol Leeds.

Llwyddodd Abigail Stinton, 18 oed, i ennill gradd D mewn Mathemateg. gradd A mewn Bioleg, gradd B mewn Cemeg yn ei Lefel A yn ogystal â Bagloriaeth Cymru a bydd nawr yn ymrestru ar gwrs gradd BSc tair blynedd.

Fel un oedd wedi caru bioleg ac anatomi erioed, meddyliodd y ddysgwraig o Goleg y Cymoedd mai ei hunig opsiwn oedd dilyn gradd feddygol hirfaith ac o bosibl fod yn llawfeddyg.

Fodd bynnag, mae’n rhoi’r clod i ymgynghorydd goleuedig am droi at faes cardioleg, opsiwn gyrfa mewn maes meddygol, yr un mor ddiddorol ond yn llai dwys.

Ar ôl cael gwybod am y llwybr tair blynedd i mewn i faes cardioleg, newidiodd Abigail ei ffocws ac anelu i fod yn weithiwr meddygol proffesiynol yn gyfrifol am ddiagnosio a thrin cleifion yn dioddef o afiechydon y galon.

Chwiliodd am brifysgolion penodol yn y DU oedd yn cynnig y ddisgyblaeth a phenderfynodd ar Leeds lle bydd yn cychwyn ar ei chwrs mewn ychydig o wythnosau.

Eglurodd: “Rydw i wedi caru bioleg ac anatomi erioed ond roeddwn i’n meddwl mai fy unig opsiwn oedd dilyn cwrs meddygol 5 mlynedd ac yna cychwyn ar y llwybr maith i fod yn llawfeddyg.

“Fodd bynnag, roedd gen i bryderon am hyd a dwyster y llwybr gyrfaol hwn a doeddwn i ddim yn siŵr mai hwn oedd y dewis iawn i mi. Ar hap, mewn gwirionedd, ces air gydag ymgynghorydd gyrfaol a agorodd fy llygaid i’r posibilrwydd o yrfa mewn cardioleg, gan fynd ar lwybr gradd arferol uniongyrchol i mewn i’r maes.

“Rydw i tu hwnt o ddiolchgar i’r ymgynghorydd hwnnw oherwydd, hyd yn oed nawr, does fawr neb wir yn sylweddoli bod ffisioleg y galon yn ddisgyblaeth feddygol ar wahân sy’n llai dwys ond yr un mor bwysig a diddorol.”

Yn debyg i nifer o bobl ifanc yn eu harddegau yn derbyn eu canlyniadau lefel A eleni, cwblhaodd Abigail swmp o’i hastudiaethau yn ystod y pandemig a olygai nad oedd llawer o ddosbarthiadau wyneb yn wyneb.

Yn ogystal â’i hastudiaethau academaidd, mae hi hefyd yn gerddor talentog a enillodd radd 8 piano yn ystod y pandemig – a’r paratoi a’r gwersi hynny hefyd wedi bod dros Zoom.

Aeth yn ei blaen i ddweud: “Roedd y tiwtoriaid yng Ngholeg y Cymoedd yn wych gan gynnig yr adnoddau gorau posibl i ni. Aethon nhw’r ail filltir i roi popeth oedd ei angen arnon ni ar adeg mor ryfedd. Doedd cael Gradd 8 piano ddim yn hawdd chwaith, dan yr amgylchiadau, ond dwi’n meddwl bod cael hunan-ddisgyblaeth yn baratoad da ar gyfer prifysgol, felly, yn sicr mae rhywbeth da wedi deillio ohono!”
y
Mae Abigail nawr yn edrych ymlaen at gychwyn ar ei hastudiaethau, rhywbeth y mae hi’n ymfalchïo ei bod wedi ei gyflawni a hithau’n dod o dref fach yng Nghymru.

Ychwanegodd: “Rydw i wedi teimlo’n hyderus yn fy ngalluoedd erioed ac wedi talu sylw iddyn, ond dydych chi ddim bob amser yn clywed straeon positif o drefi fel ein rhai ni. Mae fy nheulu yn gyffredinol yn gefnogol tu hwnt. Fi ydy’r ifancaf o bedwar gyda thri brawd clyfar hŷn ac rydw i wedi eu hedmygu nhw hefyd.”

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau